Swyddog Cyfathrebu, Adfer Gwy Uchaf
Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Adfer Gwy Uchaf / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Rhan amser, 18.5 awr yr wythnos
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203764
Y rôl
Fel aelod o’r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu canolog, byddwch yn gweithio yn unig i gefnogi Tîm Adfer Afon Gwy Uchaf, i gyflawni’r rhaglen waith uchelgeisiol (a gynlluniwyd hyd at 31 Mawrth 2028) ar draws Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwy yng Nghanolbarth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwaith adfer afonydd ymarferol, cael gwared ar rwystrau, ymweliadau â ffermydd a chyngor ar reoli tir, gwaith rhywogaethau goresgynnol a rheoli llifogydd yn naturiol, monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae cyflwr afon Gwy yn bwnc proffil uchel. Byddwch yn datblygu ac yn darparu cyfathrebiadau integredig effeithiol i gefnogi prosiect Adfer Gwy Uchaf.
Byddwch yn arwain ar drefnu a siapio rhaglen ddigwyddiadau CNC ar gyfer y prosiect. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn allweddol ac mae grwpiau lleol yn debygol o fod yn awyddus i ymgysylltu os byddant yn cymryd rhan yn ddigon cynnar.
Byddwch yn siapio ac yn cyflwyno cynnwys creadigol o ansawdd uchel ar draws pob sianel, yn unol â'ch cynulleidfa darged.
Byddwch yn darparu gwasanaethau cyfathrebu hanfodol megis cysylltiadau â'r cyfryngau, digidol, cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu mewnol, cynhyrchu fideos, brandio a dylunio, cynllunio a gwerthuso cyfathrebiadau, creu cynnwys.
Byddwch yn datblygu cydweithrediadau gyda rhanddeiliaid lleol i annog ymgysylltiad cymunedol i reoli INNS a’u cael i gymryd rhan mewn mentrau gwyddoniaeth dinasyddion.
Byddwch yn cefnogi’r tîm i weithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol y dalgylch (e.e. Sefydliad Gwy ac Wysg, Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, Dŵr Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Cyswllt Ffermio) i sicrhau integreiddio gwaith gwella cynefinoedd ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Byddwch yn cefnogi’r tîm i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol y dalgylch (e.e. Sefydliad Gwy ac Wysg, Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, Dŵr Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Cyswllt Ffermio) i sicrhau integreiddio gwaith gwella cynefinoedd ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Susie Tudge at susie.tudge@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli ac ymateb i gyfathrebiadau gyda rhanddeiliaid prosiect Adfer Gwy Uchaf, yn unol â Chynllun Cyfathrebu'r Prosiect.
- Rheoli, diweddaru a chyflwyno Cynllun Cyfathrebu'r Prosiect.
- Cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, ac sy’n atyniadol ac yn effeithiol i gefnogi prosiect Adfer Gwy Uchaf.
- Darparu cyfathrebiadau integredig ar draws pob sianel, gan ganolbwyntio ar gynulleidfa, cwsmer neu bartner.
- Cyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chynlluniau Cyfathrebu ar gyfer prosiect Adfer Gwy Uchaf.
- Cyfrannu at gyflawni ymgyrchoedd lluosog fel rhan o'r prosiect.
- Meithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol i gyflawni canlyniadau.
- Hyrwyddo’r prosiect a chynyddu cydweithio gyda grwpiau cymunedol lleol (e.e. Cyfeillion Gwy Uchaf, Partneriaeth Dalgylch Gwy, ac Ymgyrch Achub Afon Gwy), yn ogystal ag annog cyfranogiad gwyddoniaeth dinasyddion wrth fonitro ansawdd dŵr a thueddiadau poblogaeth (e.e. arolygon i ddogfennu newidiadau yng nghanran gorchudd gwelyau Ranunculus).
- Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol (e.e. Sefydliad Gwy ac Wysg) datblygu a chefnogi grwpiau cymunedol a fydd yn atal lledaeniad rhywogaethau planhigion goresgynnol.
- Cynorthwyo tîm y prosiect i sefydlu cyfarfodydd clystyrau ffermydd i roi cyngor a meithrin perthnasoedd
- Defnyddio mewnwelediad i lywio eich dull Cyfathrebu.
- Darparu cyngor i’r busnes er mwyn diogelu a hyrwyddo ein henw da a’n brand, naill ai’n annibynnol neu gyda chefnogaeth gan uwch aelodau’r tîm pan fo angen.
- Bod yn effro i risgiau o ran enw da ac uwchgyfeirio fel y bo'n briodol i Arweinydd Tîm Adfer Gwy Uchaf.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Peth profiad o weithio mewn tîm cyfathrebu proffesiynol mewn asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus (ar lefel swyddog gweithredol cyfrif).
- Lefel dda o sgil ar draws pob disgyblaeth a sianel Cyfathrebu.
- Aelod o gorff proffesiynol perthnasol ac ymrwymiad gweladwy i'ch DPP eich hun (neu’ch bod yn barod i ymuno).
- Dealltwriaeth dda o gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC er mwyn gallu ysgogi ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol i gefnogi'r rhain.
- Gallu dibynnu ar eich barn i wneud penderfyniadau.
- Sgiliau ardderchog o ran gweithio mewn tîm, ynghyd â’r gallu i gynrychioli prosiect Adfer Gwy Uchaf o flaen amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys rheolwyr tir.
- Gallu gyrru car yn gyfreithiol yn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.