Peiriannydd MEICA (Mecanyddol, Trydanol, Offeryniaeth, Rheolaeth ac Awtomateiddio)
Dyddiad cau: 03/09/2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg of fewn Gogledd Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: MEICA, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 17/09/2025
Rhif swydd: 200331
Y rôl
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol brwdfrydig a medrus yn dechnegol i ymuno â'n tîm arbenigol MEICA (Mecanyddol, Trydanol, Offeryniaeth, Rheoli ac Awtomeiddio), gan helpu i ddarparu seilwaith hanfodol ledled Cymru.
Fel rhan o'n tîm arbenigol, byddwch yn cymryd perchnogaeth o raglenni cynnal a chadw ymatebol a rheolaidd gan ddefnyddio ein System Rheoli Cynnal a Chadw Cyfrifiadurol (CMMS) a’r platfform AMX. Byddwch yn rheoli'r gwaith o ddydd i ddydd drwy ein Contractwr Tymor MEICA — gan gyhoeddi rhaglenni gwaith, monitro cynnydd, a darparu diweddariadau rheolaidd ar dasgau sydd heb eu cyflawni.
Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli asedau hanfodol MEICA, gan arwain y gwaith o ganfod a datrys namau ar offer ac ymateb i ddigwyddiadau brys pan fo angen. Byddwch yn caffael nwyddau a gwasanaethau, ac yn helpu i lunio dyluniad a manyleb gwaith MEICA. Byddwch hefyd yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer cysylltiadau rhwydwaith trydan rhanbarthol, gan oruchwylio elfennau o seilwaith perygl llifogydd sy'n gysylltiedig â MEICA, rheoli prosiectau cyfalaf a chynnal adolygiadau technegol allweddol.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil gyda ffocws cryf ar reoli prosiectau, arbenigedd technegol, a chyflawni gweithredol — yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar atebion ac sydd eisiau helpu i lunio seilwaith amgylcheddol hanfodol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Trefnir unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Craig Burdon at Craig.Burdon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli rhaglen gynnal ymatebol a chynlluniedig gwaith MEICA trwy system reoli a chynnal gyfrifiadurol MEICA.
- Cyflwyno rhaglenni gwaith MEICA i gontractwr tymor MEICA, monitro cynnydd y gwaith a darparu adroddiadau rheolaidd ar unrhyw waith sy’n weddill.
- Nodi a datrys namau yn yr offer ac ymateb i achosion brys.
- Caffael nwyddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni’r rhaglenni gwaith yn effeithiol.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu dyluniadau a manylebau ar gyfer gwaith MEICA, gan gynnwys prosiectau adfer asedau.
- Cyfranogi yn rota wrth gefn MEICA.
- Darparu manylebau MEICA i brosiectau a rheoli gwaith penodol MEICA.
- Gwneud cais a thendro am brosiectau cyfalaf gwerth hyd at £50,000 a’u rheoli.
- Cynnal adolygiad dylunio rhagarweiniol ac adolygiad dylunio critigol ar brosiectau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Rhaid bod yn beiriannydd hyfforddedig sy’n gymwys hyd lefel Diploma Cenedlaethol Uwch neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg MEICA berthnasol, gan weithio tuag at statws peiriannydd ymgorfforedig. Hefyd, rhaid meddu ar dystysgrif iechyd a diogelwch gydnabyddedig (IOSH).
- Byddwch yn gallu dangos amrywiaeth eang o brofiad o beirianneg mewn amgylchedd peirianneg MEICA amlddisgyblaeth ac yn meddu ar wybodaeth ymarferol am systemau rheoli diwydiannol, dechreuwyr motorau, rheolwyr rhesymeg y gellir eu rhaglennu (PLC), pympiau rhyngwynebu peiriannau dynol (HMI), gatiau llifddor awtomataidd a PLCau cysylltiedig, rheolaeth oruchwyliol a chaffael data (SCADA), a systemau teledu cylch cyfyng ac ati.
- Mae’n ddymunol i’r ymgeiswyr feddu ar brofiad o reoli gwaith uchel ei risg, megis rheoli contractwyr, gweithio mewn ardal gyfyngedig, gweithio ger dŵr, ac ati.
- Dylech feddu ar sgiliau TG da a bod yn gyfarwydd â’r canlynol: cyfres Microsoft Office, systemau rheoli a chynnal cyfrifiadurol, a systemau AutoCAD (dylunio gyda chymorth cyfrifiadur).
- Gofynion o ran rheoli iechyd a diogelwch ar gyfer gwaith MEICA.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.