Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwhysiant 2019-2020

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 I 2024


Nod 1:

Datblygu a gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ein nod yw cael cynllun sy’n ategu amcanion cyrff cyhoeddus eraill a bod eu hamcanion nhw’n ategu’n rhai ninnau.

Gweithredu:

Cydweithio ag aelodau’r cyhoedd, cyrff cyhoeddus eraill a staff i ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf.

Byddwn yn:

  • Cynllunio
  • Ymgynghori
  • Drafftio
  • Ail-ymgynghori
  • Cytuno
  • Cyhoeddi

Mesur:

Sefydlu gweithgor gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru a llunio cynllun llinell amser               

Erbyn diwedd: Mai 2019
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Cwblhawyd

Cynnal digwyddiadau ymgynghori ar y cyd i staff a’r cyhoedd ledled Cymru

Erbyn diwedd: Hydref 2019
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Cwblhawyd

Drafftio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chynnal cyfnod adolygu cyhoeddus o 12 wythnos   

Erbyn diwedd: Ionawr 2020
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Cwblhawyd

Cael y Bwrdd i gytuno i gyhoeddi’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Parhaus

Gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024

Erbyn diwedd: Ebrill 2020
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Parhaus       

 

Asesu effaith a llywodraethu


Nod 2:

Sicrhau bod anghenion cydraddoldeb unigolion (y mae eu nodweddion wedi’u gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yn cael eu deall yn dda ac yn derbyn sylw priodol.

Er ein bod ni’n gweithio i sicrhau’r gorau y gallwn i bawb, rydym yn edrych yn benodol ar yr effeithiau posibl ar y rhai â nodweddion gwarchodedig ac yn cynnwys y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol tlotach.

Gweithredu:

Ymwneud â phobl a chymunedau i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau i ddefnyddio gwasanaethau rydym yn eu darparu a lle bo’n berthnasol, gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau o grwpiau gwarchodedig, yn fewnol ac allanol a datblygu strategaethau i fynd i’r afael â rhwystrau.

Adrodd ar ein camau gweithredu a sut maent wedi cyflawni yn erbyn ein hamcanion a’n gwerthoedd cydraddoldeb.

Mesur:

Cofnodi ein hymwneud â phobl a chymunedau i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag defnyddio ein gwasanaethau drwy asesu effaith

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Rheolwyr prosiectau CNC
Statws: Disgwyl diweddariad

Adolygu asesiad effaith cydraddoldeb cynllun y sefydliad yn barhaus a sicrhau nad ydym yn rhoi pobl o dan anfantais

Erbyn diwedd: Nes bod cynllun y sefydliad wedi’i gwblhau
Cyfrifoldeb: Bwrdd Prosiect Newid Sefydliadol
Statws: Cwblhawyd

Cyflwyno adroddiad cydraddoldeb diwedd blwyddyn i’r Tîm Gweithredol a’r Bwrdd.

Erbyn diwedd: Canol y flwyddyn ariannol, Diwedd y flwyddyn ariannol
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Cynllun y Sefydliad
Statws: Heb gwblhau, Cwblhawyd

 

#TîmCNC


Nod 3:

Helpu ein pobl i fod yn fwy ymwybodol o’n hunain a chymryd rhan mewn achredu, meincnodi ac ymgorffori ein gwerthoedd.

Gweithredu:

  • Asesu ein lefel o gydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau a gweithredu arno
  • Monitro cynnydd yn erbyn ein hymrwymiadau yng nghynllun Hyderus o Ran Anabledd
  • Parhau i weithio tuag at ein hachrediad Cyfeillion Dementia
  • Ymuno â Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2020
  • Adolygu Rhaglen Cwsmeriaid i sicrhau ei bod yn hollol gynhwysol i staff

Mesur:

Ailadrodd ein hymarfer adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, chwilio am broblemau’n ymwneud â chydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau a gweithredu i fynd i’r afael â’r problemau hyn

Erbyn diwedd: Medi 2019
Cyfrifoldeb: Rheolwr rhaglenni cwsmeriaid
Statws: Parhaus

Rydym yn parhau i gydymffurfio’n llwyr â chynllun gwarantu cyfweliad Hyderus o ran Anabledd

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Arweinydd Tîm Recriwtio
Statws: Cwblhawyd

CNC yn cael achrediad Cyfeillion Dementia

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Arweinydd Cyfeillion Dementia
Statws: Parhaus

Ennill safle gwell ym Mynegai 2020

Erbyn diwedd: Ionawr 2020
Cyfrifoldeb: Arweinydd Rhwydwaith Calon
Statws: Cwblhawyd

Cynnal arolwg Pulse ymhlith staff

Erbyn diwedd: Medi 2019
Cyfrifoldeb: Rheolwr Rhaglenni Cwsmeriaid
Statws: Cwblhawyd

Adrodd ar ganfyddiadau’r arolwg Pulse

Erbyn diwedd: Rhagfyr 2019
Cyfrifoldeb: Rheolwr Rhaglenni Cwsmeriaid
Statws: Cwblhawyd

Ein hymwelwyr, cwsmeriaid a phartneriaid


Nod 4:

Ymgorffori rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ym mhopeth a wnawn, cefnogi sut rydym yn gweithio ac ymgysylltu ag eraill i fynd i’r afael â heriau a manteisio ar gyfleoedd.

Drwy’r gwaith hwn bydd pobl Cymru’n gweld gwelliannau iechyd a llesiant drwy gydweithio yn y sector cyhoeddus.

Gweithredu:

  • Adolygu mecanweithiau rhaglenni cwsmeriaid ar gyfer casglu sylwadau cwsmeriaid
  • Gweithredu’r camau asesu cydraddoldeb o’n cyfleusterau hamdden allweddol
  • Darparu gwybodaeth i’r cyhoedd drwy amryw o fformatau

Mesur:

Mae gan yr 14 prosiect Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar waith

Erbyn diwedd: Ebrill 2019
Cyfrifoldeb: Rheolwr Rhaglenni Cwsmeriaid
Statws: Parhaus

Datblygu ac adrodd ar y Fframwaith Cynnwys Cwsmeriaid

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Rheolwr Rhaglenni Cwsmeriaid
Statws: Parhaus

Llunio adroddiad ar y cynnydd a wnaed

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Hamdden a Mynediad
Statws: Aros am ddiweddariad

Adrodd ar weithio gyda grwpiau cynrychioliadol i sicrhau bod gwybodaeth yn ddefnyddiol ac yn ymarferol

Erbyn diwedd: Mawrth 2020
Cyfrifoldeb: Cynghorydd Hamdden a Mynediad
Statws: Aros am ddiweddariad

Diweddarwyd ddiwethaf