Genweirwyr o bob gallu yn cael y cyfle i bysgota yn afon Tawe
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwelliannau diweddar a fydd yn galluogi genweirwyr o bob gallu i gael mynediad at afon Tawe yng Nghlydach, Abertawe, er mwyn dilyn eu camp o bysgota mewn afonydd.
Yn rhan o’r gwaith, adeiladwyd llwybrau, grisiau a phlatfformau sy’n cynnig rhywle diogel i gyrraedd mannau pysgota ar hyd yr afon, ac mae’n cynnwys adnewyddu platfform genweirio anabl sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Dywedodd uwch-swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru, Dave Charlesworth:
“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gorchwyl i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru, ac mae ail-fuddsoddi refeniw sy’n deillio o werthu trwyddedau pysgota â gwialen yn un ffordd y gallwn sicrhau bod pobl o bob gallu yn cael mannau pysgota o safon uchel yn agos i ble maen nhw’n byw.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymdeithas genweirio leol, Cymdeithas Genweirio Mond, i ddatblygu ei hisadeiledd genweirio fel ei bod hi’n haws i aelodau gyrraedd afon Tawe i bysgota.
“Yn wir, dyma un o’r prin leoliadau ar hyd afonydd yn ne-orllewin Cymru sy’n cynnig cyfle realistig i enweiriwr anabl ddal eog".
Dywedodd Mike Oliver, Ysgrifennydd Cymdeithas Genweirio Mond:
“Bydd y gwelliannau hyn y mae mawr eu hangen ar ein darn ni o afon Tawe yn galluogi ein haelodau ifanc, hŷn ac eiddil i fanteisio ar yr afon, ac oherwydd y grisiau newydd ar ochr Abertawe o Bont Glais, gallwn fynd i leoedd yn is ar yr afon am y tro cyntaf erioed.
“Mae gan Gymdeithas Genweirio Mond gysylltiad hir â Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Purfa Nicel Cwm Clydach, a bydd gwelliannau Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyd y darn hwn o’r afon yn galluogi mwy o bobl i fwynhau manteision cymdeithasol ac iechyd pysgota ar gyfer brithyllod, brithyllod y môr ac eogiaid.”
Archwilio mwy
Yn yr adran hon hefyd
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.