18–19 Mawrth: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC

Arsylwi ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.

Sgyrsiau gyda CNC – Aberystwyth

Fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, rydym yn cynnal y sesiwn gyntaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau galw heibio newydd, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau’r Bwrdd a staff am amrywiaeth o faterion.

  1. Dyddiad: dydd Iau 18 Mawrth 2026
  2. Amser: 2.30pm tan 4.30pm
  3. Lleoliad: Y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE

Mae croeso i unrhyw un fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae lleoedd parcio ar gael.

Agenda

TBC

Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Diweddarwyd ddiwethaf