Uwch-swyddog, Tîm yr Amgylchedd
Dyddiad cau: 29/06/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Maes y Ffynnon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203948
Y rôl
Mae hon yn rôl uwch allweddol o fewn ein Tîm Amgylchedd lleol yng ngogledd-orllewin Cymru, sy’n cwmpasu ardaloedd hardd ac ecolegol amrywiol Conwy, Ynys Môn, a Gwynedd. Fel Uwch-swyddog yr Amgylchedd, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni cyfrifoldebau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn enwedig o ran ansawdd dŵr, cydymffurfedd, a diogelu’r amgylchedd yn ehangach.
Er nad yw’r rôl hon yn cynnwys rheolaeth linell uniongyrchol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth dechnegol, gan gynnig cyngor arbenigol ar faterion rheoleiddio dŵr cymhleth a chefnogi cydweithwyr ar draws timau. Byddwch yn gweithio ar y cyd â phartneriaid mewnol ac allanol, gan arwain gweithgarwch cydymffurfio, cyfrannu at benderfyniadau gorfodi, a helpu i lunio dull CNC o adfer natur a mynd i’r afael â llygredd.
Byddwch hefyd yn cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflawni rhaglenni cydymffurfio, yn gweithredu fel mentor technegol, yn cyfrannu at ymateb i ddigwyddiadau, ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer partneriaethau amgylcheddol lleol a phrosiectau gwella.
Dyma’ch cyfle i ddod ag arbenigedd dwfn i rôl sy’n gwella canlyniadau amgylcheddol yn uniongyrchol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Huw Jones ar Huw.p.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae Tîm yr Amgylchedd ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru yn rhan o adran weithredol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae ein tîm yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys rheoli amgylcheddol, safleoedd gwarchodedig, a physgodfeydd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl arweiniol i wella llesiant drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy gylch gwaith y tîm.
Byddwch yn canolbwyntio ar y materion/gwaith achos mwy cymhleth ac yn darparu cyngor arbenigol yng nghyd-destun rheoli amgylcheddol, safleoedd gwarchodedig, pysgodfeydd a bioamrywiaeth
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynrychioli CNC mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
- Gweithredu fel cynghorydd a mentor technegol ar gyfer aelodau’r tîm.
- Gweithio’n agos gydag arweinydd y tîm wrth gynllunio a chyflawni gwaith gorfodi a’r rhaglen gydymffurfio.
- Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Pan nodir diffyg cydymffurfiaeth, pennu a gweithredu’r opsiwn ymyrryd mwyaf priodol.
- Cydlynu datblygiad technegol aelodau o’r tîm.
- Chwarae rôl allweddol wrth nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd er mwyn cyflawni blaenoriaethau CNC.
- Chwarae uwch-rôl yn y gwaith o gynorthwyo gwasanaeth rheoli digwyddiadau cadarn a chymwys CNC sy’n dilyn ei brosesau
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
-
Profiad o ddatblygu prosiectau a gwaith rheoli. (dymunol)
-
Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gydag arbenigedd wedi’i ganolbwyntio ar faes penodol o fewn cylch gwaith Tîm yr Amgylchedd.
-
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid a’r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
-
Gwybodaeth a phrofiad da mewn perthynas â phrosesau rheoleiddio a gorfodi.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
- Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.