Swyddog Digwyddiadau ac Ymholiadau Cwsmeriaid

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544-£35,377 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gardarnhau

Rhif swydd: 203849

Y rôl

Darparu gwasanaeth ymholiadau cyffredinol a digwyddiadau 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, brysbennu galwadau sy’n cyrraedd, actifadu gweithdrefnau brys a sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyfeirio at y staff cywir a phartneriaid proffesiynol mewn modd amserol. Byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac yn sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael profiad ardderchog o CNC trwy ddarparu ymateb rheng flaen i bob math o ymholiadau a thrafodion cwsmeriaid. Byddwch yn gweithio gan ddilyn patrwm sifft cofrestr sy'n cynnwys naill ai sifftiau 8 neu 12 awr. Efallai y bydd angen rhywfaint o weithio ar eich pen eich hun. 

Mae’r rôl o fewn y Ganolfan Cwsmeriaid, sy’n dîm mawr amlddisgyblaethol, ac yn dod o dan y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol.  Er nad oes unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell uniongyrchol, mae'r rôl yn cynnwys mentora aelodau o’r tîm a gyrru gwelliannau yn y ffyrdd o weithio. Mae'r rôl yn adrodd i'r Arweinydd Tîm Digwyddiadau ac Ymholiadau Cwsmeriaid.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. 

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sean Moore ar sean.moore@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Ymateb i bob math o ymholiadau gan gwsmeriaid sy’n cyrraedd y sefydliad ar sail 24/7/365, gan gynnwys adroddiadau am ddigwyddiadau, gan sicrhau fod pob ymholiad yn cael ei frysbennu, ei gofnodi a’i gyfeirio’n rhagweithiol yn unol â’r safonau gwasanaeth cwsmeriaid y cytunwyd arnynt ac yn unol â Chanllawiau Categoreiddio Digwyddiadau a’r amserlenni, gan ddefnyddio systemau priodol i'w rheoli, a hynny i safon ragorol.  Darparu adborth i gwsmeriaid yn unol â safonau gwasanaeth CNC.
  • Sicrhau eich bod yn derbyn ac yn ymateb yn briodol i rybuddion gweithwyr unigol, larymau telemetreg, materion diogelwch a galwadau ac e-byst gan staff a'r cyhoedd yn unol â Lefelau Gwasanaeth Cwsmer.
  • Sicrhau bod yr holl dargedau perfformiad a thargedau safonol yn cael eu bodloni ac uwchgyfeirio unrhyw risgiau i berfformiad i'r tîm rheoli.
  • Cynorthwyo’r tîm i wella ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’n holl gwsmeriaid, trwy gyfrannu at ddatblygu a phrofi systemau a phrosesau newydd, codi materion i’w datrys ac annog diwylliant o welliant parhaus.
  • Cyfrannu at reoli a chynnal enw da’r Timau Cwsmeriaid a chysylltiadau â chwsmeriaid mewnol allweddol a rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod eu hanghenion ac anghenion yr amgylchedd yn cael eu diwallu.
  • Cynnal amrywiaeth o weithgareddau trafodion cwsmeriaid, er enghraifft prosesu cofrestriadau a thrwyddedau gan sicrhau cofnodi a phrosesu data cywir ar systemau perthnasol.
  • Dangos gofal cwsmeriaid rhagorol enghreifftiol ar draws ein holl weithgareddau, gan sicrhau bod y safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid yn cael eu mabwysiadu a’u cynnal ar draws pob gweithgaredd.
  • Gweithio’n hyblyg fel rhan o’r tîm cwsmeriaid ac ymdrechu i ddatblygu’r rôl, gan helpu ein sefydliad i ddod yn brif ddarparwr gwasanaeth cwsmeriaid o fewn y sector cyhoeddus.
  • Nodi a chymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu a chyfrannu at wella effeithiolrwydd y tîm cwsmeriaid yn barhaus.
  • Gweithredu fel mentor i ddechreuwyr newydd a chefnogi cydweithwyr drwy roi cyngor ar faterion dadleuol/cymhleth gan gydweithio i ddarparu ymateb sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a rhyngbersonol ardderchog ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n holl gwsmeriaid mewnol ac allanol.
  2. Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid aml-sianel, dwyieithog, hynod brysur gyda dealltwriaeth o raglenni Microsoft amrywiol gan gynnwys System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM).
  3. Byddwch yn wydn ac yn gallu delio'n ddigyffro â chwsmeriaid anodd ac asesu a darparu ymatebion priodol yn gyflym, oherwydd gallech fod yn gweithio ar eich pen eich hun.
  4. Y gallu i addasu i flaenoriaethau cyfnewidiol a gofynion cwsmeriaid, gan addasu eich ffocws yn effeithiol i fynd i'r afael â'r ymholiadau mwyaf brys yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  C1 - Lefel hyfedredd (siaradwr Cymraeg rhugl)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf