Arbenigwr Arweiniol Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff

Dyddiad cau: 29 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoleiddio Diwydiant y Gogledd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 200420

Y rôl

Fel Arbenigwr Arweiniol byddwch yn rheoleiddio rhai o'r gosodiadau diwydiannol mwyaf cymhleth a risg uchaf yn y sectorau canlynol: cemegau, bwyd a diod, metelau, cynhyrchu pŵer, papur a thecstilau, sment a mwynau, tirlenwi a thrin gwastraff. Efallai y byddwch chi'n ymwneud â Rheoli Damweiniau Mawr a Pheryglon, a rheoleiddio gweithgareddau sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol.

Fel Arbenigwr Arweiniol byddwch yn gweithredu fel arbenigwr cenedlaethol ar gyfer un neu fwy o'r arbenigeddau cymhleth canlynol:
•    Nwy Tirlenwi.
•    Cemegau
•    Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol.
•    Bwyd a Diod
•    Sment a mwynau.
•    Papur a mwydion.
•    Hylosgi.

Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth a phrofiad o brosesau diwydiannol cymhleth. Bydd datrys problemau ac ymdrin â materion/safleoedd cynhennus, rhoi cyngor ar opsiynau a chydweithio yn agweddau pwysig ar y rôl. Byddwch yn datblygu cysylltiadau gweithio proffesiynol â'n gweithredwyr, yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ac yn cymryd camau gorfodi cymesur os bydd angen i wella cydymffurfiaeth a chyflawni canlyniadau amgylcheddol.

Mae sgiliau mentora a hyfforddi yn hanfodol i gefnogi cydweithwyr a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag arbenigwyr eraill i ateb ymholiadau technegol, datblygu adnoddau hyfforddi a datblygu, a gwella cysondeb ledled Cymru.

Bydd gofyn i chi hefyd ymateb i ddigwyddiadau/adroddiadau amgylcheddol a gwneud gwaith ymchwil priodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno ar adeg penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Jim McClymont at James.McClymont@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Yn CNC rydym wrth galon y gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy fel y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa ohonynt.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm profiadol sy'n amddiffyn ac yn gwella'r amgylchedd yn weithredol ac yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng Hinsawdd.
Fel Arbenigwr Arweiniol mewn rheoleiddio Diwydiant, byddwch yn cyfrannu at leihau llygredd o dirwedd Ddiwydiannol Cymru ac yn bod ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd i gyrraedd targedau Sero Net.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel arweinydd technegol cenedlaethol arbenigol CNC ar gyfer sectorau penodol neu faterion technegol. 
  • Gweithredu fel mentor a chynghorydd technegol i aelodau'r tîm. 
  • Cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith y tîm a chyflawni unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes. 
  • Gweithio gyda Gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gweithfeydd, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i sicrhau buddion lluosog. 
  • Arwain ein hymateb i achosion/materion mawr neu ddadleuol yn rheolaidd a gweithredu fel rheolwr cyfrif ar gyfer rhanddeiliaid allweddol. 
  • Cyfrannu at waith sector a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl yr angen er mwyn helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da er budd yr amgylchedd. Pan fo’n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol. 
  • Bydd gofyn cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol ee. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU. Bydd y mathau hyn o grwpiau yn cytuno ar strategaeth reoleiddio sy'n benodol i'r sector ar lefel Cymru, y DU neu Ewrop. 
  • Datblygu cysylltiadau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau a thrwy hynny gyfrannu at ddatblygu unrhyw bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â diwydiant. 
  • Gweithio gyda'r Tîm Trwyddedu i gynorthwyo'r broses adolygu trwyddedau barhaus mewn ymateb i ddiweddariadau BREF a chyhoeddi Casgliadau BAT. 
  • Rhyngweithio ag arbenigwyr rheoleiddio eraill yn CNC i hyrwyddo arferion rheoleiddio cyson. 
  • Cefnogi cynghorwyr Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ar lefel weithredol. 
  • Asesu cydymffurfiaeth mewn gweithfeydd, safleoedd COMAH, safleoedd gwastraff a safleoedd sy'n trin sylweddau ymbelydrol.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion. 
  • Cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a lles.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Aelodaeth broffesiynol. 
  2. Profiad o weithio ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol perthnasol. 
  3. Sgiliau hyfforddi a mentora. 
  4. Profiad o reoli materion cynhennus a chysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd. 
  5. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  6. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu. 
  7. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio a gorfodi a rheoli digwyddiadau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf