Lefelau’r Gymraeg
A0 – Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg
Nid wyf yn gallu:
Dealltwriaeth
- Deall Cymraeg
Siarad
- Siarad Cymraeg
Darllen
- Darllen Cymraeg
Ysgrifennu
- Ysgrifennu yn Gymraeg
A1 – Lefel Mynediad
Rwy’n gallu:
Dealltwriaeth
- Deall cyfarchion syml bob dydd
- Deall testun byr, lle mae pobl wedi darparu gwybodaeth bersonol sylfaenol amdanaf fi neu eraill, e.e. ar Ffurflenni
- Deall ymadroddion syml
Siarad
- Defnyddio cyfarchion bob dydd cyfarwydd ag ymadroddion sylfaenol iawn
- Cyflwyno fy hun i eraill, gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol e.e. lle mae person yn byw a gweithio, beth maen nhw’n hoffi gwneud a phwy maen nhw’n adnabod, amseroedd a rhifau
- Rwy’n gallu cyfathrebu mewn ffordd syml os yw’r person yn siarad yn araf ac yn glir
Darllen
Nid wyf yn gallu:
- Darllen Cymraeg
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- Cyfleu neges ysgrifenedig syml neu wneud cais syml e.e. drwy e-bost
A2 – Lefel Sylfaen
Rwy’n gallu:
Dealltwriaeth
- Deall pan fydd pobl yn siarad yn araf, brawddegau am sefyllfaoedd cyfarwydd bob dydd e.e. gwybodaeth bersonol a gwybodaeth deuluol sylfaenol, trafod materion syml sy’n gysylltiedig ȃ gwaith, gan gynnwys beth mae person wedi’i wneud neu beth fyddent yn wneud.
- Deall negeseuon ysgrifenedig am faterion bob dydd a llythyrau/e-byst syml.
Siarad
- Cynnal sgwrs syml am bynciau cyfarwydd bod dydd, disgrifio agweddau amdan fy ngorffennol a materion am fy anghenion uniongyrchol.
Darllen
Nid wyf yn gallu:
- Darllen Cymraeg
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- Ysgrifennu negeseuon byr am bynciau cyfarwydd bob dydd gyda chydweithwyr e.e. trosglwyddo neges
B1 – Lefel Canolradd
Rwy’n gallu:
Dealltwriaeth
- Deall y prif bwyntiau pan fydd person yn trafod materion ar bynciau bob dydd sy’n ymwneud tu mewn neu du allan y gweithle, neu pan fydd materion gwaith yn cael eu trafod e.e. mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach
- Deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol sy’n ymdrin â phynciau neu bynciau sy’n ymwneud â gwaith dyddiol
Siarad
- Cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr Cymraeg ar bwnc cyfarwydd sy’n ymwneud gyda e.e. diddordebau, teithio, neu bynciau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith
- Ddisgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau, rhoi eglurhâd byr a rhesymau am fy marn a’n cynlluniau
Darllen
- Darllen a deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol yn ymdrin â phynciau neu yn ymwneud gyda gwaith dyddiol
Ysgrifennu
- Ysgrifennu llythyr/e-bost ar bynciau cyfarwydd e.e. gofyn am bethau, rhoi gwybodaeth, gwahodd person neu drefnu digwyddiad
B2 – Lefel Ganolradd Uwch
Dealltwriaeth
- Deall mwyafrif o drafodaethau gan gynnwys rhai trafodaethau technegol e.e. trafodaethau sy’n digwydd mewn cyfarfodydd
Siarad
- Cyfathrebu a mynegi barn ar faterion cyfarwydd sy’n gysylltiedig â gwaith e.e. mewn cyfarfodydd
- Disgrifio materion yn ymwneud gyda gwaith yn glir ac ymhelaethu gyda esiamplau
Darllen
- Ddarllen a deall y mwyafrif o wybodaeth gan gynnwys rhai agweddau technegol yn ymwneud â gwaith
Ysgrifennu
- Darnau byr ar ystod eang o bynciau yn ymwneud gyda fy ngwaith a meysydd o ddiddordeb gyda chymorth gwiriwr sillafu, geiriadur neu gymorth technegol
- Cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys fy marn ar fanteision ac anfanteision opsiynau
C1 – Lefel Hyfedredd
Rwy’n gallu:
Dealltwriaeth
- Dilyn rhan fwyaf o sgyrsiau neu drafodaethau, hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd, oni bai bod person yn siarad gyda acen gref ac anghyfarwydd e.e. mewn cynhadledd neu wrth siarad ar bwnc ar dechnegol neu arbenigol iawn
Siarad
- Yn hyderus â siaradwyr rhugl am bynciau cyfarwydd sy’n ymwneud gyda bywyd bob dydd a materion gwaith
- Mynegi fy marn, cymryd rhan mewn trafodaethau, siarad yn health ar bynciau cyffredinol
Darllen
- Deall y mwyafrif o ohebiaeth, erthyglau papurau newydd ac adroddiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda chymorth geiriadur, ac i sganio testun hir i ddod o hyd i fanylion
Ysgrifennu
- Ysgrifennu erthyglau byr, llythyron busnes ac adroddiadau ar ystod o bynciau cyffredinol, neu yn ymwneud â gwaith, ac ymateb yn gywir i’r mwyafrif o ohebiaeth gan gysylltiadau mewnol neu allanol gyda chymorth golygyddol.
C2 – Lefel Hyfedredd Uwch
Dealltwriaeth
- Deall bron popeth a ddywedwyd neu a glywyd
- Crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol
Siarad
- Siarad yn health ar faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau (e.e. rhoi cyflwyniadau neu gyfweliadau i’r wasg yn Gymraeg)
- Mynegi fy hun yn rhugl a manwl, addasu fy arddull iaith yn ôl y gynulleidfa e.e. mewn cyd-destun ffurfiol neu anffurfiol (e.e. cynnal trafodaethau, defnyddio termau technegol)
Darllen
- Crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol
Ysgrifennu
- Ysgrifennu llythyron ac e-byst ffurfiol yn Gymraeg gyda chymorth golygu, ac ysgrifennu adroddiadau yn Gymraeg
- Cymryd nodiadau cywir mewn cyfarfodydd a seminarau
Diweddarwyd ddiwethaf