Cynghorydd Arbenigol – Adareg Forol

Dyddiad cau: 13/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cyngor Morol Cymru Gyfan / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 05/06/2025

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22/07/2025

Rhif swydd: 202441 ENV

Y rôl

Yn y rôl unigryw, sy’n seiliedig ar gael effaith, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar sut y gall datblygiadau — o ffermydd gwynt ar y môr i seilwaith arfordirol — effeithio ar adar y môr a’u cynefinoedd. Byddwch yn gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, polisi a chynllunio, gan gynnig mewnbwn arbenigol i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n llunio amgylchedd morol Cymru.
Byddwch yn cydweithio ar draws timau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi gwaith achos a’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch trwyddedu morol, ac yn helpu i lywio prosiectau morol mawr. Yn allanol, byddwch yn gweithio’n agos gyda datblygwyr, rheoleiddwyr, a phartneriaid yn y DU i wella canllawiau, cau bylchau tystiolaeth, ac yn sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth.

Beth sy’n gwneud y rôl hon yn gyffrous?

  • Dylanwad arbenigol – Chi fydd yr arbenigwr ar adareg forol ar draws gwaith achos a gwaith rheoli’r arfordir o fewn CNC.
  • Cydweithio strategol – Gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr technegol ar famaliaid morol, cynefinoedd benthig, ansawdd dŵr, a mwy.
  • Effaith ymarferol – Arwain prosiectau tystiolaeth, llunio polisi, a rhoi cyngor sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad cynaliadwy Cymru.
  • Ymgysylltu amrywiol – O ymgynghoriadau mewnol i gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn fforymau cenedlaethol ac ymholiadau cyhoeddus.

Os ydych yn adaregydd profiadol â dealltwriaeth gref o bolisi a datblygu morol, dyma’ch cyfle i helpu i ddiogelu dyfodol bywyd gwyllt morol Cymru – a chyfrannu at benderfyniadau pwysig.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Moon at James.Moon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Byddwch yn adrodd yn ôl at Arweinydd Tîm Cyngor Morol Cymru Gyfan ac yn ymuno â thîm o arbenigwyr technegol sy’n cwmpasu amrywiaeth o dderbynyddion, megis mamaliaid morol, ansawdd dŵr y môr, pysgod morol, prosesau ffisegol a chynefinoedd benthig. Mae’r tîm yn eistedd ochr yn ochr â’r tîm gwaith achos morol, sy’n arwain ar ein hymateb i ymgynghoriadau datblygu morol, a hefyd y timau monitro morol a phrosiectau morol, sydd i gyd o fewn y Gwasanaeth Morol yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn ein timau strategol a rheoleiddiol, gan gynnwys timau polisi morol, ecosystemau morol a thrwyddedu morol yn ein Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth mewn perthynas ag adareg y glannau. 
  • Cynnig cyngor technegol arbenigol yn fewnol i lywio ymatebion Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol i waith achos allanol, a hefyd pennu gwaith achos mewnol sy’n cael ei reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (er enghraifft, trwyddedau morol). Bydd cyngor mewnol hefyd yn llywio swyddogaethau rheoli morol ac arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol. 
  • Darparu cyngor technegol arbenigol yn allanol ar gyfer (a) datblygwyr a rheoleiddwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a (b) fforymau rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ac (c) cyflawni rôl tyst arbenigol mewn ymchwiliadau fel y bo’n briodol. 
  • Arwain ar waith datblygu canllawiau gwaith achos perthnasol. Datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. 
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol megis cynrychiolwyr o’r sector, Llywodraeth Cymru, partneriaid, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol. 
  • Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni. 
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud ag ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd iddynt; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU mewn ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd iddynt a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad sylweddol o ddarparu cyngor morol technegol arbenigol, ar lefel ranbarthol neu Gymru gyfan, ar adareg y glannau.
  3. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.
  4. Gwybodaeth dechnegol arbenigol sy’n berthnasol i adareg forol ac arfordirol;
  5. Gweithio gyda/yn Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cyrff cyhoeddus a chyrff sy’n cynrychioli’r sector morol. 
  6. Sgiliau rheoli prosiect, cynllunio gwaith a blaenoriaethu da.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf