Prosiect cychod segur sydd wedi eu gadael am ganolbwyntio ar Aber Afon Dyfrdwy

Gofynnir i berchnogion cychod yn Aber Afon Dyfrdwy gymryd rhan mewn cynlluniau i helpu i fynd i'r afael â phroblem hen gychod segur sydd wedi’u gadael sydd mewn perygl o ryddhau llygryddion niweidiol i'r amgylchedd. 

Mae hen gychod segur sydd wedi’u gadael o amgylch arfordir Cymru yn achosi problemau helaeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig drwy gyfyngu ar faint cynefin, a hefyd gan eu bod yn rhyddhau microblastigau a llygryddion o olew, disel a phaent rhag tyfiant.

Erbyn hyn mae arbenigwyr sy'n gweithio ar y Prosiect Atal Sbwriel Môr a Hen Gychod Segur, sy'n rhan o raglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi Aber Afon Dyfrdwy yn y Gogledd fel yr ardal gyntaf lle byddant yn canolbwyntio eu hymdrechion.

Lansiwyd y prosiect yn 2022 dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae tîm y prosiect wedi nodi a mapio lleoliadau’r llongau trafferthus hyn o amgylch Cymru â'u catalogio.

Mae’r prosiect bellach yn ei ail flwyddyn, a’r gobaith yw, drwy weithio gyda phartneriaid ac aelodau'r gymuned, y bydd y gwaith o gael gwared ar gychod diffaith a nodwyd mewn lleoliadau wedi'u targedu yn dechrau - ac Aber Afon Dyfrdwy fydd yr ardal ffocws gyntaf ar gyfer hyn. Yn ystod ei flwyddyn olaf, bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu canllawiau ar gael gwared o gychod a bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar atal gadael hen gychod segur ac atal sbwriel morol.

Gwahoddiad i randdeiliaid: Sesiwn galw heibio ar 20 Tachwedd

Cyn cynnal unrhyw waith yn Aber Afon Dyfrdwy, mae’r tîm prosiect wedi trefnu sesiwn galw heibio ar 20 Tachwedd ar gyfer yr holl berchnogion sy'n cadw eu cychod yn Noc Maes Glas, 'Yr Holy' ym Magillt neu yng Nghei Connah er mwyn iddynt ddysgu mwy am y prosiect a chydweithio arno.

Cynhelir y sesiwn galw heibio am 3pm ar 20 Tachwedd 2023 yn Neuadd yr Hen Ysgol ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

Meddai Joanna Soanes, Rheolwr y prosiect: “Mae sicrhau bod cychod yn cael eu gwaredu'n briodol pan fyddant yn nesáu at ddiwedd eu hoes yn gofyn am ddull cyfannol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu strategaeth rheoli 'oes gyfan' y cwch er mwyn sicrhau buddion amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer y dyfodol.
“Hoffem wahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn drwy ymgysylltu â'r prosiect yn ystod y sesiwn galw heibio ym Maes Glas.”

Mae'r Prosiect Atal Sbwriel Morol a Hen Longau Segur yn rhan o'r rhaglen Rhwydweithiau Natur tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru drwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau.