Chwythu’r Chwiban

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am achos lle mae sefydliad wedi camymddwyn. Mae hyn fel arfer yn rhywbeth rydych chi wedi'i weld yn y gwaith.

Cwynion sy’n cyfrif fel chwythu’r chwiban

Os ydych yn gweithio i cyflogwr arall y tu allan i CNC, os nad ydych eisiau rhoi gwybod i’ch cyflogwr am eich pryder, gallwch roi gwybod i ni amdano.

Mae’n rhaid i’r weithred o ddatgelu’r camweddau hyn fod er lles y cyhoedd. Golyga hynny fod yn rhaid iddynt effeithio ar eraill, er enghraifft y cyhoedd.

Rydych yn cael eich diogelu gan y gyfraith os ydych yn rhoi gwybod am unrhyw un o’r canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • achos lle mae’r cwmni’n torri’r gyfraith
  • camweinyddu cyfiawnder
  • sefyllfa lle mae iechyd neu ddiogelwch rhywun mewn perygl
  • difrod i’r amgylchedd
  • ymddygiad amhriodol neu anfoesol
  • os credwch fod rhywun yn cuddio camwedd

Gellir cael cyngor cyfrinachol ar chwythu’r chwiban gan Protect

Cwynion nad ydynt yn cyfrif fel chwythu’r chwiban

Nid yw cwynion personol (bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu) yn dod o dan gyfraith chwythu’r chwiban, oni bai fod hynny er budd y cyhoedd.

  • Darllenwch bolisi cwynion eich sefydliad neu cysylltwch â chynrychiolydd Undeb Llafur.
  • Siaradwch â’ch cyflogwr os oes gennych bryderon am eich telerau ac amodau neu ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n effeithio ar eich cyflogaeth.
  • Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i gael cymorth a chyngor ar ddatrys anghydfod yn y gweithle.

Dylech allu dangos fod sail resymol dros eich pryder a dylech gynnwys cymaint o dystiolaeth ategol ag sydd bosibl.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn haws mynegi pryder ar y cyd os oes dau neu fwy ohonoch yn rhannu’r un pryder.

Rhowch wybod i ni am eich pryder

Mae gweithwyr yn cael eu diogelu gan y gyfraith rhag cael eu diswyddo neu eu cosbi gan eu cyflogwyr am ‘chwythu’r chwiban’.

Gellir lleisio pryder am rywbeth a ddigwyddodd:

  • yn y gorffennol
  • am rywbeth sy’n digwydd nawr,
  • rywbeth y credwch y bydd yn digwydd yn y dyfodol agos

Rhowch wybod ar-lein

Rhowch wybod ar y ffôn

Gallwch lleisio eich pryder gyda ni gan ddefnyddio ein llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000. Mae’n bosib gwneud hynny 24 awr y diwrnod.

Ysgrifennwch atom ni

Dylech gyflwyno eich pryder yn ysgrifenedig, gan amlinellu’r canlynol:

  • natur, cefndir a’r hanes y tu ôl i’ch pryder, gan ddarparu unrhyw enwau, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau perthnasol, yr hyn a ddywedwyd, a’r hyn a welsoch
  • y rheswm a/neu sail eich pryder
  • enw unrhyw unigolion yr amheuir eu bod wedi camymddwyn
  • i ba raddau yr ydych chi’n bersonol wedi bod yn dyst neu wedi gweld y broblem
  • unrhyw dystiolaeth ddogfennol sydd ar gael.

Dylech allu dangos fod sail resymol dros eich pryder a dylech gynnwys cymaint o dystiolaeth ategol ag sydd bosibl.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn haws mynegi pryder ar y cyd os oes dau neu fwy ohonoch yn rhannu’r un pryder.

Ysgrifennwch at:

Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd a Pennaeth Archwilio Mewnol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Tŷ Cambria,

29 Heol Casnewydd,

Caerdydd,

CF24 0TP

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i gydnabod eich pryder.

Bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl i drafod eich pryder. Mae’n bosibl i chi gael cynrychiolydd neu gydweithiwr Undeb Llafur yn bresennol mewn unrhyw gyfweliadau.

Allwn ni ddim dweud yn union faint o amser fydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Er hynny bydd y swyddog ymchwilio yn sicrhau fod hyn yn digwydd cyn gynted ag sydd bosibl heb effeithio ar yr ymchwiliad. Byddwch yn cael gwybod am y cynnydd ac yn cael crynodeb ysgrifenedig o’r canlyniad.

Cyfrinachedd

Rydym yn trin pob adroddiad yn gyfrinachol ac yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich hunaniaeth.

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad, neu efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu pwy yw’r datgelwr. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i chi ymlaen llaw ac i’ch diogelu rhag unrhyw erledigaeth neu aflonyddu.

Os byddwch yn rhoi gwybod am eich pryderon yn gyhoeddus cyn eu hadrodd (er enghraifft, i’r cyfryngau neu ar y cyfryngau cymdeithasol), yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn colli eich hawliau chwythu’r chwiban.

Diweddarwyd ddiwethaf