Adroddiad Blynyddol Chwythu'r Chwiban a Pherson Rhagnodedig 2025-26
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion yr holl ddatgeliadau Chwythu'r Chwiban a dderbyniwyd gan CNC yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26 ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion cysylltiedig.
Rydym yn annog unigolion i godi pryderon am ddrwgweithredu. Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o uniondeb ac atebolrwydd ac o fod yn agored. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i ni sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith yn gallu camu ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Rydym wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw ddrwgweithredu a ddaw i’r amlwg.
Gellir codi pryderon yn gyfrinachol, gan gynnwys yn ddienw, ac fe'u hadolygir yn annibynnol gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Pennaeth Llywodraethu. Bydd aelod o'r Bwrdd yn cael ei enwebu fel Arweinydd Chwythu'r Chwiban i gefnogi uwch-gyfeirio lle bo angen.
Y tîm Archwilio Mewnol sy’n goruchwylio unrhyw bryderon ynglŷn â chwythu'r chwiban ac unrhyw ymchwiliadau cysylltiedig, a nhw fydd yn rhoi sicrwydd ar effeithiolrwydd y trefniadau hyn.
Yn ystod 2025-26, codwyd 57 o bryderon drwy sianeli chwythu'r chwiban CNC. Aseswyd yr holl bryderon hyn i ddechrau gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Pennaeth Llywodraethu, y ddau ohonynt yn annibynnol ar unrhyw un o'r meysydd pryder a godwyd, gan ddefnyddio canllawiau y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (PIDA).
O'r rhain:
- roedd 7 yn bodloni'r meini prawf i gael eu trin fel achosion chwythu'r chwiban posibl
- nid oedd y 50 achos arall yn bodloni'r meini prawf, a deliwyd â nhw drwy brosesau priodol eraill, fel y broses cwynion neu adrodd am ddigwyddiadau
- O'r 7 achos a nodwyd yn achosion chwythu'r chwiban posibl, roedd 5 yn ymwneud â materion y tu allan i CNC yn ei rôl fel Person Rhagnodedig. O'r 2 achos yn ymwneud â CNC, ni chafodd yr un ei gadarnhau yn ystod y flwyddyn, gydag un yn dal i gael ei adolygu ac un heb ei gadarnhau.
Nifer yr achosion chwythu'r chwiban
Ymdrin ag achos yn gychwynnol
| Math | 2025-26 | 2024-25 | 2023-24 | 2022-23 | 2021-22 |
|---|---|---|---|---|---|
| Pryderon a Godwyd | 57 | 53 | 31 | 20 | 4 |
| Cyfeiriwyd at weithdrefnau presennol CNC | 50 | 48 | 27 | 10 | 0 |
| Adolygwyd gan berson rhagnodedig (allanol) | 5 | 1 | 2 | 2 | 1 |
Cyfeirio at adolygiad achos Cam 1
| Math | 2025-26 | 2024-25 | 2023-24 | 2022-23 | 2021-22 |
|---|---|---|---|---|---|
| Pryderon a Godwyd | 57 | 53 | 31 | 20 | 4 |
| Adolygiadau chwythu'r chwiban Cam 1 | 2 | 4 | 2 | 8 | 3 |
| Cyfeirio at weithdrefnau eraill CNC | 2 | 4 | 2 | 8 | 3 |
| Ymchwiliadau chwythu'r chwiban ffurfiol | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Chwythu'r Chwiban
Mae Person Rhagnodedig yn golygu sefydliad sydd wedi'i ddynodi yn ôl y gyfraith i dderbyn datgeliadau chwythu'r chwiban am faterion o fewn ei gylch gwaith. Mae hyn yn caniatáu i unigolion godi pryderon yn uniongyrchol gyda rheoleiddiwr neu gorff cyhoeddus, lle mae hyn yn fwy priodol nag adrodd drwy gyflogwr.
Cawsom ein dynodi fel Person Rhagnodedig yn 2020, yn dilyn argymhelliad gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU, ac wedi hynny cawsom ein cynnwys o dan y gyfraith berthnasol. Fel Person Rhagnodedig, gallwn dderbyn datgeliadau allanol sy'n ymwneud â materion amgylcheddol a rheoleiddiol o fewn ein cylch gwaith.
Yn ystod y flwyddyn, cawsom bum datgeliad chwythu'r chwiban yn ein rhinwedd fel Person Rhagnodedig. O'r achosion hyn:
- cyfeiriwyd 1 achos at sefydliad arall i ymdrin ag ef, gan nad oedd o fewn cylch gwaith CNC
- cafodd 2 achos eu hadolygu ac ni chawsant eu cadarnhau, ac maent bellach wedi'u cau
- mae 2 achos yn parhau i gael eu hadolygu.
Mae pob datgeliad yn cael ei ystyried yn annibynnol i bennu a yw’n dod o fewn cylch gwaith CNC a sut dylid ymdrin ag ef.