Parcmon Bywyd Gwyllt dan Hyfforddiant
Dyddiad cau: 31/08/2025 | Cyflog: Gradd 3X: £33,995 - £36,372 | Lleoliad: Llanddinol, Cas-Gwent
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Bywyd Gwyllt / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £33,995 yn codi i £36,372 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 19/10/2027
Patrwm gwaith: 44 awr. Bydd yn ofynnol i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol, yn ddyddiol ac yn dymhorol, gan gynnwys rhai shifftiau gyda’r nos.
Dyddiad cyfweld: 23 & 25/09/2025
Rhif swydd: 204056, 204057
Y rôl
A ydych chi'n angerddol am reoli bywyd gwyllt, coedwigaeth a'r amgylchedd naturiol? Ymunwch â'n tîm Rheoli Bywyd Gwyllt ac ymgymerwch â rôl hanfodol i gefnogi’r gwaith o reoli bywyd gwyllt a choetiroedd yn gynaliadwy yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle hyfforddeiaeth cyffrous i unigolion sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster ym maes rheoli bywyd gwyllt, megis BTEC Diploma Cenedlaethol, BTEC Diploma Cenedlaethol Uwch, neu Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Tir a Bywyd Gwyllt.
Fel swyddog cymorth technegol dan hyfforddiant ym maes rheoli bywyd gwyllt, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm rheoli bywyd gwyllt Cymru gyfan. Yn debyg i rolau parcmon bywyd gwyllt dan hyfforddiant eraill ar draws y diwydiant, byddwch yn dysgu rôl rheoli bywyd gwyllt trwy fentora a rhaglen hyfforddi benodol i'r rôl a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich set sgiliau a'ch gallu i'r safon ofynnol ar gyfer rôl cymorth technegol ym maes rheoli bywyd gwyllt.
Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio arfau tanio, a chynorthwyo gyda rheoli ceirw a mamaliaid eraill i amddiffyn adfywio coetiroedd, ailstocio coedwigoedd a bioamrywiaeth ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Byddwch wedi'ch lleoli yn swyddfa CNC yn Llanddinol ger Cas-gwent NP16 6BZ i ddechrau. Fel rhan o'ch rhaglen ddysgu, byddwch yn treulio cyfnod o amser yn gweithio gyda phob aelod o'r tîm ym mhob lleoliad pantri ledled Cymru. Bydd elfen o deithio a gweithio i ffwrdd o gartref yn gysylltiedig â'r rôl hon.
Os ydych chi'n hunangymhellol ac yn drefnus ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa mewn rheoli bywyd gwyllt yn gynaliadwy wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Adrian Thomas adrian.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn Nhrefynwy NP25 3NQ.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Fel tîm Cymru gyfan, rydym yn gyfrifol am reoli bywyd gwyllt yn gynaliadwy er mwyn lleihau'r difrod a achosir gan famaliaid gwyllt i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Rydym yn cefnogi gwaith rheoli coetiroedd amlswyddogaethol, sef cyflawni’r gwaith o gynhyrchu pren yn gynaliadwy o fewn amcanion CNC o ran natur, hinsawdd a llygredd.
Fel aelod allweddol o'r tîm Rheoli Bywyd Gwyllt, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r swyddogion cymorth technegol, swyddogion, ac arweinydd y tîm i gyfrannu at reolaeth gynaliadwy Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Fel tîm, rydym yn gweithio ochr yn ochr â thimau gweithrediadau coedwigaeth, rheoli tir a pheirianneg ledled Cymru ac yn darparu cymorth arbenigol iddynt ym maes bywyd gwyllt a chadwraeth. Mae'r tîm wedi'i leoli mewn amrywiol leoliadau ledled Cymru ac yn gweithio i'r pedwar pantri ceirw sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn Resolfen, Llanddinol, Bleddfa a Maesgwm.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- O dan gyfarwyddyd y rheolwr llinell, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglenni rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys difa ceirw a chynorthwyo gyda chreu a chynnal a chadw'r seilwaith o fewn y goedwig, llennyrch a rhodfeydd i alluogi rheoli ceirw yn ddiogel ac yn effeithlon.
- Byddwch yn ymgymryd â hyfforddiant rheoli bywyd gwyllt arbenigol sy'n berthnasol i'r diwydiant a hyfforddiant penodol i dasgau wrth fodloni'r safonau gofynnol.
- Bydd gofyn i chi gyflawni'r holl waith yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lesiant, iechyd a diogelwch CNC.
- Fel gweithredwr arfau tanio cymwys, byddwch yn sicrhau cydymffurfedd llawn â thrwyddedu arfau tanio'r heddlu, a'r holl ddeddfwriaeth arfau tanio berthnasol, yn fewnol ac yn allanol.
- Cynnal data cywir ynghylch didol a difa mamaliaid o fewn System Cofnodion Pantri Ceirw CNC a sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi'n brydlon ar y System Rheoli Dogfennau.
- Byddwch yn cefnogi trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant mewn gweithrediadau rheoli bywyd gwyllt ac yn cynnal y safonau sy'n ofynnol i fodloni cydymffurfedd ag ISO14001, Safon Cig Carw Gwyllt o Ansawdd Prydeinig a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig bob amser.
- Cynnal cydymffurfedd llawn â’r Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) a’r Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru), yn benodol mewn perthynas â chynhyrchu cynradd o ran carcasau ceirw.
- Mynychu cyfarfodydd y tîm rheoli bywyd gwyllt. Byddwch yn cael hyfforddiant a chymorth tuag at arferion gwaith diogel ar gyfer defnyddio unrhyw offer dan gyfarwyddyd cydweithiwr profiadol.
- Bydd gofyn i chi sicrhau bod offer o fewn eich cyfrifoldeb megis arfau tanio yn cael eu diogelu pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Bod arfau tanio yn cael eu cynnal yn llawn a'u defnyddio yn unol â'r holl ganllawiau, rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol.
- Bydd yn ofynnol i chi gyfathrebu’n effeithiol â thrydydd partïon, a fydd yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a thirfeddianwyr.
- Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr i weithredu rhaglen gynlluniedig o reoli cynefinoedd ac archwiliadau diogelwch safle ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a'r tir rydyn ni'n ei reoli, gan gynnwys helpu i gynnal a gwirio seilwaith perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Tystysgrif Arfau Tanio’r Heddlu (hanfodol).
- Rhaid meddu ar gymhwyster rheoli bywyd gwyllt, megis Diploma Cenedlaethol BTEC, Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC neu Lefel 3 Tir a Bywyd Gwyllt (hanfodol).
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da, gan gynnwys MS Office a systemau cofnodi data (hanfodol).
- Trwydded yrru lawn y DU (hanfodol).
Gofynion y Gymraeg
- Dymunol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.