Cyfarfod y Bwrdd 17 a 18 Tachwedd 2021

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 18 Tachwedd 2021.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser y Cyfarfod - 9:30AM i 13:50PM - 18 Tachwedd

Amser Eitem

9.30

(5 munud)

1. Agor y Cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiadau o fuddiant
  • Egluro’r dull o gynnal y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

9.35

(5 munud)

2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu

2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 23 Medi 2B. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

9.40

(10 munud)

3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw 

Crynodeb: Y Cadeirydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd

9.50

(15 munud)

4. Adroddiadau Diweddaru’r Pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau 

Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 15 Hydref

Cyfeirnod y papur: 21-11-B13

Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – ar agenda’r diwrnod preifat

Y Pwyllgor Cyllid – amherthnasol

Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 12 Hydref

Cyfeirnod y papur: 21-11-B15

Y Pwyllgor Pobl a Thaliadau – amherthnasol

Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 5 Hydref

Cyfeirnod y papur: 21-11-B16 

Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am

 

weithgareddau diweddar y pwyllgorau

10.05

(30 munud)

5. Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes

Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Cyflwynwyr: Caroline Hawkins, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad ac Asesu Strategol; Sarah Williams, Pennaeth Gweledigaeth 2050 a’r Strategaeth Gorfforaethol; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad

Crynodeb: Craffu ar Adroddiad Chwarter 2 Cyfeirnod y papur: 21-11-B17

10.35

(20 munud)

6. Llesiant, Iechyd a Diogelwch

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Charlotte Morgan, Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch 

Crynodeb: Craffu ar Adroddiad Chwarter 2 a chymeradwyo’r Strategaeth Llesiant, Iechyd a Diogelwch 

Cyfeirnod y papur: 21-11-B18a
Cyfeirnod y papur: 21-11-B18b

10.55

(15 munud)

Egwyl

11.10

(45 munud)

7. Hela Trywydd ar Ystad CNC

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynwyr: Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir; Ieuan Williams, Uwch-arolygydd Arbenigol; Stuart Lyon, Uwch- gyfreithiwr Arbenigol. 

Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer y strategaeth ymadael mewn perthynas ag atal dros dro yr arfer o hela trywydd ar Ystad CNC

Papur rhif: 21-11-B19

11.55

(25 munud)

8. Map Ffordd Gorlifiant Stormydd: Diweddariad Noddwr: Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Cyflwynwyr: Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a

Thrwyddedu; Mark Squire, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy 

Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at y Cynllun Gweithredu yn sgil canlyniad y drafodaeth

strategol ynghylch ansawdd dŵr 

Cyfeirnod y papur: 21-11-B20

12.20

(30 munud)

Cinio

12.50

(20 munud)

9. Is-ddeddfau Pysgodfeydd Statudol

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynydd: David Mee, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Rheoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw 

Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd yn dilyn yr ymgynghoriad statudol 

Cyfeirnod y papur: 21-11-B21

13.10

(10 munud)

10. Diwygiadau i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol

Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd

Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer diwygiadau i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol 

Cyfernod y papur: 21-11-B22

 

Diwedd Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd

13.20

(30 munud)

11. Sesiwn Holi ac Ateb Gyhoeddus

13.50

Diwedd y Cyfarfod

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Agenda PDF [129.2 KB]
Board Papers PDF [6.9 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf 6 Ebr 2023