Rheolwr Gwasanaeth TGCh
Dyddiad cau: 07/09/2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoli Gwasanaethau / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 26/09/2025
Rhif swydd: 201816
Y rôl
Rydym yn chwilio am Reolwr Gwasanaeth hyderus a galluog i ymuno â'n tîm Rheoli Gwasanaethau yn ein hadran Digidol, Data a Thechnoleg. Mae hon yn rôl allweddol, sy'n gyfrifol am reoli ac am berfformiad nifer o wasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg, gan gynnwys gwasanaethau sy'n hanfodol i’r busnes ac sy'n flaenoriaeth uchel fel rheoli llifogydd a digwyddiadau.
Yn y rôl hon, bydd gennych berchnogaeth ac ymreolaeth lawn
dros weithrediad dyddiol y gwasanaethau a neilltuwyd. Byddwch yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cwsmeriaid busnes, gan gynnal perthnasoedd cryf i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol ac yn bodloni cytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
Gan weithredu ar lefelau tactegol a gweithredol, byddwch yn monitro ac yn adrodd ar berfformiad ac ansawdd gwasanaeth, gan nodi meysydd i'w gwella yn rhagweithiol. Gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid busnes, byddwch yn helpu i lunio'r galw yn y dyfodol a diffinio gofynion gwasanaeth newydd, gan sicrhau bod gwasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg yn parhau i esblygu yn unol ag anghenion y sefydliad.
Dyma gyfle allweddol i weithiwr proffesiynol rheoli gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac ar ddatrysiadau, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau digidol o ansawdd uchel sy'n cefnogi gwaith hanfodol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Griffith ar sarah.griffith@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Nid oes amser pwysicach erioed wedi bod i ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol pobl a byd natur Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar wella a symleiddio ein gwasanaethau er budd dinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid Cymru.
Wedi'i sefydlu yn 2013, mabwysiadodd Cyfoeth Naturiol Cymru fodel cwmwl yn gyntaf heb dechnolegau etifeddol na mudo. Wedi'n rhannu'n is-dimau, rydym yn datblygu, yn rheoli ac yn cefnogi sefydliad aml-ranbarth Azure mawr sy'n cynorthwyo gwasanaethau cynnal bywyd ar gyfer y genedl 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gyda thros 100 o gymwysiadau ar y we, cronfeydd data cysylltiedig a rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, modelu amgylcheddol amser real, dulliau rhybuddio ac adrodd cyhoeddus, a chasglu data IOT o dros 650 o leoliadau anghysbell – nid yw gwaith diddorol a chyffrous byth yn bell i ffwrdd.
Ein huchelgais yw meithrin mwy o dalent ym maes data, digidol a thechnoleg yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. I wneud hynny, rydym yn cydweithio â phartneriaid dylunio a datblygu arbenigol i wella capasiti a sgiliau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Drwy greu timau cymysg o bobl o'n timau ein hunain yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a'n partneriaid cyflawni – rydym yn gweithio ar y cyd tuag at nodau a chanlyniadau cyffredin sy'n cyflawni ar gyfer cenedl Cymru yn unol â Strategaeth Ddigidol a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn gyfrifol am ddarparu portffolio mawr a chymhleth o wasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg o'r dechrau i'r diwedd o fewn catalog gwasanaethau technoleg i gwsmeriaid busnes Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Goruchwylio gwasanaethau gweithredol i gwsmeriaid Digidol, Data a Thechnoleg, i'r lefelau y cytunwyd arnynt mewn cytundebau lefel gwasanaeth, gan sicrhau bod gwasanaethau'n darparu gwerth i'r busnes.
- Goruchwylio a chynnal y cydberthnasau busnes ar gyfer meysydd busnes penodedig o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Bod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli adolygiadau gwasanaeth creadigol a gwerthfawr gyda'r cwsmeriaid gan gynnwys arweinwyr busnes.
- Goruchwylio'r holl gyfathrebu ynghylch mentrau Digidol, Data a Thechnoleg a newidiadau i'r gwasanaeth i'r cwsmer.
- Arwain y gwaith o gyfleu newidiadau mewn galw gan gwsmeriaid neu ofynion cwsmeriaid i reolwyr Digidol, Digidol, Data a Thechnoleg.
- Bod yn gyfrifol am reolaeth weithredol a thactegol y gwasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg a ddyrannwyd i gwsmeriaid busnes a pherchnogion gwasanaethau.
- Goruchwylio a chynhyrchu gwybodaeth reoli fanwl am wasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg i gwsmeriaid busnes
- Gweithio gyda'r timau cwsmeriaid busnes a Digidol, Data a Thechnoleg, i wella gwasanaethau trwy integreiddio, tryloywder a defnyddio mentrau gwella gwasanaethau’n barhaus.
- Chwarae rhan bwysig yn natblygiad a chyflawniad strategaeth Digidol, Data a Thechnoleg
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd TG neu brofiad cyfwerth. ITIL Sylfaen yn orfodol gyda phrofiad helaeth (tair blynedd) o reoli gwasanaethau.
- Profiad busnes helaeth a'r gallu i adeiladu a chynnal cydberthnasau cymhleth. Profiad o reoli mewn amgylchedd rheoli matrics.
- Yn gallu ac yn barod i gyfathrebu ar bob lefel busnes a Digidol, Data a Thechnoleg.
- Y gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau busnes.
- Y gallu i nodi risgiau a phroblemau, a’u rheoli neu eu huwchgyfeirio’n briodol.
- Y gallu i gynrychioli strategaethau a mentrau Digidol, Data a Thechnoleg yn gydlynol ac yn hyderus.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.