Cynghorydd Cynllunio Arweiniol

Dyddiad cau: 31 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Tîm Cynllunio, Tirwedd ac Ynni / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 30 Medi 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 22 Medi 2025

Rhif swydd: 203418

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am gyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol trwy ddatblygu cynaliadwy? Ymunwch â Thîm Cynllunio, Tirwedd ac Ynni Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a helpwch i lunio dyfodol mwy gwydn a chyfoethog o ran natur i Gymru.

Byddwch yn arwain ac yn datblygu rhaglen waith i gefnogi rôl CNC o fewn y system gynllunio. Mae hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd i wella ein gwasanaethau, a chynhyrchu canllawiau a chyngor i ddylanwadu ar ddatblygwyr, cynllunwyr ac awdurdodau cynllunio, gan sicrhau bod blaenoriaethau amgylcheddol wedi’u hymgorffori yn lleoliad, cynllun a dyluniad prosiectau newydd.

Byddwch hefyd yn darparu cyngor ymarferol a hygyrch i helpu cydweithwyr i ymateb yn effeithiol i gynlluniau datblygu a cheisiadau cynllunio.

Mae hon yn rôl gydweithredol, a byddwch yn cydweithio’n agos gyda thimau arbenigol ar draws CNC, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau cynllunio a datblygu. Byddwch yn meithrin cydberthnasau proffesiynol cryf a fydd yn helpu i ysgogi canlyniadau amgylcheddol ystyrlon.

Os ydych chi eisiau i’ch arbenigedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol amgylchedd, tirwedd ynni a chymunedau Cymru, dyma’ch cyfle

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Adrian James adrian.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae ein Tîm Cynllunio, Tirwedd ac Ynni yn rhan hanfodol o’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Rydym yn darparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad arbenigol ar gynllunio datblygu, rheoli tirweddau a mentrau ynni ar draws y sefydliad.

Mae ein gwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu cenhadaeth CNC i hyrwyddo adferiad byd natur, gwella gwydnwch Cymru i newid hinsawdd, a lleihau llygredd. Drwy lunio polisïau datblygu cynaliadwy ac amgylcheddol, rydym yn helpu i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae ymuno â’n tîm yn golygu cyfrannu at brosiectau effeithiol o fewn amgylchedd blaengar a chydweithredol sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynnal gwaith arwain a rheoli prosiectau mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC, gan gynnwys cymorth ar waith achos sydd yn newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau ar gyfer staff CNC, ac ar gyfer sectorau/partneriaid.
    •Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel y bo’n briodol ac, yn eu tro, adolygu a chynghori ar y polisi, cynlluniau a strategaethau sy’n cael eu cynhyrchu.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes cynllunio defnydd tir er mwyn sicrhau bod dulliau CNC yn cyd-fynd â dulliau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Paratoi achosion cryf i gefnogi newidiadau i bolisi CNC a rôl ymyriadau amgen.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Comisiynu cynlluniau ymgysylltu a hyfforddiant er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno allbynnau fesul cam i staff CNC a phartneriaid/sectorau.
  • Comisiynu gwaith monitro a gwerthuso ymyriadau er mwyn llywio asesiad o’r angen am newid mewn dull gweithredu gan CNC a/neu Lywodraeth Cymru.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer CNC a’r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Llywio’r trosolwg a chymryd yr awenau yn y broses o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.   
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â defnydd tir a chynllunio gofodol. Ysgogwyr polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i ddefnydd tir a chynllunio gofodol, a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o’r amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir yng Nghymru.
  3. Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o un, neu ragor, o’r pynciau canlynol: cynllunio defnydd tir, gan gynnwys cynlluniau datblygu a rheoli datblygu, cynllunio gofodol, a phrosesau asesu amgylcheddol (Asesiadau Amgylcheddol Strategol, Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, ac Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol). 
  4. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff proffesiynol, a busnesau a sectorau.
  5. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  6. Byddwch yn aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru / corff proffesiynol amgylcheddol arall a/neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
  7. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
  8. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf