Dyddiad cau: 25 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhaglen Coetir / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22 Medi 2025

Rhif swydd: 202735

Y rôl

Fel cynghorydd o fewn Tîm y Rhaglen Coetir, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaeth gwirio effeithlon o ansawdd uchel sy’n cefnogi cynlluniau grant creu ac adfer coetiroedd Llywodraeth Cymru.

Bydd eich gwaith yn cynnwys paratoi asesiadau technegol amserol, yn seiliedig ar y maes ac ar y goedwig, a rhoi cyngor arbenigol i dirfeddianwyr a’u hasiantau. Bydd yr asesiadau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cynigion ar gyfer coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd presennol yn bodloni’r safonau gofynnol ac yn darparu manteision amgylcheddol a rheoli tir hirdymor.

Byddwch yn gweithio’n agos â chydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys y rhai yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a Gweithrediadau, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i dirweddau Cymru, gan sicrhau bod ehangu coetiroedd wedi’i seilio ar wyddoniaeth gadarn ac arfer da.

Os ydych chi’n angerddol am reoli coetiroedd, stiwardiaeth amgylcheddol, a chyflawni effaith ymarferol ar lawr gwlad, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle ystyrlon i gefnogi nodau hinsawdd a natur ledled Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Chris Botting at chris.botting@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae Tîm y Rhaglen Coetir yn darparu gwasanaeth gwirio i Lywodraeth Cymru; gan sicrhau bod ceisiadau i’w cynlluniau Creu Coetiroedd ac Adfer Coetiroedd yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a rheolau’r cynllun. Mae’r tîm yn eistedd yn y Grŵp Tir a Natur Gynaliadwy o fewn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Tîm Cymru gyfan ydym ni gyda staff wedi’u lleoli ar draws swyddfeydd amrywiol Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio ystod o wybodaeth a ffynonellau data.
  • Cefnogi’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor statudol a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill; paratoi ar gyfer datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Darparu gwybodaeth gywir ynghylch cynnydd yn rheolaidd i reolwyr, fel y gellir addasu a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl yr amserlen a’r gost.
  • Cysylltu â staff perthnasol CNC ynghylch rhyngweithiadau rhwng timau er mwyn sicrhau bod y gwaith o gyflawni rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth yn cael ei wneud mewn modd amserol ac effeithiol.
  • Rheoli prosiectau tystiolaeth bychain, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Confor a chyrff amgylcheddol eraill yng Nghymru a’r DU; a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â rheoli tir coedwigaeth ac amaethyddiaeth; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU mewn rheoli tir gan gynnwys coedwigaeth ac amaethyddiaeth fel y nodir yn rhaglen Coetir Llywodraeth Cymru; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; gan gynnwys dadansoddi setiau data mawr.
  3. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac oddi mewn iddi, ar draws y sector coedwigaeth a sefydliadau rheoli tir eraill.
  4. Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  5. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf