Risg Llifogydd, Swyddog Ymgysylltu a Gwydnwch Cymunedol
Dyddiad cau: 11 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 | Lleoliad: CP2, Parc Cathays, Caerdydd
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Dyddiad cyfweld: 16 a 23 Mehefin 2025
Rhif swydd: 203627
Y rôl
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm ymgysylltu a gwydnwch cymunedol ym maes llifogydd. Os hoffech chi helpu cymunedau ac unigolion i fod yn fwy parod a gwydn pan fydd llifogydd yn digwydd, hoffem glywed gennych chi.
Mae ein rhaglen ymgysylltu a gwydnwch cymunedol ym maes llifogydd yn cael ei gyrru gan Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol yng Nghymru, sy’n anelu at leihau’r risg i bobl a chymunedau o lifogydd ac erydiad arfordirol. Mae ein gwaith yn cefnogi dau o amcanion allweddol y strategaeth yn uniongyrchol:
- Gwella ein dealltwriaeth o risg a’r ffordd yr ydym yn hysbysu am risg
- Paratoi a datblygu gwydnwch
Mae’r rôl yn cefnogi ein rhaglen waith ar gyfer ymgysylltu a gwydnwch cymunedol ym maes llifogydd, trwy gyflawni gweithgareddau unwaith i Gymru, yn ogystal â gweithio gyda thimau gweithrediadau a’u cynorthwyo i’w cyflawni ar lefel leol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws ein cyfarwyddiaethau a chyda sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ledled Cymru, ac i helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn; er enghraifft, drwy eu cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau llifogydd cymunedol a sefydlu eu gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol eu hunain.
Y blaenoriaethau allweddol dros y pum mlynedd nesaf fydd gweithredu argymhellion ein Hadolygiad Ymgysylltu â Chymunedau Llifogydd ac, yn benodol, cyflawni gwelliannau i’n gwasanaethau, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth ar-lein i gymunedau, edrych ar ymyriadau newydd megis mewnwelediadau ymddygiadol, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy fyth o weithio mewn partneriaeth ar lefel genedlaethol a lleol, gan gynnwys trwy’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio gydag amrediad o randdeiliaid mewnol ac allanol, yn lleol ac yn genedlaethol, gan gynnwys sefydliadau sy’n gweithredu mewn mannau eraill o’r DU a/neu ar lefel y DU; er enghraifft, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylcheddol yr Alban, y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, y sector gwirfoddol a’r rhwydwaith o wirfoddolwyr llifogydd cymunedol yr ydym yn eu cefnogi ledled Cymru.
Fel rhan o’n tîm, bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol (Ymgysylltu a Gwydnwch Cymunedol) ac yn ei gynorthwyo.
Byddwch hefyd yn ymgymryd â rôl y Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan, y Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd neu’r Swyddog Cynorthwyol ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd (i’w bennu yn ddibynnol ar gymwysterau a sgiliau ar adeg penodi).Mae’r rhain yn rolau swyddog dyletswydd ar rota, ar ddyletswydd wrth gefn, 24/7, am ryw un wythnos ymhob chwech i wyth wythnos. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi fod ar gael cyn belled ag sy’n rhesymol i gynorthwyo â’r ymateb gweithredol yn ystod digwyddiadau llifogydd hirfaith pan nad ydych ar ddyletswydd wrth gefn.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andy Wall ar andrew.wall@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Rydym yn rhagweld y bydd dyddiad dechrau'r swydd hon yn dechrau ym mis Medi 2025 – I'w drafod mewn cyfweliad
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu cymorth i wirfoddolwyr llifogydd cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys darparu cyngor, gwybodaeth a chylchlythyrau a threfnu digwyddiadau i gefnogi rhwydweithiau gwirfoddolwyr gyda phartneriaid proffesiynol.
- Cynnal a gwella ein cyngor llifogydd ar-lein a’r wybodaeth am y mesurau y gall pobl eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd i wella eu gallu personol neu gymunedol i wrthsefyll llifogydd.
- Cynhyrchu deunyddiau cymorth arbenigol (er enghraifft, systemau cronfa wybodaeth, asedau cyfryngau cymdeithasol, a chyhoeddiadau a deunydd marchnata brand pwrpasol ac arbenigol, yn fewnol ac yn allanol) i alluogi ein timau gweithrediadau a’n partneriaid proffesiynol i gyflawni ymgysylltiad cymunedol ar lefel leol, ar lawr gwlad, yn ogystal â rhoi cyngor a gwybodaeth gyfredol gyson i’r cyhoedd fel y gallant gymryd perchnogaeth a chynyddu eu gallu personol i wrthsefyll llifogydd.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu, monitro ac adrodd ar ein gweithgarwch ymgysylltu â chymunedau llifogydd ar draws cyfarwyddiaethau.
- Nodi a choladu adroddiadau effaith llifogydd a delweddau oddi ar y cyfryngau cymdeithasol i’w rhannu’n fewnol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o berygl llifogydd ac adrodd ar ddigwyddiadau llifogydd, gan weithio gyda’n tîm cyfathrebu i gael caniatâd angenrheidiol i ddefnyddio’r wybodaeth hon.
- Gweithredu fel partner rhyngwyneb cyhoeddus ac allanol, gan weithio gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, yn lleol a chenedlaethol, gan gynnwys sefydliadau sy’n gweithredu mewn mannau arall o’r DU ac/neu ar lefel y DU.
- Cyfrannu at gyflawni prosiectau yn ein Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd fel bod ein gwasanaethau ymgysylltu a gwydnwch cymunedol yn cael eu gwella’n barhaus i helpu i gryfhau gwydnwch cymunedau i lifogydd ledled Cymru.
- Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau trwy ymgymryd â rôl y Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan, y Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd neu’r Swyddog Cynorthwyol ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd (i’w bennu yn ddibynnol ar gymwysterau a sgiliau ar adeg penodi).Mae’r rhain yn rolau swyddog dyletswydd ar rota, ar ddyletswydd wrth gefn, 24/7, am ryw un wythnos ymhob wyth. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi fod ar gael cyn belled ag sy’n rhesymol i gynorthwyo â’r ymateb gweithredol yn ystod digwyddiadau llifogydd hirfaith pan nad ydych ar ddyletswydd wrth gefn
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Wedi ennill cymhwyster Lefel 5 o leiaf o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu’n meddu ar wybodaeth gyfwerth.
- Disgyblaeth yn seiliedig ar dir neu wyddoniaeth a chyda rhywfaint o wybodaeth arbenigol am reoli llifogydd, dŵr neu’r amgylchedd.
- Sgiliau marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys paratoi cyhoeddiadau pwrpasol a deunyddiau hyrwyddo.
- Wedi’ch hyfforddi ac â phrofiad o roi cyngor technegol ac arbenigol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Profiad o ofal cwsmer, ac yn meddu ar sgiliau trafod a dylanwadu er mwyn datblygu cydberthnasau gweithio da.
- Profiad o ddelio â phynciau sy’n sensitif yn wleidyddol neu’n emosiynol gan ganolbwyntio ar gwsmeriaid.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
manteision a chymorth o ran iechyd a lles
awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.