Uwch-ymgynghorydd Datblygu a Pherygl Llifogydd
Dyddiad cau: 31/08/2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dadansoddiad Risg Llifogydd / Tystiolaeth, Polisi a Gweithdrefn
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld:10/09/2025
Rhif swydd: 204019
Y rôl
Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol cynllunio profiadol a brwdfrydig i helpu i lunio dyfodol datblygu seilwaith yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i ymuno â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth inni ymateb i fuddsoddiad mawr Llywodraeth Cymru mewn prosiectau morol, datgarboneiddio ac ynni niwclear.
Fel Cynghorydd Arbenigol Cynllunio Datblygu a Pherygl Llifogydd, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gryfhau cyngor cynllunio a rheoleiddio CNC – yn enwedig o ran y perygl o lifogydd a diogelu'r amgylchedd. Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau clir a hygyrch a chyngor sefydlog i gefnogi proses o wneud penderfyniadau cynllunio a thrwyddedu effeithlon ac o ansawdd uchel ledled Cymru.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar greu a mireinio deunyddiau canllaw ac ymatebion sefydlog. O’r ail flwyddyn, bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng cefnogi'r timau Datblygu Gweithredol a Pherygl Llifogydd gyda gwaith achos a datblygu cyngor cynllunio a thrwyddedu ymhellach.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar ddealltwriaeth gref o system gynllunio Cymru, gan gynnwys deddfwriaeth allweddol fel Nodyn Cyngor Technegol 15, y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, y Rheoliadau Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Bydd angen ichi fod yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, gan allu symleiddio materion technegol cymhleth, ac yn fedrus wrth ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid – o gydweithwyr ar draws CNC i awdurdodau lleol a swyddogion y llywodraeth.
Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i wneud gwir effaith drwy helpu i gyflwyno system gynllunio a thrwyddedu fwy cyson, ymatebol a chynaliadwy – gan gefnogi datblygu cyfrifol wrth ddiogelu pobl, eiddo a'r amgylchedd naturiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mark Pugh at Mark.Pugh@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae'r rôl hon yn rhan o'r Grŵp Dadansoddi Perygl Llifogydd, rhan o'r adran Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
Mae ein tîm yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod y perygl o lifogydd a chyfyngiadau amgylcheddol yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y broses o wneud penderfyniadau cynllunio a thrwyddedu – gan helpu Cymru i feithrin gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chefnogi datblygu cynaliadwy. Rydym yn datblygu polisїau, canllawiau, offer a phrosesau sy'n galluogi CNC i ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio a thrwyddedu strategol a lleol, gan gynnwys ar gyfer prosiectau seilwaith mawr.
Mae'r swydd wag hon yn cefnogi ein gallu i ddiwallu'r galw cynyddol am gyngor arbenigol ar y perygl o lifogydd, gan gyfrannu at ymatebion cynllunio a thrwyddedu cyflymach a mwy cyson. Mae'n ein helpu i gyflawni nodau ehangach CNC o addasu i’r newid yn yr hinsawdd, adfer natur, a rheoleiddio amgylcheddol o ansawdd uchel – gan sicrhau bod cymunedau a seilwaith yn cael eu diogelu'n well rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu arweinyddiaeth broffesiynol, strategol a thechnegol o ran cynllunio ac ar gyfer trwyddedu gweithgareddau’n ymwneud â’r perygl o lifogydd, gan gynnwys rhoi cyngor a chyfarwyddyd i uwch-reolwyr, Tîm Arwain CNC a swyddogion Llywodraeth Cymru.
- Cyfrannu’n weithredol at is-grwpiau rheoli perygl llifogydd cenedlaethol i gynghori, meithrin cysondeb, datblygu polisi a chanllawiau, a darparu arbenigedd technegol.
- Meithrin cydberthnasau â phartneriaid proffesiynol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
- Hyrwyddo cysondeb o ran ein hymateb gweithredol i ymgynghoriadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, gan gynnwys asesiadau canlyniadau llifogydd strategol, Cynlluniau Datblygu Lleol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
- Datblygu offer adrodd i ddeall yn well pa mor effeithiol yw cyngor cynllunio statudol CNC, e.e. trwy ddefnyddio Power BI.
- Hyrwyddo cysondeb o ran ein hymateb gweithredol i’r perygl o lifogydd mewn perthynas ag ymgynghoriadau ar orchmynion cydsyniad seilwaith.
- Cefnogi'r gwaith o ddarparu trwyddedau gweithgareddau perygl llifogydd ledled Cymru, drwy ddatblygu a gweithredu canllawiau a phrosesau strategol sy'n cyd-fynd â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol arall, gan gynnwys y Rheoliadau Cynefinoedd a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Cymwysterau perthnasol – wedi eich addysgu i lefel gradd mewn disgyblaeth wyddonol neu beirianneg.
2. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu’n gweithio tuag ato.
3. Dealltwriaeth gynhwysfawr o Nodyn Cyngor Technegol 15 Llywodraeth Cymru a Chanllawiau Cynllunio Cymru i gefnogi timau perygl llifogydd gweithredol, gan gynnwys dehongli a gweithredu polisїau Llywodraeth Cymru.
4. Dealltwriaeth drylwyr o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a’r broses ar gyfer trwyddedau gweithgareddau perygl llifogydd CNC.
5. Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn modd proffesiynol.
6. Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol uwch a dylanwadu arnynt.
7. Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.