Uwch Beiriannydd
Dyddiad cau: 28/05/2025 | Cyflog: Gradd 6:£41,132 - £44,988 | Lleoliad: Depo Rhuddlan
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Arweinydd Tîm Peirianneg Integredig, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 200346
Y rôl
Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru fel Uwch Beiriannydd yn nhîm Peirianneg Integredig y Gogledd-ddwyrain a chwaraewch rôl hanfodol wrth gynllunio a chyflawni gwaith cynnal a chadw asedau perygl llifogydd, cynlluniau gwella cyfalaf, a phrosiectau peirianneg gynaliadwy o fewn tîm Peirianneg amlswyddogaethol.
Byddwch yn arwain ar gynllunio technegol ac iechyd a diogelwch, yn cefnogi ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, ac yn gweithredu fel rheolwr prosiect allweddol a chynghorydd ar gyfer amrywiaeth o waith peirianneg sifil, wrth gefnogi a mentora is-aelodau'r tîm.
Mae hon yn rôl amrywiol ac effeithiol, sy'n cynnwys dylunio, caffael a chyflawni prosiectau cynnal a chadw perygl llifogydd ledled Gogledd-ddwyrain Cymru. Byddwch yn gweithio gyda chontractwyr, yn rheoli cyllidebau a ddyrannwyd, yn cefnogi datblygu systemau TG, ac yn defnyddio eich gwybodaeth arbenigol i wella gwydnwch seilwaith a chefnogi ein hamcanion rheoli cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir cryf mewn Peirianneg Sifil, yn ddelfrydol gyda gradd berthnasol (neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch/Tystysgrif Cenedlaethol Uwch a phrofiad helaeth), ac yn gweithio tuag at statws Siartredig. Byddwch chi'n dod â dealltwriaeth ddofn o reoliadau CDM, gan fod y tîm wedi'i benodi'n Brif Ddylunydd ac ar gyfer y rhaglen cynnal a chadw flynyddol wrth gefnogi'r Cleient gyda'u dyletswyddau. Bydd gennych sgiliau rheoli prosiectau cryf (Prince2 yn ddymunol), a'r gallu i gydweithio ar draws timau a chyda phartneriaid allanol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC a nodir uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i wneud penderfyniadau ar faterion cymhleth a chyfleu'r penderfyniadau hyn i'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Os ydych chi'n angerddol am ddarparu atebion peirianneg sy'n cefnogi cymunedau a'r amgylchedd, ac eisiau bod yn rhan o dîm dylunio blaengar o fewn sefydliad gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Craig Davies at Craig.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain ar gynhyrchu rhaglen cynnal a chadw asedau perygl llifogydd flynyddol.
- Ymateb i asedau sy'n methu, cynllunio bod y gwaith yn cael ei gynnwys yn y rhaglen flynyddol neu’r cynllun atgyweiriadau.
- Arwain ar gynhyrchu ac adolygu’r ymateb parhaus i lifogydd.
- Cynlluniau wrth gefn a chynlluniau gweithredu, gan sicrhau bod ymarferion ymateb i ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
- Noddi a/neu ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ar raddfa fechan i ganolig a nodir gan yr adran Gweithrediadau ac ASM gan roi barn a chyngor arbenigol ar faterion peirianneg a thechnegol.
- Cyflwyno prosiectau ar gyfer adrannau mewnol eraill fel H&T ac FRB i gynhyrchu codi tâl i ariannu'r rhaglen cynnal a chadw refeniw.
- Ymgymryd ag adroddiadau ariannol, i ganiatáu amcangyfrif cywir o dargedau costau a chyllidebau wedi'u rhaglennu.
- Gweithio gyda’r adran gaffael i sefydlu Fframweithiau Contractwyr.
- Cynnal gwaith tendro a gwerthusiadau.
- Rhoi cyngor a chymorth gydag integreiddio gwaith cynnal a chadw Diogelwch Cronfeydd Dŵr, gweithgareddau Ardal Draenio Fewnol (IDD) a rhaglenni cynnal a chadw asedau.
- Ymgymryd â rolau ffurfiol Cleient a/neu Ddylunydd/Prif Ddylunydd i gydymffurfio â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM).
- Arwain ar ddatblygiad a mewnbwn i systemau TG newydd fel AMX i wella effeithlonrwydd CNC. Gweithredu fel pwynt cyswllt ac uwch-ddefnyddiwr ar gyfer y systemau hyn.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymwysterau; Mae gradd mewn Peirianneg Sifil neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol ynghyd â thystysgrif adeiladu NEBOSH. HND/HNC mewn peirianneg sifil neu gyfwerth yw'r gofyniad lleiaf, ynghyd â phrofiad cysylltiedig sylweddol. Dylai'r ymgeisydd hefyd fod yn gweithio tuag at statws Peiriannydd Siartredig neu ddynodiad proffesiynol priodol arall.
- Gwybodaeth eang o ddylunio peirianneg sifil ac arferion adeiladu ynghyd â gwybodaeth sylfaenol am hydroleg sianel. Y gallu i ddatblygu a chymhwyso atebion arloesol i broblemau.
- Yn y rôl hon bydd disgwyl i chi gefnogi arfer gorau Iechyd a Diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth a sicrhau fod darpariaeth o arferion gwaith diogel i gydymffurfio â pholisi a safonau CNC.
- Rheoli Prosiectau; byddai cymhwyster ymarferydd Prince2 yn ddymunol.
- Sgiliau tirfesur cymwys. Sgiliau AutoCAD.
- Mae cymryd rhan mewn gwaith traws-dîm ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu partneriaethau er mwyn cyflawni amcanion perygl llifogydd CNC yn rhan hanfodol o’r rôl.
- Cymryd rhan yn rhestr ddyletswyddau ymateb i ddigwyddiadau CNC.
- Y gallu i ymgymryd â 'Rôl Cleient a Dylunydd' i gydymffurfio â CDM 2015.
- Sgiliau TGCh/GIS a threfnu da.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.