Sut i baratoi eich cais am grant
Beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi eich cais am grant. 
Mynnwch gyfeirnod
Gwiriwch fod gennych gyfeirnod ar gyfer y grant rydych am wneud cais amdano. Bydd angen hwn arnoch i gychwyn y cais.
Amdanoch chi
Byddwn yn gofyn i chi am y canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad a manylion y sefydliad
 - rhif elusen, rhif TAW neu rif cofrestru cwmni, yn dibynnu ar ba fath o ymgeisydd ydych chi
 - manylion gwefan a chyfryngau cymdeithasol
 - enwau llofnodwyr awdurdodedig eich sefydliad – mae angen dau arnoch
 - cadarnhad o gofrestriad TAW
 
Am eich cynnig
Paratowch ymatebion i'r canlynol:
- Teitl eich prosiect
 - Cyfanswm costau’r prosiect
 - Y swm yr ydych yn gofyn amdano gennym ni
 - Dyddiad dechrau a gorffen eich prosiect
 - Crynodeb o'ch prosiect (uchafswm o 100 gair)
 - Beth fydd eich prosiect yn ei wneud a pham (uchafswm o 250 gair)
 - Beth yw’r angen a’r galw (uchafswm o 250 gair)
 - Pam eich bod chi mewn sefyllfa dda i arwain y prosiect (uchafswm o 100 gair)
 - Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect (uchafswm o 100 gair)
 - Sut bydd unrhyw gydweithrediad yn cryfhau’r prosiect (uchafswm o 100 gair)
 - Ble bydd y prosiect yn gweithredu – gallwch lanlwytho map
 - Manylion unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau sydd eu hangen ar eich prosiect (uchafswm o 250 gair)
 - Pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennych i ddatblygu a dylunio eich prosiect (uchafswm o 500 gair)
 - Pam rydych chi’n meddwl bod y prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian (uchafswm o 250 gair)
 - Pan ddaw eich prosiect i ben, sut bydd y canlyniadau’n cael eu cynnal a sut y byddwch yn ariannu unrhyw gostau parhaus (uchafswm o 250 gair)
 - Beth fydd yn digwydd os na chewch gyllid ar gyfer y prosiect hwn (uchafswm o 250 gair)
 - Sut byddwch chi'n rheoli'r prosiect, a oes gennych chi reolwr prosiect, a sut mae'ch bwrdd prosiect neu'ch grwpiau'n gweithio (uchafswm o 250 gair)
 - Disgrifiwch y prif risgiau a sut rydych yn bwriadu eu rheoli nhw (uchafswm o 250 gair)
 - Sut y byddwch chi’n rhoi cyhoeddusrwydd i'ch prosiect (uchafswm o 250 gair)
 - A oes gennych unrhyw bartneriaid cyflawni ffurfiol a beth yw eu rôl o fewn y prosiect
 - Sut mae pobl o gefndiroedd amrywiol ac o bob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn eich prosiect (uchafswm o 250 gair)
 - Sut byddai eich prosiect yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ac yn annog arfer dwyieithog da (uchafswm o 250 gair)
 - A ydych chi wedi derbyn unrhyw gyllid gan gorff cyhoeddus y gellir ei ddisgrifio fel rheolaeth cymhorthdal (cymorth gwladwriaethol yn flaenorol) yn ystod y tair blynedd diwethaf
 - Manylion unrhyw gyllid arall ar gyfer gweithgareddau a gwmpesir gan y prosiect arfaethedig hwn
 - Manylion am unrhyw ffynonellau cyllid eraill yr ydych wedi gwneud cais amdanynt neu wedi cael ar gyfer y prosiect hwn
 
Dogfennau i'w paratoi
Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho'r canlynol:
- Eich cynllun prosiect wedi'i gwblhau a dadansoddiad o gostau'r prosiect gan ddefnyddio ein templed
 - Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen eich cyfriflenni banc am y tri mis diwethaf arnom a chopi ardystiedig o’ch pasbort neu eich trwydded yrru
 - Os ydych yn gwneud cais fel sefydliad trydydd sector, bydd angen i chi lanlwytho eich dogfennau llywodraethu
 - Os ydych yn sefydliad sydd newydd ei ffurfio o lai na chwe mis oed ac nad oes gennych set o gyfrifon, bydd angen naill ai cyfriflenni banc a chysoniad banc am y tri mis diwethaf arnom, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif
 - Os oes gennych gyfrifon micro-gwmni neu os yw eich cyfrifon statudol yn fwy na chwe mis oed, bydd angen eich cyfrifon rheoli arnom
 - Os oes gennych chi bartneriaid cyflawni ffurfiol, rhaid i chi lanlwytho copi o unrhyw gytundeb sydd wedi'i lofnodi gyda nhw
 - Polisi caffael, os oes gennych chi un
 - Eich polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth, os oes gennych chi un
 - Eich datganiad rheoli cymhorthdal, os yw'n berthnasol i chi
 
Archwilio mwy
                
Diweddarwyd ddiwethaf