Uwch-gynghorydd Dulliau Rheoliadol
Dyddiad cau: 31 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dulliau Rheoliadol / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 10 Medi 2025 ymlaen
Rhif swydd: 201560
Y rôl
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm Dulliau Rheoliadol Ansawdd Dŵr, lle byddwch chi’n helpu i lywio sut rydym yn rheoleiddio ansawdd dŵr ledled Cymru. Gan weithio’n agos gyda’n tîm Polisi Ansawdd Dŵr, a thrwy ddefnyddio tystiolaeth o bob rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), byddwch yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu offer, canllawiau a phrosesau sy’n cefnogi ein darpariaeth reoleiddiol.
Mae rhan allweddol o’r rôl yn cynnwys cynhyrchu canllawiau rheoleiddiol clir, a dylunio a chyflwyno hyfforddiant ar y canllawiau rheoleiddiol a gynhyrchwyd. Byddwch hefyd yn cydweithio â sefydliadau allanol a rheoleiddwyr eraill, gan helpu i sicrhau dull cyson o reoleiddio ansawdd dŵr sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Os ydych chi’n angerddol am reoleiddio amgylcheddol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â
Selby Le Roux
selby.leroux@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk (14/08/2025 – 19/08/2025)
Eleanor Ellick
eleanor.ellick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk (20/08/2025 – 31/08/2025)
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, gan weithio i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol. O fynd i’r afael â newid hinsawdd i wella ansawdd dŵr, rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Mae’r rôl hon yn rhan o’n Tîm Dulliau Rheoliadol Ansawdd Dŵr, sy’n arwain ar y gwaith o benderfynu sut rydym yn rheoleiddio gollyngiadau o ffynonellau preifat a chwmnïau dŵr. Ymunwch â ni a helpwch i lunio dyfodol rheoleiddio dŵr yng Nghymru drwy gyngor arbenigol, safonau amgylcheddol cryf, a phenderfyniadau effeithiol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth, a rheoleiddwyr amgylcheddol y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer CNC a’r sector(au).
- Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy gymhwyso gwybodaeth a phrofiad technolegol, deddfwriaethol a rheoliadol.
- Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn prosiectau ar faterion cymhleth a phenodol, gan gynnwys comisiynau gan grwpiau llywodraethu, er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff sy’n arwain at ddarparu gwasanaethau rheoliadol yn effeithiol.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth a chynllun corfforaethol CNC.
- Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod gan y tîm wytnwch deddfwriaethol a thechnegol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiadau o’r angen i wella prosesau rheoleiddiol a thrwyddedu gan CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eich sector(au) penodol.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau’r llywodraeth / rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau ar lefel tîm/prosiect/swyddogaeth benodol, ac ar lefel y sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoleiddiol.
- Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau rheoleiddiol a newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.