Allwch chi helpu i ddod o hyd i bysgod cynhanesyddol yn ein hafonydd?
Er mwyn nodi Mis Gwyddoniaeth y Dinesydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lansio adnoddau newydd sydd wedi'u cynllunio i helpu'r cyhoedd i adnabod llysywod pendoll yn ein dyfroedd.
Cafodd yr adnoddau adnabod newydd eu datblygu gan brosiect Pedair Afon LIFE CNC ac maen nhw’n disgrifio'r tair gwahanol rywogaeth o lysywod pendoll a sut i ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt.
Mae hefyd yn disgrifio eu hardaloedd bridio, y cyfnodau y maen nhw’n dreulio yn silio mewn gwahanol afonydd a sut i sylwi ar unrhyw effaith bosibl o ganlyniad i rwystrau a newidiadau i gynefinoedd afonydd.
Mae llysywod pendoll yn bysgod tebyg i lysywod cynhanesyddol sydd wedi bod o gwmpas ers bron i 400 miliwn o flynyddoedd. Mae ganddyn nhw geg sy’n sugno ar ffurf disg a chylch o ddannedd miniog, a ddefnyddir i gydio’n dynn yn eu hysglyfaeth wrth fwydo, neu i symud cerrig wrth adeiladu eu claddau (nythod).
Ceir tair rhywogaeth o lysywod pendoll; llysywen bendoll yr afon, llysywen bendoll y nant a llysywen bendoll y môr, ac mae pob un i'w chael yn y Deyrnas Unedig. Mae'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bellach maen nhw i gyd yn cael eu hystyried yn rhywogaethau prin a gwarchodedig.
Fel yn achos llawer o'n rhywogaethau dŵr croyw, y bygythiad mwyaf i’r llysywen bendoll yw colli cynefin a llygredd.
Gall pridd a gwaddod sy'n erydu o’r tir ar ymylon afonydd lenwi’r bylchau rhwng cerrig crynion a graean ar waelod ein hafonydd, gan orchuddio'r cynefin sydd ei angen ar lysywod pendoll i ddodwy eu hwyau ac atal ocsigen rhag cyrraedd yr wyau.
Hefyd, gall strwythurau o waith dyn fel coredau ac argaeau amharu ar eu symudiad. Nid yw’r llysywen bendoll yn gallu neidio ond yn hytrach bydd yn gorfod nofio neu 'sugno' ei ffordd dros rwystrau. Mae hyn yn ei harafu ac yn gwastraffu’r egni gwerthfawr sydd ei angen arni wrth chwilio am ardaloedd bridio ymhellach i fyny'r afon.
Meddai Sophie Gott, Swyddog Monitro Pedair Afon LIFE: "Mae cymryd rhan mewn prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion fel hyn yn ffordd ardderchog o gefnogi'r gymuned wyddonol a gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd."
Meddai hefyd: "Rydyn ni bob amser yn chwilio am gymorth i helpu i lenwi’r bylchau yn ein gwybodaeth am lysywod pendoll. Bydd y data sy’n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i fapio'u hardaloedd bridio yn ogystal â'u cynefin. Bydd hefyd yn ein helpu i nodi pryd yn union maen nhw’n bridio mewn gwahanol afonydd; a nodi unrhyw effaith bosibl o ganlyniad i rwystrau a newidiadau i gynefinoedd afonydd."
Mae gwybodaeth am lysywod pendoll yn gyfyngedig yn y Deyrnas Unedig. Mae rhywfaint o dystiolaeth hanesyddol am gynefin llysywen bendoll y môr ar gael, ond ychydig sydd wedi'i gasglu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r wybodaeth sydd ar gael am arferion bridio llysywen bendoll yr afon a’r nant hefyd yn gyfyngedig.
Bydd yr adnoddau adnabod newydd hyn yn helpu'r cyhoedd i gasglu data a fydd, yn ei dro, yn ehangu'r sylfaen wybodaeth am lysywod pendoll ac yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o'r rhywogaethau hyn a sut i'w gwarchod.
Bydd y cofnodion yn cael eu hadrodd i'r Gronfa Ddata Rhwydwaith Bioamrywiaeth Genedlaethol.
Er mwyn gofyn am yr adnoddau newydd ar gyfer adnabod llysywod pendoll anfonwch e-bost i 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.onmicrosoft.com