Cynghorydd Arweiniol Polisi Bioamrywiaeth

Dyddiad cau: 22 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7:£45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203907

Y rôl

A ydych chi’n barod i arwain ymdrechion cenedlaethol i gyflawni enillion go iawn mewn bioamrywiaeth drwy gynllunio a pholisi? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol strategol, technegol fedrus i lywio datblygiad a gweithrediad budd net i fioamrywiaeth ledled Cymru.

Fel cynghorydd arbenigol arweiniol ar fudd net i fioamrywiaeth, byddwch yn arwain gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ymgorffori budd net i fioamrywiaeth mewn cynllunio, rheoleiddio a gwneud penderfyniadau. Byddwch yn arwain y gwaith o lunio polisïau, canllawiau technegol a dulliau ymarferol sy’n trosi deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol yn ganlyniadau effeithiol ar lawr gwlad.

Gan weithio’n agos gyda thimau ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a chyda phartneriaid allanol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, asiantaethau’r DU a rhanddeiliaid yn y sector, byddwch yn llunio sut mae gwella bioamrywiaeth yn cael ei gyflawni drwy’r system cynllunio gwlad a thref a fframweithiau eraill. Byddwch hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell ganolog o gyngor arbenigol ar gymhwyso egwyddorion budd net i fioamrywiaeth yn ymarferol.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Arwain datblygu polisi a chanllawiau CNC ar fudd net i fioamrywiaeth.
  • Trosi fframweithiau cyfreithiol a pholisi yn atebion ymarferol.
  • Cynghori timau mewnol a rhanddeiliaid allanol ar weithredu gwelliannau bioamrywiaeth.
  • Cefnogi gwaith traws-swyddogaethol ar draws timau cynllunio, rhywogaethau a rheoleiddio.
  • Cymell gwelliant parhaus ym mhrosesau mewnol CNC sy’n gysylltiedig ag enillion net bioamrywiaeth.

Dyma gyfle hollbwysig i lunio dyfodol gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Os ydych chi’n arbenigwr mewn polisi, cynllunio a chanlyniadau ecolegol, ac yn barod i arwain o’r blaen, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Neil Parker drwy anfon neges e-bost i neil.parker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynnal gwaith arwain a rheoli prosiect mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC, gan gynnwys cymorth ar waith achos sydd yn newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel y bo’n briodol ac, yn eu tro, adolygu a chynghori ar y polisi, cynlluniau a strategaethau sy’n cael eu cynhyrchu.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o’r fframwaith cyfreithiol a pholisi ar gyfer bioamrywiaeth er mwyn sicrhau uniondeb dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru gyda bwriad polisi Llywodraeth Cymru, y DU a’r UE a rhwymedigaethau rhyngwladol.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am bolisi a deddfwriaeth bioamrywiaeth gan nodi goblygiadau yn sgil newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad, a cheisio dylanwadu ar gyfleoedd ar gyfer newid deddfwriaethol a pholisi.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn. 
  • Llywio trosolwg a pherchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a chyrff eraill y DU ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a safleoedd a rhywogaethau a warchodir.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE / rhyngwladol sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, safleoedd a rhywogaethau a warchodir; ysgogwyr polisi Llywodraethau Cymru, y DU a’r UE mewn bioamrywiaeth a safleoedd a rhywogaethau a warchodir.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch yr amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid sydd ynghlwm â bioamrywiaeth a safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig yng Nghymru.
  3. Profiad o’r canlynol: Gweithio ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ac ar lefel y DU yn rheoli portffolio o raglenni gwaith sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a safleoedd a rhywogaethau a warchodir.
  4. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  5. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
  6. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
  7. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf