2024 Dyddiadau cyfarfodydd y Bwydd

Dylai pawb sy'n mynychu'r cyfarfod fod yn ymwybodol fod cyfarfodydd Bwrdd CNC sy'n cael eu cynnal yn gyhoeddus yn cael eu recordio gan CNC. Hefyd, gall unrhyw aelodau o'r cyhoedd sy'n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd ffilmio/recordio'r cyfarfodydd hyn.

 

Gallai unrhyw ffilm neu recordiad felly, gynnwys ffrydiau fideo, e.e. delweddau o gyfranogwyr, ffrydiau sain, e.e. lleisiau’r cyfranogwyr, a chynnwys eu cyfraniadau a chynnwys y swyddogaeth sgwrsio. Hyd yn oed os nad yw unigolyn sydd yn y cyfarfod yn dangos ei lun gan ddefnyddio’i gamera neu’n defnyddio ei feicroffon, gall y bydd ei enw a manylion eraill amdano yn cael eu cadw mewn recordiad.

 

Mae CNC yn recordio cyfarfodydd y Bwrdd a gynhelir yn gyhoeddus er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o baratoi cofnodion o’r cyfarfodydd. Caiff recordiadau eu dileu cyn gynted ag y bydd y cofnodion yn cael eu cadarnhau. Mae CNC yn storio'r wybodaeth hon yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arfer gorau ar storio data.

 

Dylai mynychwyr a chyfranogwyr cyfarfodydd fod yn ymwybodol y gallai unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n recordio'r cyfarfodydd hyn, ddewis rhannu'r recordiadau hynny'n ehangach. Yn yr amgylchiadau hynny, cyfrifoldeb yr unigolyn sy'n recordio’r cyfarfod yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion cyfreithiol perthnasol o ran data, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (GDPR).

Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd – 2024

Cynhelir nifer o gyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn rydym yn cyhoeddi agenda ynghyd â’r papurau a gaiff eu hystyried yn y cyfarfodydd. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yma wythnos o flaen y cyfarfod. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol. 

Mae croeso i’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid arsylwi’r cyfarfodydd hyn. Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Cyfarfodydd Bwrdd CNC

Mae CNC yn adolygu’r modd y mae’n ymgysylltu gyda’r cyhoedd drwy’r cyfarfodydd Bwrdd, ond mae croeso i aelodau’r cyhoedd arsylwi’r cyfarfod cyhoeddus dros Teams ac i gymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb. Bydd angen iddynt ddefnyddio fersiwn ddiweddaraf eu porwr gwe er mwyn sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y cyfarfod h.y. argymhellir y dylid defnyddio Edge neu Chrome, ni ellir defnyddio Internet Explorer gan y bydd yn achosi problemau o fewn Teams.

Croesewir defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein cyfarfodydd. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus agored.

Gall y manylion hyn newid.

Diweddarwyd ddiwethaf