Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2023

Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder, rydym yn cyhoeddi adroddiad rheoleiddio blynyddol sy’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi.

Mae ein hadroddiad yn 2023 (ein seithfed) yn adlewyrchu ein dyletswyddau rheoleiddio statudol ac yn crynhoi ein gwaith yn y meysydd canlynol:

  • ymateb i ddigwyddiadau
  • trwyddedu
  • cydymffurfedd
  • trosedd a chamau gorfodi a chosbi

Mae hyn yn seiliedig ar ddata o’n systemau digwyddiadau, trwyddedu, cydymffurfedd a gorfodi allweddol, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023 (oni nodir yn wahanol). Yn ogystal, rydym wedi defnyddio gwybodaeth ansoddol gan ein harbenigwyr pwnc a phrosiectau perthnasol.

2023 mewn ffigurau

Ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau yng Nghymru. Mae ein hymdrechion yn cynnwys monitro cyrff dŵr ar gyfer safonau amgylcheddol, rheoli llygredd, ac ymateb i ddigwyddiadau ansawdd.

Rydym yn rheoleiddio tynnu dŵr i gydbwyso anghenion pobl, diwydiant ac ecosystemau, yn enwedig yn ystod cyfnodau o sychder.

Ein nod yw cynnal afonydd, llynnoedd a dyfroedd arfordirol iach, diogelu ecosystemau dyfrol, a sicrhau adnoddau dŵr cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Roedd 39% (3,318) o'r holl ddigwyddiadau a adroddwyd i ni yn ymwneud â dŵr

  • Mynychwyd 1,220 o ddigwyddiadau dŵr gennym ni

  • Roedd 1,242 o drwyddedau tynnu dŵr llawn gweithredol mewn grym

  • Aseswyd 99 o amodau trwydded adnoddau dŵr, a chanfuwyd nad oedd 56% yn cydymffurfio

  • Bu cynnydd o 37% yn nifer y trwyddedau gollwng dŵr a aseswyd gennym

  • Cofnodwyd 439 o achosion o dorri amodau ar gyfer 338 o drwyddedau gollwng nad oeddent yn cydymffurfio

  • Roedd 41 o daliadau gorfodi yn ymwneud â dŵr

  • Roedd 23% o’r holl achosion gorfodi (831) yn ymwneud â dŵr (190)

Gwastraff a diwydiant

Rydym yn rheoleiddio gwastraff a diwydiant i leihau effeithiau amgylcheddol a sicrhau cydymffurfedd â chyfreithiau. Rydym yn ymateb i ddigwyddiadau gwastraff, yn monitro gweithgareddau anghyfreithlon fel llosgi gwastraff, ac yn goruchwylio trwyddedau i sicrhau bod pawb yn dilyn y rheolau.

Rydym yn rheoli cofrestriadau ac esemptiadau cludwyr gwastraff, a meysydd twf. Rydym hefyd yn olrhain diffyg cydymffurfio â thrwyddedau ac yn rheoleiddio taliadau gwastraff i gynnal safonau a diogelu adnoddau naturiol yng Nghymru.

  • Roedd 36% o'r holl ddigwyddiadau a adroddwyd i ni yn ymwneud â gwastraff

  • Adroddwyd am 3,051 o ddigwyddiadau a mynychwyd 612

  • Cwblhawyd 92 o asesiadau cydymffurfio mewn 68 o safleoedd ffermio dwys

  • Roedd 363 o drwyddedau gosodiad mewn grym

  • Roedd 650 o asesiadau cydymffurfio wedi'u cwblhau ar gyfer trwyddedau gosodiad

  • Aseswyd 83% o'r holl safleoedd yn cynnwys gosodiadau a ganiateir gennym ni

  • Roedd 32% o'r gweithgarwch a adroddwyd yn ymwneud â safleoedd gwastraff anghyfreithlon

  • Roedd 2,541 o gofrestriadau cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff newydd

  • Roedd cynnydd o 31% yn nifer yr esemptiadau gwastraff a gofrestrwyd

  • Cofnodwyd 377 o achosion o ddiffyg cydymffurfio ag amodau trwydded yn erbyn trwyddedau gweithrediadau gwastraff

  • Roedd 399 o daliadau gorfodi yn ymwneud â gwastraff

Tir, bioamrywiaeth a physgodfeydd

Rydym yn gwarchod tir, bioamrywiaeth a physgodfeydd. Mae ein rheolaeth yn sicrhau iechyd ecosystemau ac yn mynd i'r afael â diraddio tir.

Rydym yn monitro bioamrywiaeth ac yn diogelu rhywogaethau a chynefinoedd dan fygythiad. Mewn pysgodfeydd, rydym yn rheoleiddio arferion ac yn rheoli poblogaethau pysgod yn nyfroedd Cymru. Trwy adfer cynefinoedd a chadwraeth rhywogaethau, rydym yn gwella tirweddau naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.

  • Roedd 520 o ddigwyddiadau a gofnodwyd yn ymwneud ag amaethyddiaeth

  • Roedd 524 o ddigwyddiadau a gofnodwyd yn ymwneud â choedwigaeth

  • Roedd 34 o ddigwyddiadau a gofnodwyd yn ymwneud â bioamrywiaeth

  • Rhoddwyd 1,892 o drwyddedau rhywogaeth

  • Rhoddwyd 519 o ganiatadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a 441 o gydsyniadau SoDdGA

  • Roedd 263 o daliadau gorfodi amaethyddol

  • Cyhoeddwyd 216 o hysbysiadau iechyd planhigion statudol

  • Roedd 180 o archwiliadau trwyddedau a hysbysiadau coedwigaeth

  • Roedd 2,008 o wiriadau trwydded gwialen (cyfradd osgoi talu o 4%)

  • Roedd 250 o ddigwyddiadau cysylltiedig

  • Roedd 78 o achosion o ladd pysgod

  • Roedd 94 o daliadau gorfodi pysgodfeydd

Ymateb i ddigwyddiadau a gorfodi

Weithiau gall ein hymdrechion gorfodi ymestyn ar draws sawl cyfnod adrodd.Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd ein swyddogion yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau cymhleth, yn enwedig y rhai sy'n cysylltu ag asiantaethau eraill fel yr heddlu ac awdurdodau lleol. Efallai y bydd bwlch hirach rhwng y digwyddiad cychwynnol a phenderfyniad terfynol yr ymateb gorfodi.

  • Adroddwyd 8,505 o ddigwyddiadau i ni

  • Fe wnaethom fynychu 29% o’r holl ddigwyddiadau (2,448)

  • Roedd 75% o gyfanswm y digwyddiadau a adroddwyd am ddŵr a gwastraff

  • Roedd 831 o achosion gorfodi newydd

  • Roedd 1,267 o daliadau gorfodi ar wahân

  • Roedd 799 o droseddwyr

  • Roedd 85 o’r achosion erlyn yn cynnwys 126 o gyhuddiadau

  • Roedd pedair dedfryd o garchar

  • Rhoddwyd £648,320 o ddirwyon

  • Anfonwyd 400+ o lythyrau rhybudd neu hysbysiadau i sicrhau gwelliannau ac i helpu i sicrhau cydymffurfedd

Llifogydd, cronfeydd dŵr a’r môr

Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli perygl llifogydd, sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr, a diogelu ein hamgylcheddau morol. Mae ein gwaith llifogydd yn cynnwys monitro a rhagweld digwyddiadau, cynnal a chadw amddiffynfeydd llifogydd, a gweithio law yn llaw â chymunedau i'w helpu i baratoi ar gyfer llifogydd ac ymateb iddynt yn effeithiol. Rydym hefyd yn rhoi trwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd ar gyfer gwaith penodol ger neu mewn cyrsiau dŵr yng Nghymru.

Rydym yn sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr trwy archwiliadau rheolaidd a thrwy orfodi rheoliadau yn ddiwyd i atal problemau posibl. Yn y sector morol, rydym yn monitro ansawdd dŵr, yn cefnogi bioamrywiaeth, ac yn rheoleiddio gweithgareddau pysgota a datblygu, gan warchod cynefinoedd a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o adnoddau morol.

  • Roedd 229 o ddigwyddiadau yn ymwneud â llifogydd

  • Adroddwyd cynnydd o 136% mewn digwyddiadau cysylltiedig â llifogydd

  • Roedd 144 o wiriadau cydymffurfio ar drwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd a ddosberthir fel rhai risg uchel

  • Cydymffurfiodd 81 o weithredwyr ag amodau eu trwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd

  • Derbyniwyd 173 o geisiadau am drwydded forol

  • Derbyniwyd 24 o adroddiadau arolygu o gronfeydd risg uchel

  • Roedd 420 o gronfeydd dŵr wedi’u cofrestru a’u rheoleiddio fel cyforgronfeydd dŵr mawr (cynnydd o 224)

  • Dynodwyd 67% o gyforgronfeydd dŵr mawr yn gronfeydd risg uchel

  • Rhoddwyd 218 o drwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd

  • Penodwyd dau beiriannydd goruchwylio mewn dwy gronfa ddŵr yn niffyg yr ymgymerwr

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad rheoleiddio blynyddol llawn ar gyfer 2023, gan gynnwys:

  • sut rydym yn categoreiddio digwyddiadau  
  • ein dulliau gorfodi a chosbi
  • astudiaethau achosion gorfodi
  • trwyddedu ein gweithgareddau ein hunain
  • canlyniadau erlyn
Diweddarwyd ddiwethaf