Cynghorydd Asedau Technegol Fflyd

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544-£35,377 | Lleoliad:  Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Cefnogi'r Busnes, Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gardarnhau

Rhif swydd: 203836

Y rôl

Bydd y Cynghorydd Fflyd Asedau Technegol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi darpariaeth ddi-dor gwasanaethau technegol cysylltiedig â’r fflyd o fewn y Tîm Rheoli Fflyd. Mae’r rôl hon yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod asedau fflyd yn cael eu gweithredu a’u cynnal yn effeithlon, gan gyfrannu’n uniongyrchol at weithrediadau arferol ac effeithiolrwydd cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch yn darparu cymorth technegol arbenigol, gan gyfrannu at gynnal a chadw, caffael a chydymffurfiad cerbydau’r fflyd ac offer. Bydd eich rôl yn helpu i optimeiddio perfformiad y fflyd, sicrhau bod y fflyd yn parhau i fod yn gost-effeithiol, yn ddiogel ac yn gynaliadwy, gan gefnogi nodau amgylcheddol ac adnoddau ehangach y sefydliad.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Poyser ar James.Poyser@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a meithrin diwylliant o welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen yn y tîm Asedau Technegol o fewn Rheoli Asedau ar gyfer cwsmeriaid CNC sy’n hanfodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth statudol a chyfreithiol ar draws fflyd CNC.
  • Sicrhau bod yr holl offer newydd yn bodloni anghenion y defnyddwyr, cyflawni gwelliant technegol ac amgylcheddol o ran yr offer newydd a darparu gwerth gorau am arian yn unol ag arferion caffael CNC.
  • Darparu atebion technegol ar gyfer y swyddogaeth Rheoli Asedau.
  • Sicrhau bod isgontractwyr allanol CNC yn cwblhau tasgau atgyweirio mewn modd effeithlon, effeithiol, diogel a chymwys sy’n diogelu’r amgylchedd.
  • Cynnal archwiliadau ar bob agwedd o reoli’r fflyd a chynorthwyo â swyddogaeth archwilio ehangach y tîm Rheoli Asedau.
  • Cynghori staff ar sut i drin cerbydau, peiriannau ac offer yn ddiogel.
  • Cyfrannu at ddatblygiad parhaus holl wybodaeth y Tîm Asedau Technegol i hyrwyddo datblygiad technegol o fewn y grŵp Rheoli Asedau.
  • Darparu gwybodaeth ystadegol ac ariannol ar Asedau’r Fflyd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1.       Meddu ar HNC Peirianneg Fecanyddol, neu gymhwyster tebyg, yn gweithio tuag at gymhwyster technegol neu wedi cymhwyso trwy brofiad.
  2. Profiad o ddarparu gwasanaethau technegol cysylltiedig â fflyd o fewn amgylchedd canolfan gwasanaethau a rennir gan gynnwys:
  3. Dealltwriaeth a/neu brofiad da o dechnolegau modern a ddefnyddir ar gerbydau, peiriannau ac offer gan gynnwys hydroleg, systemau rheoli, trawsyrru pŵer ac electroneg.
  4. Y gallu i gyfathrebu a thrafod gyda defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth ar faterion technegol i sicrhau'r canlyniad gweithredol gorau i'r busnes.
  5. Dealltwriaeth dda o ddefnyddio systemau TGCh a meddalwedd / rhaglenni eraill i fodloni gofynion eich maes cyfrifoldeb.
  6. Sgiliau trefnu da.
  7. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  8. Sgiliau rhyngbersonol da gyda'r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i gwrdd â therfynau amser caeth.
  9. Sgiliau TG cryf a mewnbynnu data cywir.
  10. Byddai profiad o weithredu newid neu wella prosesau hefyd yn fanteisiol.
  11. Darparu cefnogaeth i aelodau tîm gwasanaeth technegol eraill o fewn y Tîm Rheoli Asedau.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf