Cynghorydd Canolfan Problemau a Gwybodaeth

Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246-£39,942 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: TGaCh, Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 26 Mai 2025

Rhif swydd: 203402

Y rôl

Rheoli Problemau a Gwybodaeth ar gyfer y Ddesg Gwasanaeth DDaT er mwyn cyflwyno cymorth rheng flaen ac ail reng fel un pwynt cyswllt i staff CNC sy'n profi ystod o broblemau technegol. Bod yn berchen ar a goruchwylio proses Rheoli Problemau a Gwybodaeth y Llyfrgell Seilwaith Technoleg Gwybodaeth (ITIL).

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Evan Quick ar evan.quick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel rheolwr dyletswydd ar gyfer digwyddiadau
  • Ymdrin â’r broses uwchgyfeirio gweithredol o Ddadansoddwyr y Ddesg Wasanaeth ar y Ddesg Wasanaeth gan gysylltu â’r Arweinydd Tîm.
  • Gweithio gyda’r Ddesg Wasanaeth a chynghori Dadansoddwyr y Ddesg Wasanaeth, i nodi problemau posib a chreu a diweddaru erthyglau gwybodaeth.
  • Darparu gwybodaeth ystadegol am Reoli Problemau a Gwybodaeth i Uwch Reolwyr.
  • Cynnal perthynas gref gydag Arweinydd Tîm Desg Wasanaeth DDaT i nodi problemau a rhannu/creu gwybodaeth ar gyfer yr Adran DDaT.
  • Penderfynu pa Ddigwyddiadau sy'n mynd ymlaen i’r broses Rheoli Problemau.
  • Gan ddefnyddio Rheoli Gwybodaeth, gweithio'n agos gydag Arweinydd Tîm Desg Wasanaeth DDaT i hyfforddi a mentora Dadansoddwyr y Ddesg Wasanaeth, Hyfforddeion a Phrentisiaid a chefnogi eu dysgu a'u datblygiad.
  • Sicrhau bod Dadansoddwyr Desg yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu at wybodaeth a bod yn berchen ar wybodaeth o fewn sylfaen wybodaeth y Ddesg Wasanaeth.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddadansoddi gwybodaeth reoli i nodi erthyglau gwybodaeth gofynnol a dadansoddiad o wreiddiau problemau.
  • Bod yn berchen ar broses Rheoli Gwybodaeth ITIL, dadansoddi gwybodaeth reoli i nodi unrhyw erthyglau Gwybodaeth angenrheidiol neu ddiweddariadau i erthyglau Gwybodaeth. Nodi unrhyw dueddiadau a allai awgrymu bylchau sylfaenol mewn Gwybodaeth ac awgrymu unrhyw faterion o ran hyfforddiant neu ddogfennaeth sy'n arwain at broblemau lluosog a/neu alwadau i’r ddesg wasanaeth. Unwaith y bydd mater o'r fath wedi'i nodi, dod â'r tîm ynghyd i ddod o hyd i ddatrysiad, gan uwchgyfeirio i'r Uwch reolwr gwasanaeth os oes angen.
  • Gweithio gyda'r Uwch Reolwr Gwasanaeth a meysydd eraill o fewn DDaT i greu erthyglau gwybodaeth ar gyfer cwsmeriaid yn ogystal ag erthyglau ar gyfer Timau DDaT. Datblygu'r offeryn Rheoli Gwasanaeth yn unol â hynny. Arwain datblygiad WIKI DDaT a'r Wybodaeth o fewn yr Offeryn Rheoli Gwasanaeth.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau ar gyfer OOH DDaT.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Lefel uchel o arbenigedd a sgiliau technegol gan gynnwys gwybodaeth fanwl am dechnoleg bwrdd gwaith a meddu ar yr ardystiadau/cymwysterau canlynol neu fod yn gweithio tuag atynt:
  2. Ardystiad ITIL Sylfaenol ac wedi gweithio mewn amgylchedd ITIL. Gradd mewn disgyblaeth sy'n seiliedig ar DDaT, neu gyfwerth.
  3. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da, cyfforddus a hyderus wrth ddelio â sefyllfaoedd / unigolion heriol ac ymrwymiad clir i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a phrofiad defnyddiwr. Gallu profedig i weithio ar y cyd mewn tîm ac adeiladu perthnasoedd.
  4. Y gallu i ddadansoddi materion a cheisiadau technegol cymhleth, dysgu systemau newydd yn gyflym a helpu eraill i wneud yr un peth.
  5. Dealltwriaeth o Reoli Digwyddiadau, Gwybodaeth a Rheoli Problemau
  6. Gwybodaeth am dechnegau a phrosesau Rheoli Prosiectau a phrofiad o reoli proses ITIL.
  7. Y gallu i weithio o dan bwysau mawr, i gynllunio a chydlynu adnoddau yn rhagweithiol er mwyn sicrhau canlyniadau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a chyda dull hyblyg o weithio, gan flaenoriaethu pan fydd problemau a cheisiadau blaenoriaeth uchel yn cyrraedd Desg Wasanaeth DDaT.

Patrwm gweithio - Bydd angen i chi weithio fel rhan o batrwm sifft hyblyg i gwmpasu oriau gwasanaeth rhwng 8am a 6pm.  Mae’n ofynnol hefyd gweithio ar y penwythnos pan fo angen i gwrdd ag anghenion busnes.  Byddwch hefyd yn gweithio fel rheolwr digwyddiadau DDaT ar ddyletswydd gan ddarparu Gwasanaeth DDaT 'Y Tu Allan i Oriau' i’r lefel y cytunwyd. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf