Gwyddonydd Dadansoddol
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Prifysgol Abertawe
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Anorganeg - NRWAS / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026 (gyda’r posibilrwydd o estyniad am 2 flynedd ychwanegol)
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 202703
Y rôl
Bydd y gwyddonydd yn cynnal dadansoddiadau arferol o samplau dyfrllyd ar gyfer dadansoddiadau Anorganeg a Metelau megis BODs, Solidau crog, Maint Gronynnau ac ICPOES. Rôl gwyddonydd ar lefel mynediad yw hon a fydd yn adrodd i oruchwylwyr o fewn y tîm ac i’r arweinydd tîm.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michelle Cheshire at Michelle.Cheshire@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r rôl wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Dadansoddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rôl o fewn y tîm Anorganeg/Metelau o fewn y labordy. MAe'r labordy yn dadansoddi samplau dyfrllyd, gwaddodion a biota ar gyfer monitro arferol ac ymateb i ddigwyddiadau. Bydd y rôl yn cymryd rhan mewn rota ymateb i ddigwyddiadau a dadansoddi samplau llygredd ar gyfer eu harchwilio.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio o fewn adran ddadansoddol fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl samplau yn cael eu dadansoddi ar amser ac yn unol â’r safonau rhagnodedig.
- Dadansoddi a pharatoi samplau yn rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys amrywiol brosesau a thechnegau gan gynnwys dadansoddwyr awtomataidd a darllen mesuryddion â llaw. Rheoli a chynnal a chadw dogfennau.
- Bod yn ymwybodol o'r nodweddion sydd eu hangen i fod yn rhan o dîm llwyddiannus mewn amgylchedd dan bwysau uchel. Mae'r rhain yn cynnwys hunangymhelliant, disgyblaeth a pharodrwydd i helpu eich cydweithwyr.
- Dealltwriaeth drylwyr o system ansawdd y labordy a sut mae hynny'n effeithio ar bob agwedd o’r broses ddadansoddol.
- Cymryd rhan mewn rotas dyletswydd ac ymateb i alwadau allan i sicrhau bod gwasanaeth ymateb i lygredd y Labordy yn cael ei gynnal.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Mae profiad blaenorol mewn labordy dadansoddol achrededig ISO:17025 yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn. Mae profiad blaenorol yn y labordy yn hanfodol.
- Deall clir a phrofiad o systemau ansawdd labordy.
- Deall clir a phrofiad o bolisïau Iechyd a Diogelwch labordy.
- Mae profiad a gwybodaeth yn bwysicach na chymwysterau ar gyfer y rôl hon, felly gellir cael lefel mynediad gyda gwyddoniaeth TGAU er mai mynediad graddedig yw'r norm.
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm i derfynau amser caeth gan sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu hadrodd yn gywir ac yn effeithlon bob dydd.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.