Uwch Ymgynghorydd, Dulliau Rheoleiddio

Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoleiddio Ansawdd Dŵr / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/06/2026 Penodiad Tymor Penodol tan 31/03/2026 Efallai y bydd y posibilrwydd y bydd y penodiad hwn yn cael ei ymestyn neu y bydd yn swydd barhaol yn ddiweddarach, ond ni ellir gwarantu hyn

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweliad: 22 Gorffennaf 2025

Rhif swydd: 203973

Y rôl

Arwain ar ddatblygu prosesau newydd a chefnogi canllawiau a hyfforddiant i alluogi lleihau llygryddion o'n hafonydd i'r amgylchedd morol. Gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sefydliad i weithredu ffyrdd newydd o weithio. Byddwch yn gweithredu fel cleient deallus ar gyfer rheoli gwaith ymgynghorwyr modelu morol allanol er mwyn cael dealltwriaeth o dynged llygredd maetholion afonydd o fewn yr ACA Forol. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC sydd agosaf at eich cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan fyddwch yn cael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Eleanor Ellick eleanor.ellick@naturalresourceswales.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae'r rôl hon wedi'i lleoli o fewn y Tîm Dulliau Rheoleiddio Ansawdd Dŵr. Y flaenoriaeth ar gyfer y swydd hon yw darparu cyngor arbenigol i lywio dull sefydliadol CNC o reoleiddio gollyngiadau maetholion i'r amgylchedd afonol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn brif bwynt cyswllt gyda Chymdeithasau Masnach perthnasol y DU a Chymru, Adrannau’r Llywodraeth a rheoleiddwyr amgylcheddol yn y DU ac Ewrop, i rannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisi gweithredol a deddfwriaeth newydd, dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) penodol a meysydd cyfrifoldeb.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au). 
  • Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad technegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
  • Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth (yn cynnwys comisiynau mewnol) i sicrhau dealltwriaeth a defnydd cyson a phriodol gan staff sy’n galluogi darpariaeth gwasanaeth rheoleiddio effeithiol.
  • Cyfrannu at gyflawni cynllun busnes y tîm, cynllun cyflawni’r gyfarwyddiaeth a chynllun corfforaethol CNC.
  • Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi Cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o gydnerthedd technegol a deddfwriaethol ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni. 
  • Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiad o'r angen i CNC wella prosesau rheoleiddio a thrwyddedu.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; a’r hyn sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
  2. Profiad o hysbysu a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
  4. Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau tystiolaeth reoleiddiol.
  5. Gallu gweithio'n gyflym a meddu ar brofiad cydnabyddedig o gyflawni.
  6. Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
  7. Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf