Dyn o Gastell-nedd yn talu’n ddrud am gasglu gwastraff yn anghyfreithlon

Deunyddiau gwastraff a geir yn Mochan's van

Mae dyn o Gastell-nedd wedi gorfod talu’n ddrud am weithredu busnes casglu gwastraff metel heb drwydded cludydd gwastraff.

Mae'n rhaid i Michael Rhys Mochan, o barc carafannau Giants Wharfe, Llansawel, Castell-nedd dalu cyfanswm o £3,420 mewn dirwyon a chostau llys ar ôl pledio'n euog i gludo gwastraff a reolir heb gofrestru fel cludydd gwastraff gyda CNC.

Plediodd yn euog i'r drosedd yn Llys Ynadon Abertawe ar 27 Tachwedd 2023 a chafodd ddirwy o £1,000. Rhaid iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £400 a chostau ymchwilio llawn CNC o £2,025.

Cafodd yr achos ei ddwyn i'r llys yn dilyn proses stopio a gwirio ar unigolyn a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi gyda CNC:

"Cafodd Mochan lawer o gyfleoedd i gofrestru am drwydded cludydd gwastraff pan gafodd ei stopio i ddechrau ac mewn achosion dilynol ar ôl y digwyddiad hwnnw. Anwybyddodd yr holl gyngor a rhybuddion i gydymffurfio, felly ein hunig ddewis oedd cymryd camau cyfreithiol.
"Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cludo gwastraff ar ffordd gyhoeddus feddu ar drwydded cludydd gwastraff. Nid yw'n ddrud dal trwydded o'r fath ac mae'r broses ymgeisio yn hawdd. Nid oes esgus dros beidio â gwneud cais ac mae'r canlyniad hwn yn y llys yn arwydd clir y byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n anwybyddu'r gyfraith yn barhaus.
"Mae'r rheoliadau hyn ar waith o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1989 i atal gwarediadau gwastraff anghyfreithlon, tipio anghyfreithlon, i ddiogelu'r amgylchedd a chreu sefyllfa deg i'r busnesau sy'n gweithredu'n gyfreithlon yn y diwydiant gwastraff."

Ar 13 Ebrill 2023, cynhaliodd swyddog o Heddlu Dyfed-Powys, ar secondiad yn CNC, a Swyddog Gorfodi CNC wiriad ar ochr y ffordd ar gyfer trwydded cludo gwastraff ar ddau ddyn a oedd yn galw o dŷ i dŷ yn Sir Gaerfyrddin yn casglu metel sgrap gwastraff fel rhan o'r busnes y dywedon nhw eu bod yn ei weithredu.

Cafodd Mochan ei enwi fel gweithredwr y busnes ac nid oedd yn gallu dangos trwydded cludydd gwastraff, a fyddai wedi profi ei fod yn gweithredu ei fusnes yn gyfreithlon.

Yn ystod y gwiriad, cytunodd i gofrestru gyda CNC fel cludydd gwastraff ac fel deliwr metel sgrap gyda'r awdurdod lleol perthnasol i sicrhau ei fod yn gweithredu'n gyfreithlon.

Cafodd ei riportio gan CNC am y drosedd o gario a chasglu gwastraff a reolir heb awdurdod i wneud hynny. Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddelio ag ef am ddiffygion i'w gerbyd ac am beidio â meddu ar yswiriant ar gyfer ei gerbyd.

Cysylltodd swyddog gorfodi CNC ag ef eto ar ôl y digwyddiad a rhoddwyd gwybodaeth a dogfennaeth berthnasol iddo i'w gynorthwyo gyda'i gais.

Byddai trwydded cludydd gwastraff CNC wedi costio £154 am dair blynedd. Byddai trwydded deliwr sgrap gyda'r cyngor perthnasol wedi costio £260 i Mochan am dair blynedd.                                                                             

Yn hytrach, anwybyddodd Mochan y cyngor a roddwyd ac ni wnaeth gofrestru fel cludydd gwastraff cyfreithlon. Oherwydd y methiant hwn i gydymffurfio, penderfynodd CNC gymryd camau cyfreithiol.

Dywedodd y Cwnstabl Roger Jones, Heddlu Dyfed-Powys sydd ar secondiad gyda CNC:

"Rwy'n falch bod ein gwiriad ar yr unigolyn hwn ar ochr y ffordd yn un o'n cymunedau gwledig wedi arwain at gamau llwyddiannus yn y llysoedd ac wedi atal Mochan rhag parhau i weithredu busnes anghyfreithlon.
"Mae cydweithio rhwng CNC a'r heddlu yn helpu i frwydro yn erbyn troseddau amgylcheddol a dylai pobl gymryd sylw ein bod yn patrolio ac yn gweithio i sicrhau bod busnesau gwastraff yn gweithredu’n briodol, er mwyn diogelu'r amgylchedd a'n cymunedau gwledig."

Mae gwybodaeth am sut i gofrestru fel cludydd gwastraff ar gael ar wefan CNC:                                    Cyfoeth Naturiol Cymru / Enghreifftiau o gludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr

I weld a yw unrhyw gontractwr yn gludydd gwastraff cofrestredig, gall aelodau o'r cyhoedd edrych ar Gronfa Ddata Cofrestrfa Gyhoeddus CNC:                                                                                                         Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestr gyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff