Uwch-swyddog Trwyddedu Morol

Dyddiad cau: 28/05/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedu Morol, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amswer, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201607

Y rôl

Fel uwch-swyddog trwyddedu morol, byddwch yn arwain ar benderfyniadau cymhleth ynghylch trwyddedau o dan ddeddfwriaeth trwyddedu morol drwy gynnal asesiad technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle bo modd, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni penodedig.

Byddwch yn dadansoddi ac yn dehongli amrywiaeth eang o wybodaeth gymhleth, gan dynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu i bobl eraill ar bob lefel. Cynrychioli’r tîm trwyddedu yn ei faes arbenigedd o fewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac yn ystod cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol / allanol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Emmer Litt at Emmer.Litt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 


Amdanom ni

Fel prif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae rôl CNC yn arwyddocaol ac yn eang ei chwmpas. Mae ein gwaith rheoleiddio yn sail i lawer o’r hyn a wnawn i warchod, cynnal a gwella ein hadnoddau naturiol yn y presennol ac yn y dyfodol fel y gall pobl fyw bywydau gwell ac iachach, ac i sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn gallu ffynnu.

Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu’n cyfrannu at hyn drwy leihau’r risg o niwed i’r amgylchedd a phobl Cymru, yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy, ac yn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol, trwy ein hasesiad cadarn o geisiadau am ystod eang o weithgareddau a chaniatadau.

Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn adran gymharol fach ac yn cynnwys wyth tîm sy’n cydweithio i rannu gwybodaeth, arferion gorau a phrofiad.

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain ar y gwaith o benderfynu ar drwyddedau cymhleth o dan ddeddfwriaeth trwyddedu morol, trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle maent ar gael, a chyflwyno, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni.
  • Arwain y gwaith o ddylanwadu ar y fframweithiau mentora a hyfforddi a’u gweithredu, er mwyn cynorthwyo datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill yn y tîm trwyddedu morol ac ar draws y gwasanaeth trwyddedu, lle y bo’n berthnasol, gan sicrhau cysondeb o ran y dull.
  • Profiad helaeth o wneud penderfyniadau trwyddedu gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol yn ôl y gofyn gan y gyfundrefn trwyddedu morol.
  • Arwain y gwaith o gefnogi timau gweithredol drwy ddarparu arbenigedd arbenigol yn y trafodaethau cyn cyflwyno cais a’r gwaith ar ôl trwyddedu ar gyfer amrywiaeth o fathau o geisiadau yn y maes trwyddedu morol.
  • Adnabod a gweithredu ar gyfleoedd i wneud newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau.
  • Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol drwy gydlynu newid sy’n arwain at wella profiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol o’r Gwasanaeth Trwyddedu.
  • Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu yn ymwneud â’ch maes gwaith neilltuedig.
  • Cynrychioli’r Gwasanaeth Trwyddedu mewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol perthnasol.
  2. Dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n ymwneud â’r broses trwyddedu morol.
  3. Sgiliau hyfforddi a mentora amlwg.
  4. Dull sy’n canolbwyntio’n gryf ar y cwsmer o ran cyflawni.
  5. Hanes blaenorol o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
  6. Profiad o asesu ceisiadau cymhleth am drwyddedau morol.(Dymunol)
  7. Profiad o ddefnyddio rhaglenni mapio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).(Dymunol)
  8. Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf