Sicrhau rheoli tir yn gynaliadwy

Sicrhau bod ein tir yn cael ei reoli'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.


Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.


Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Pam y thema hon?


Mae De-orllewin Cymru yn wledig yn bennaf, gyda 56% o'r tir yn cynnwys ‘tir fferm caeedig’ ac 17% pellach yn goetir. Mae'r sectorau sy'n rheoli'r tir hwn – amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd – yn cefnogi bywoliaethau a chymunedau ac, yn bwysig, yn cynnal yr adnoddau naturiol rydym yn dibynnu arnynt yn ogystal. Mae'r modd rydym yn rheoli'r tir hwn yn cael effaith ar ein cefn gwlad lleol a thu hwnt ac mae'r thema hon yn ystyried sut y gallwn wneud yr arferion hyn yn fwy cynaliadwy. Yn Ne-orllewin Cymru, mae arnom angen sector gwledig sy’n ffynnu, gan gefnogi amgylchedd o ansawdd uchel, ond sydd hefyd yn darparu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel ar ein cyfer.

Prif ‘heriau a chyfleoedd cenedlaethol’ y Polisi Adnoddau Naturiol y mae’r thema hon yn mynd i'r afael â nhw:

  • Sut rydym yn cynnal gallu cynhyrchiol ein tir gyda gwella ansawdd y pridd a bioddiogelwch yn flaenoriaeth

  • Gwella ansawdd ein dŵr a’r cyflenwad ohono

  • Cynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas (deunydd planhigion neu anifeiliaid) a sicrhau bod ardaloedd yn cael eu diogelu er mwyn gwneud hynny

  • Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth

  • Lleihau'r perygl o lifogydd

  • Cefnogi cyflogaeth sicr a sefydlog

Amrywiaeth mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu cynaliadwy

Mae coedwigaeth ac amaethyddiaeth yn ein darparu â nifer o fuddion, gan gynnwys y bwyd rydym yn ei fwyta, a phan maent yn cael eu rheoli’n dda, maent yn sicrhau'r buddion hyn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. 

Gallai'r modd y mae ffermwyr yn rheoli'r tir fod o fudd enfawr i fioamrywiaeth. Gallant greu cynefinoedd newydd ar gyfer rhywogaethau, ond gall rhai gweithgareddau ffermio sy’n arbennig o ddwys fod yn niweidiol i fioamrywiaeth yn ogystal. Mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth wella a chynnal bioamrywiaeth yn ogystal â chyflenwi'r bwyd rydym yn ei fwyta. Ceir tystiolaeth dda fod camau cadwraeth wedi helpu i fynd i'r afael â gostyngiadau mewn poblogaethau o adar ar diroedd ffermio, ac mae nifer o gynlluniau amaethyddiaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd wedi bod o fudd i fywyd gwyllt.

Dwy fuwch mewn cae, Castell-nedd Port Talbot.Llun gan Daron Herbert

Gwrychoedd ac ymylon

Yn Ne-orllewin Cymru, mae gennym ardaloedd mawr o dir amaethyddol sy'n cynnwys gwrychoedd ac ymylon caeau ac sydd wedi'u lleoli'n agos at ymylon afonydd, nentydd, llynnoedd a gwlyptiroedd (rydym yn galw'r rhain yn barthau torlannol). Mae'r ardaloedd hyn yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth yn ogystal â bod o bwys diwylliannol, e.e. gwrychoedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr. Os byddwn yn ystyried Cymru yn ei chyfanrwydd, amcangyfrifir bod gennym 106,000 o gilometrau o wrychoedd, ond mae 78% o'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr anffafriol. Rydym wedi cyflawni rhywfaint o gynnydd, gyda 5,800 o gilometrau wedi'u hadfer yn barod fel rhan o gynlluniau rheoli tir yn gynaliadwy. Ond mae rheolaeth amhriodol, difrodi a chynnydd mewn clefydau fel clefyd coed ynn yn parhau i fygwth gwrychoedd a'r buddion maent yn eu darparu.

Mae gennym nifer o ardaloedd o dir yn Ne-orllewin Cymru a ddisgrifir fel parthau torlannol. Mae'r ardaloedd hyn yn hidlo llygryddion fel maethynnau a gwaddod, ac mae llystyfiant ar ochr y glannau yn helpu i leihau erydu. Mae llystyfiant ar ochr y glannau hefyd yn darparu cysgod, sy'n helpu i leihau tymheredd y dŵr. Trwy ddod â natur yn ôl i'n nentydd ac afonydd trefol a diogelu nentydd gwledig rhag sathru gan dda byw, gallwn helpu i wella ansawdd y dŵr a chynyddu bioamrywiaeth.

Rheoli ucheldiroedd a thiroedd comin

Diffinnir tir comin yn gyffredinol fel tir lle mae gan ‘barti arall’ hawliau penodol, fel pori gwartheg. Mae'r rhan fwyaf o diroedd comin yn seiliedig ar hawliau hynafol sy'n dyddio nôl i amser cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei sefydlu ac yn seiliedig ar draddodiadau hirhoedlog. Mae dros 65% o dir comin Cymru yn cael ei ‘reoli'n weithredol’ ar hyn o bryd. Ar wahân i chwarae rôl hanfodol mewn amaethyddiaeth, gwerthfawrogir tir comin am ei gyfraniad i'n treftadaeth naturiol a diwylliannol. Mae tir comin dynodedig yn cwmpasu ardal sylweddol o dir yn Ne-orllewin Cymru. Mae 32.5% o dir yn Ninas a Sir Abertawe yn dir comin ac mae rhannau o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cynnwys tiroedd comin lluosog sy'n llai nag un hectar o faint. Mae'n bwysig nodi, lle bo tiroedd comin yn cael eu rheoli'n briodol gan gymdeithasau pori, ein bod yn dysgu o'r ardaloedd hyn ac yn cefnogi defnyddwyr eraill drwy rannu’r arfer da hwn.

Golygfa o ucheldir â choeden yn y blaendir.

Llygru'r amgylchedd

Mae ansawdd ein dŵr yn hanfodol bwysig i fioamrywiaeth ac economi'r ardal hon ac yn fwyfwy mae llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol wedi dod yn fater proffil uchel. Cydnabyddwyd y gallai Cymru wneud mwy i reoli llygredd amaethyddol er mwyn ei gadw i ffwrdd o gyrsiau dŵr ac, yn y pen draw, y môr.

Mae'r digwyddiadau llygredd dŵr mwyaf cyffredin yn cael eu hachosi gan y diwydiant llaeth. Mae hwn yn faes lle ceir twf ac mae ffermwyr yn dwysáu eu cynhyrchu ac yn cynyddu meintiau eu buchesi er mwyn parhau i fod yn hyfyw. Nid yw twf yn y sector wedi arwain at fuddsoddiad cyfwerth yn y seilwaith rheoli dŵr a gwrtaith. O ganlyniad, rydym wedi gweld nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â slyri. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, fod y digwyddiadau hyn yn ymwneud â rhan gymharol fach o'r sector a bod y mwyafrif yn gweithredu mewn modd cyfrifol.

Mae amonia, cynnyrch mewn gwrtaith anifeiliaid, yn parhau i fod yn broblem gan ei fod yn amharu ar gydbwysedd naturiol ein tir (trwy lygredd aer) a chyrsiau dŵr. Mae rheoli gwrtaith yn cyfrannu cyfran sylweddol o'r amonia a ryddhawyd i'r aer gan amaethyddiaeth (75% yn 2017 o wrtaith gwartheg, ychwanegu gwrtaith i'r pridd a ffynonellau ‘eraill’). Ffermio gwartheg (llaeth a di-laeth) yw'r cyfrannwr amaethyddol mwyaf.

Rheoli ystad y sector cyhoeddus

Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy gyflawni eu swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a'n partneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Felly, mae hyn yn cynnig cyfle sylweddol i'r sector cyhoeddus allu chwarae rôl bwysig i gefnogi natur trwy reoli ei ystad ei hun. Ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hyn yn golygu rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (sy'n cwmpasu 5.4% o'r tir yn Ne-orllewin Cymru) yn gynaliadwy ac fel patrwm enghreifftiol o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy – rydym yn cydnabod bod gennym waith i'w wneud yma ac rydym yn ymrwymedig i wneud hynny.

‘Brigdwf coed yn Ne-orllewin Cymru (Coed Nicholaston).

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn oedd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf.

Cyn hyn, rydym wedi disgrifio prif nodweddion a heriau rheoli tir gwledig. Yn yr adran hon, rydym wedi nodi ‘sut olwg sydd ar lwyddiant’ fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu; cynhyrchodd y sesiynau hyn lawer o syniadau a gwybodaeth ac mae'r canlynol yn cynrychioli crynodeb yn unig o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau (lle cafwyd cytundeb cyffredinol ymysg nifer o randdeiliaid). Os ydych yn teimlo ein bod wedi colli rhywbeth, peidiwch â phoeni, rydym am barhau â'r trafodaethau rydym wedi'u dechrau. Gweler yr adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.

Dywedoch wrthym fod angen i ni sicrhau bod rheolwyr tir yn cael eu darparu â'r cymorth cywir i greu economi wledig hyfyw a llewyrchus. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllun taliad rheoli tir yn gynaliadwy hyblyg sydd wedi'i gynllunio'n dda ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gwirioneddol, gyda chefnogaeth cymorth wyneb yn wyneb a gwasanaethau cynghori priodol

  • Adeiladu lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng y diwydiant a'r llywodraeth / y rheoleiddiwr er mwyn cyflenwi rhaglen gyfathrebu effeithiol – er enghraifft, trwy fforymau amrywiol fel Rhwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy Sir Benfro

  • Mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer rhaglen olyniaeth fferm er mwyn helpu i gyflenwi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, trwy hyfforddiant o safon uchel a phrentisiaethau

Dywedoch wrthym y dylai fod gan bobl gysylltiad gwell â'u tirwedd a dylent fod yn ymwybodol o ble mae ein bwyd yn dod a sut y mae'n cael ei gynhyrchu. Er enghraifft:

  • Gall cyfranogiad uwch gan y gymuned ym maes rheoli tir ddarparu nifer o fuddion a helpu'r sector i arallgyfeirio – er enghraifft, Coed Tŷ Llwyd. Gall amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned wella ein llesiant a chysylltu pobl yn uniongyrchol â bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol. Mae ardaloedd â photensial uchel yn Ne-orllewin Cymru yn cynnwys Abertawe, Hwlffordd, Caerfyrddin, Llandeilo, Solfach a Thyddewi.

  • Gwell ymwybyddiaeth gan ddefnyddwyr o ble mae bwyd yn dod. Hoffem weld mwy o waith yn cael ei wneud ochr yn ochr â chynhyrchwyr i greu a hyrwyddo brandiau lleol (fel Puffin Produce). Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn gyda'r cyhoedd a gall ddarparu buddion economaidd

  • Cydnabod gwir werth y pren yn yn coedwigoedd drwy ei gysylltu â buddion llesiant.  Heb anghofio'r ecosystemau gwerthfawr y mae coedwigoedd yn eu darparu, yn ogystal â meithrin marchnadoedd newydd ar gyfer defnyddio'r pren ar ôl ei dorri. Datblygu siopau a marchnadoedd gwerthu pren newydd yn lleol i helpu i symud tuag at economi fwy cylchol

  • Dylai gwaith i ddatblygu unrhyw gynllun rheoli tir yn gynaliadwy gefnogi gwaith rheoli, adfer a chreu coetir wrth ddod â choetiroedd presennol o dan reolaeth well

Dywedoch wrthym fod angen rhannu arferion gorau rheoli tir yn gynaliadwy ar draws ein hardal. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mae sicrhau bod bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau (y gallu i ymdopi â phwysau) yn cael eu hymgorffori fel rhan o'r broses cynhyrchu bwyd a ffeibr yn hanfodol. Neges allweddol yw bod rheolwyr tir yn y man gorau i benderfynu ar sut y gellir cyflawni hyn

  • Amrywio dulliau cynhyrchu bwyd a phren fel amaethyddiaeth adfywiol (sut rydym yn trin y pridd), mathau o laswelltiroedd i bori arnynt, a garddwriaeth o bob math wrth gynnal ffermydd teulu

  • Cymell coetiroedd a choed ar ffermydd yn y man priodol wrth werthfawrogi amrywiaeth o gynefinoedd. Cadw a gwella’r amrywiaeth o goetiroedd trwy anelu at gael strwythur oedran cymysg, amrywiaeth o rywogaethau, cadw prennau marw ac amrywiaeth o gynefinoedd

  • Mae lleiafswm o reolwyr tir yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ddigwyddiadau llygredd. Mae angen i ni weithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod llygryddion yn cael eu rheoli'n effeithiol.

  • Ymgysylltu â sectorau ymchwil a busnes ynghylch datblygu a gweithredu datrysiadau technolegol newydd, er enghraifft datblygu marchnadoedd terfynol ar gyfer gwastraff amaethyddol

Dywedoch wrthym y dylem roi fwy o sylw i wrychoedd a'n hymylon

  • Er mwyn cynyddu amrywiaeth, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn rheoli gwrychoedd, er enghraifft trwy osgoi tocio blynyddol

  • Os byddwn yn annog a diogelu technegau gosod gwrychoedd traddodiadol, gallwn helpu i gysylltu pobl â nodwedd werthfawr hon y dirwedd

  • Trwy gynyddu maint y llystyfiant rhwng cyrsiau dŵr a chaeau (sydd wedi'u targedu ar gyfer lleihau gwaddod), gallwn mwyafu'r buddion

  • Gweithio gyda ffermwyr, rheolwyr tir ar raglenni rheoli hyblyg, gan ddysgu a chymhwyso o fentrau yn y gorffennol, fel cynllun Coed Cymru ym Mhontbren

Dywedoch wrthym y dylai'n hucheldiroedd a'n tiroedd comin gael eu rheoli'n weithredol

  • Mae tiroedd comin ledled Cymru ac o fewn De-orllewin Cymru yn amrywiol, ond maent yn gweld eisiau rheolaeth weithredol mewn rhai ardaloedd. Mae gorbori a thanbori yn faterion allweddol

  • Mae angen i asiantaethau'r llywodraeth weithio gyda ‘chymdeithasau tir comin’ a sefydliadau pori i hyrwyddo a chymell pori gweithredol ar gyfer bioamrywiaeth, storio carbon, rheoli tannau gwyllt a chynnal gwerth hanesyddol

  • Ceir diffyg hyblygrwydd deddfwriaethol (e.e. ffensys neu diroedd comin heb unrhyw hawliau cysylltiedig) y dylid mynd i'r afael ag ef trwy ddefnyddio atebion arloesol (fel ‘ffensys heb ffens’) a'n pwerau arbrofol

Beicwyr mynydd yn llywio eu ffordd trwy'r niwl.

Dywedoch wrthym y dylai'r sector cyhoeddus arwain drwy esiampl wrth reoli ei ystad ar gyfer bioamrywiaeth

  • Dylai hyn gynnwys cymunedau lleol yn y broses o wneud penderfyniadau a chyflawni. Gall rhywogaethau ‘blaenllaw’ fod yn achos lle y gellir ennyn mwy o gefnogaeth o amgylch bioamrywiaeth ehangach a dylem ystyried, lle bo'n briodol, ailgyflwyno targedig – fel prosiect Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru

  • Dylai cyrff y sector cyhoeddus weithio gyda'i gilydd, rhannu ‘arferion gorau’ ac annog pobl i gymryd mwy o ran mewn prosiectau

Astudiaethau achos: Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gall cymunedau gysylltu â'u bwyd neu ynghylch sut y mae coetir Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli er mwyn cael buddion lluosog.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod oedd gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl randdeiliaid yn Ne-orllewin Cymru. Ein nod oedd eich cynnwys chi i helpu nodi'r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd.

Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.

Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio targedig ag arbenigwyr dethol i weithdai amlsector mwy. Mynychwyd yr olaf yn dda ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys. Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy.

Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn fewnol sy’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu yn cysylltu lle bo hynny'n briodol. Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn Ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.

Beth yw'r camau nesaf?


Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau o ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o gynnwys gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).

Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.

Ceir meysydd amlwg y dywedoch wrthym eu bod yn bwysig er mwyn gwella arferion rheoli tir wrth fynd i'r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd a byd natur. Mae'r rhain yn cynnwys taliadau ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy, cysylltu cymunedau â'u bwyd a phren, rheoli tir comin, a defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd.

Y camau nesaf:

Rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

  • Byddwn yn gweithredu fel patrwm enghreifftiol wrth Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac yn ceisio tynnu'r buddion mwyaf ar gyfer pobl a bywyd gwyllt oddi wrth Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Byddwn yn parhau i gydweithio gyda'n partneriaid er mwyn rheoli a gwella Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â Strategaeth Coetiroedd i Gymru a thrwy ein hachrediad o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (gan gynnwys creu coetiroedd newydd). Bydd hyn yn helpu i gynnal sector coedwigaeth sy'n ffynnu a darparu buddion cymdeithasol a chymunedol, yn ogystal â chefnogi rhywogaethau a chynefinoedd iach ac amrywiol

  • Byddwn yn archwilio cyfleoedd i adeiladu ar ein gwaith i reoli ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol i adeiladu gwydnwch ecosystemau ac adfer eu nodweddion fel eu bod mewn cyflwr da, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau cyllid

Cefnogi datblygiad unrhyw gynllun rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru yn y dyfodol

  • Ar lefel genedlaethol, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ffermwyr a rheolwyr tir i ddylunio unrhyw gynlluniau taliadau rheoli tir yn gynaliadwy

  • Hyrwyddo taliadau hyblyg ar gyfer canlyniadau sy'n ystyried amgylchiadau lleol. Mae angen rhoi ystyriaeth ddigonol i amgylchiadau unigryw ardaloedd fel tiroedd comin yn ogystal â'r buddion y gellir eu cael o wrychoedd ac ymylon mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol

  • Gweithio gyda chynhyrchwyr a chymunedau i hyrwyddo cadwyni bwyd lleol. Creu modelau cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd yn lleol (fel cwmnïau cydweithredol cynhyrchwyr a chynlluniau amaethyddiaeth cymunedol)

Cefnogi rheolaeth gynaliadwy o'n tiroedd comin

  • Byddwn yn gweithio gyda chymdeithasau tir comin, sefydliadau pori ac arbenigwyr ar fioamrywiaeth ar ddulliau arloesol (e.e. Partneriaeth Meithrin Mynydd) a mynd ar drywydd y defnydd o bwerau arbrofol o amgylch nifer o flociau o dir comin. Mae ardaloedd a grybwyllir yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) tiroedd comin Gŵyr, Mynydd y Gwair, Cefn Gwrhyd a thiroedd comin llai Sir Benfro

  • Byddwn yn penderfynu ar yr hyn sy'n lefel gynaliadwy o bori tiroedd comin sy'n wynebu'r ‘perygl mwyaf’

Hyrwyddo dull sy'n gweithredu ledled y dalgylch ar gyfer rheoli dŵr

  • Byddwn yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd er mwyn helpu i gyflenwi buddion lluosog, gan weithio gyda rheolwyr tir, busnesau, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, y sector cyhoeddus a chymunedau

  • Byddwn yn canolbwyntio ar ddalgylchoedd â chyfleoedd (afonydd Cleddau / Bae Abertawe ac afon Teifi), gan weithio gyda phrosesau naturiol (e.e. rheoli llifogydd yn naturiol ac adfer afonydd), yn ogystal â mynd i'r afael â rhwystrau er mwyn gwella symudiad pysgod

  • Yn ogystal, byddwn yn cynnal ymyriadau sy'n lleihau llygredd yn y tarddle a llygredd slyri, fel Taclo'r Tywi, y prosiect llaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Adeiladu Gwydnwch mewn Dalgylchoedd, ffermio Baner Las ac ymweld â ffermydd risg uchel

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?  


Mae angen i ni sicrhau bod ein harferion rheoli tir yn gweithio gyda natur i gyflawni buddion lluosog. Mae angen i ffermwyr, reolwyr tir a chymunedau gael eu cefnogi a'u galluogi'n briodol er mwyn cyflenwi'r buddion hyn fel ceidwaid ein tir.

I gyflenwi unrhyw gamau gweithredu, byddwn yn defnyddio dull integredig a chydweithredol, gan adlewyrchu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac ymgorffori'r pum ‘ffordd o weithio’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Ein gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru:

  • Mae ffermwyr a rheolwyr tir wedi'u galluogi'n llawn i ymgorffori arferion amgylcheddol sensitif fel rhan o fusnesau cynaliadwy hirdymor y gellir eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol

  • Mae cymunedau wedi'u cysylltu’n well â'r tir ac maent yn gwerthfawrogi pren a  chynhyrchion lleol yn briodol

  • Mae adnoddau naturiol glân ac iach yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol gan bawb yn eu rhinwedd eu hunain, yn ogystal ag am y buddion maent yn eu darparu

  • Mae gennym gymuned sy'n ffynnu sydd wedi'i galluogi i reoli ein hucheldiroedd bioamrywiol

  • Mae'r sector cyhoeddus yn arwain trwy esiampl wrth reoli tir, gyda bioamrywiaeth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau

Sut all pobl gymryd rhan?


Y thema hon yw dechrau'r daith yn unig wrth inni weithio gyda phobl i wella rheolaeth o adnoddau naturiol De-orllewin Cymru. Os hoffech fod yn rhan o'r broses, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Hoffech chi gael ateb?