Llun gan Fen Turner

Pam y thema hon?


Mae ecosystemau yn dod yn llai gwydn ac yn methu addasu cystal i heriau fel y newid yn yr hinsawdd. Golyga hyn nad ydynt mor dda am ddarparu'r buddion sy'n cyfrannu at gynnal iechyd a llesiant. Rhaid rheoli'r amgylchedd naturiol yn gynaliadwy a'i gydnabod am y buddion y mae’n eu darparu yn wyneb trefoli cynyddol, pwysau datblygu, adnoddau cyhoeddus cyfyngedig, a demograffeg sy’n newid.

Mae rhwydwaith thematig Cysylltu ein Tirweddau wedi archwilio dau linyn gwaith sylweddol a rhyng-gysylltiedig, sef gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy ddatblygu rhwydweithiau ecolegol ac ystyried sut a ble gall ein hasedau naturiol gael eu defnyddio i gyflenwi atebion ataliol, cost-effeithiol a hirdymor sy'n seiliedig ar natur i rai o'n hanghenion mwyaf cymhleth o ran llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Trwy weithio mewn ffordd integredig i ddeall y ddau faes gwaith sylweddol hyn yn well a thrwy ymgysylltiad ystyrlon rhanddeiliaid ehangach, mae rhwydwaith thematig Cysylltu ein Tirweddau wedi nodi risgiau allweddol i wydnwch ecosystemau. Mae gwydnwch ecosystemau yn berthnasol i amrywiaeth, cyflwr, maint a chysylltedd, sydd oll yn cyfuno ac yn cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol at iechyd a gallu i addasu cyffredinol unrhyw ecosystem benodol (ei gwydnwch).  Nodwyd mai’r risgiau allweddol i iechyd ein hecosystemau yw’r newid yn yr hinsawdd, colli a diraddio cynefinoedd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, gorddefnydd, a defnydd anghynaladwy.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

 

Sut mae llwyddiant yn edrych Y weledigaeth ar gyfer De-ddwyrain Cymru:

Nid yw adnoddau naturiol yn lleihau'n barhaus ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gallant gael eu hailgyflenwi

Mae ein dŵr yn lân, ein priddoedd yn iach, ein haer yn ffres, a'n tirweddau yn fyw. Caiff natur ei gwerthfawrogi ac mae gwelliannau i fioamrywiaeth wedi eu hymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae cynefinoedd a'n rhywogaethau yn ffynnu, mae bioamrywiaeth wedi ei mwyafu, ac mae bywyd gwyllt un doreithiog

Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws pedwar priodoledd gwydnwch ecosystemau yn cael eu peryglu, a lle bo angen, maent yn cael eu gwella

Mae ein hecosystemau yn wydn i newid a bygythiad. Mae partneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael â phum sbardun colli bioamrywiaeth ar y raddfa ranbarthol (colli a diraddio cynefinoedd, y newid yn yr hinsawdd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, a gorddefnydd a defnydd anghynaladwy) drwy nodi achosion sylfaenol problemau a defnyddio dulliau cydweithredol ac ataliol o leihau eu heffaith ar rywogaethau, cynefinoedd a phobl. Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn lleihau'r pwysau sydd ar ein hasedau a'n gwasanaethau mewn modd effeithiol ac effeithlon (e.e. seilwaith fel y rhwydwaith carthffosiaeth, asedau perygl llifogydd a gwasanaethau brys)

Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn canolbwyntio ar fwyhau llesiant

Mae'r amgylchedd naturiol yn cynnig cyflogaeth sy'n cynnal cymunedau ar draws Gwent. Mae cyflogaeth yn y diwydiannau ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a hamdden yn ffynnu ac yn gynaliadwy.

Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau ar hyn o bryd nac yn yr hirdymor

Cymru gydnerth.

Mae bywyd gwyllt, cynefinoedd, tirweddau a morluniau Gwent yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a mwynhad ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yma. Maent yn iach ac yn ffynnu, gan ddarparu buddion naturiol hanfodol i breswylwyr ac ymwelwyr â'r rhanbarth.

Beth yw'r camau nesaf?

Y gardwenynen feinlaisLlun gan Rob Bacon

Gwelliant mewn gwydnwch ein hecosystemau ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Diogelu a gwella'n 'safleoedd gorau' (dynodiadau a nodwyd yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol) a rhwydweithiau cynefin craidd fel y nodwyd gan haenau cynefin ar wefan Lle  

  • Cyfeirio at broffiliau tirwedd wrth gymryd camau i wella gwydnwch ecosystemau ucheldir a rhostir (cyfleoedd gofodol allweddol: Cymoedd y Dwyrain a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

  • Cyfeirio at broffiliau tirwedd wrth gymryd camau i wella gwydnwch ecosystemau coetir y tu allan i safleoedd dynodedig

  • Cyfeirio at broffiliau tirwedd wrth gymryd camau i wella gwydnwch ein ecosystemau glaswelltir lled-naturiol y tu allan i safleoedd dynodedig (cyfleoedd gofodol allweddol: Cymoedd y Dwyrain, Gwastadeddau Gwent, Canol Sir Fynwy a Dyffryn Gwy)

  • Cyfeirio at broffiliau tirwedd wrth gymryd camau i wella gwydnwch cynefinoedd arfordirol a morol (cyfleoedd gofodol allweddol: Gwastadeddau Gwent)

  • Gwella hydreiddedd yr amgylchedd trefol drwy ddyraniad effeithiol o seilwaith gwyrdd, gan gynnwys y defnydd o Systemau Draenio Cynaliadwy Trefol a phlannu coed trefol

  • Nodi a datrys camgysylltiadau yn y tarddiad ar ystadau’r sector cyhoeddus a thrydydd sector ac ystadau o dan berchnogaeth breifat neu sy'n cael eu rheoli’n breifat (gan gynnwys cymdeithasau tai) gyda ffocws ar atal cynefinoedd dŵr croyw rhag cael eu llygru, gan gynnwys nodi cyfleoedd i weithredu Systemau Draenio Cynaliadwy Trefol

  • Cydnabod Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur a chynefinoedd a rhywogaethau a restrwyd yn Adran 7 yn briodol yn y broses gynllunio a rhoi i'r rheini a nodwyd yr amddiffyniad y maent ei angen i osgoi colledion mewn bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau

  • Datblygu ymyriadau cydweithredol ac ataliol effeithiol i leihau effaith ffactorau sy'n bygwth gwydnwch ein cynefinoedd a rhywogaethau allweddol, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, colli a diraddio cynefinoedd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, a gorddefnydd a defnydd anghynaliadwy

  • Gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i nodi lle gellid rheoli tir yn wahanol i wella bioamrywiaeth ac iechyd ein rhwydwaith o gynefinoedd craidd

  • Cymell rheoli tir yn gynaliadwy, gan weithio gyda chysylltiadau cenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod cynlluniau cenedlaethol yn y dyfodol fel Brand Cymru a Pholisi Amaethyddol Cyffredin newydd yn cymell cyfleoedd seiliedig ar le ar gyfer gwella rhwydweithiau ecolegol a chyflenwi atebion sy'n seiliedig ar natur

  • Archwilio'r gwaith o weithredu cynlluniau 'torri a chasglu' yn rhanbarthol er mwyn manteisio ar ddarbodion maint drwy gyfuno offer ac adnoddau casglu a gwaredu

  • Treialu dull o fapio'r gadwyn gyflenwi yng Nghanol Sir Fynwy o'r maes i'r plât, gan weithio gyda chynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd a grwpiau o ddefnyddwyr. Nodi ymyriadau a allai gymell cadwynau cyflenwi lleol a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy

  • Lleihau pwysau ar ucheldiroedd gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnydd anghyfreithiol oddi ar y ffyrdd, gan weithio gyda chymunedau a sefydliadau partner

  • Defnyddio technoleg newydd i ddiweddaru arolygon Cam 1 o gynefinoedd o ran "cyflwr" y cynefin

Dealltwriaeth well o'r angen i ddiogelu a gwella rhwydweithiau o gynefinoedd craidd a chefnogi cysylltedd ecolegol ar a rhwng ein 'safleoedd gorau' ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau lle bo hynny'n briodol) i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o sut a ble y gallwn wella iechyd ein hasedau naturiol i fwyafu'r buddion llesiant maent yn eu cyflenwi

  • Archwilio dulliau o gynnwys cymunedau a/neu sectorau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan newidiadau yn y rhanbarth yn y dyfodol wrth ddatblygu eu gweledigaeth eu hun er mwyn gwella iechyd ein hasedau naturiol i fwyafu’r buddion llesiant maent yn eu cyflenwi

  • Galluogi cyfleoedd ar gyfer dinasyddion i herio a chraffu cynnydd o ran camau gweithredu

  • Darparu'r lefel o ymrwymiad, uchelgais ac arweinyddiaeth sydd ei hangen i sbarduno camau gweithredu o ran sut a ble y gallwn wella iechyd ein hasedau naturiol i fwyafu’r buddion llesiant maent yn eu cyflenwi

  • Cydweithio i nodi cynlluniau, strategaethau a dulliau o gyflenwi gwasanaethau sydd angen eu newid er mwyn sbarduno ac ymgorffori'r gwaith o ddiogelu a gwella rhwydweithiau o gynefinoedd craidd

  • Cydweithio i ddatblygu, poblogi a defnyddio setiau data cyffredin a fydd yn galluogi sefydliadau i ddefnyddio tystiolaeth sy'n berthnasol i wydnwch ein hecosystemau fel gwaelodlin

  • Cydweithio i ddatblygu fframweithiau monitro a gwerthuso cyson sy'n mesur y newidiadau i bolisi ac ymarfer sy'n ymwneud â sut a ble y gallwn wella iechyd ein hasedau naturiol i fwyafu’r buddion llesiant maent yn eu cyflenwi

  • Datblygu methodoleg gyffredin i nodi cyfleoedd ac asesu lle gall y gwaith o reoli ystâd y sector cyhoeddus wella iechyd ein hecosystemau a'r rhwydweithiau o gynefinoedd craidd sy'n eu cynnal

  • Datblygu methodoleg gyffredin i nodi sut gall gwell arferion caffael ar y cyd yn y sector cyhoeddus wella iechyd ein rhwydweithiau ecolegol a'r buddion llesiant maent yn eu cyflenwi. Mae hyn yn cynnwys cymell rheoli tir yn gynaliadwy, gan ddysgu o gerdyn sgorio cytbwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus

  • Datblygu methodoleg ar gyfer yr holl gynlluniau rheoli sy'n benodol i safle er mwyn ystyried beth fydd effeithiau hirdymor y newid yn yr hinsawdd (fel y nodwyd gan fodelu rhagdybio'r hinsawdd yn dilyn senario allyriadau uchel) ar y cynefinoedd maent yn eu rheoli ac addasu cynlluniau yn unol â hynny

  • Datblygu iaith gyffredin i wella dealltwriaeth a rennir o seilwaith gwyrdd

Cynyddu gallu sefydliadau ac unigolion, gan sicrhau bod ganddynt yr offer, sgiliau a chanllawiau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu a gwella ein rhwydweithiau o gynefinoedd craidd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Cydweithio i ddatblygu pecyn cymorth a chrynhoi arferion gorau, cyngor a chanllawiau sy'n nodi technegau rheoli tir a fydd yn gwella gwydnwch ecosystemau ein cynefinoedd eang allweddol a’u rhannu ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat, fel y bo'n briodol

  • Datblygu a chyflenwi hyfforddiant sgiliau ar gyfer bioamrywiaeth a rheoli tir yn gynaliadwy ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat lle bo hynny'n briodol

  • Cydweithio i nodi llifoedd ariannu a all alluogi gwaith seiliedig ar le i gyflenwi allbynnau sy'n gwella iechyd ein hardaloedd naturiol a'r buddion maent yn eu cyflenwi

  • Cydweithio i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent. Bydd y cynllun hwn yn nodi ymyriadau ar y cyd a fydd yn mynd i'r afael â sbardunau colli bioamrywiaeth ar draws y rhanbarth ac yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

    • Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu’n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau llywodraethu ac atebolrwydd cryf yn eu lle

    • Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus

    • Nodi ble a sut gall cydweithredu rhanbarthol wella gwydnwch ecosystemau

    • Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar gyfer gwydnwch ecosystemau

    • Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy, lle bo angen hynny

    • Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus

    • Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy

  • Gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb mewn rheoli tir er budd natur a phrofiad yn y maes hwn i ddatblygu cynllun lle bo ganddynt adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli tir sy'n deillio o gymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau o gynefinoedd craidd a chyflenwi buddion lluosog, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar y raddfa leol gyda chynghorau cymuned a thref

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Ar gyfer y thema Cysylltu ein Tirweddau, gwnaethom ddechrau ystyried Gwent fel casgliad o dirweddau daearyddol nodweddiadol a rhyngysylltiol. Datblygwyd yr ymagwedd hon ar y cyd a rhanddeiliaid allweddol sydd â phrofiad sylweddol o edrych ar y rhanbarth yn y ffordd hon.

Ffurfiwyd paneli tirwedd gan arbenigwyr gofodol a thechnegol ym mhob ardal dirwedd a weithiodd ar y cyd i ystyried wyth ecosystem (cynefinoedd eang y DU), fel a ddiffiniwyd gan yr Asesiad Ecosystem Cenedlaethol a chaiff ei ddefnyddio yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Gwnaeth yr ymagwedd hon roi'r fframwaith i ni ar gyfer ystyried yr holl wybodaeth am adnoddau naturiol ar gyfer ecosystem neu gynefin eang ar y cyfan. 

Gwnaeth yr ymagwedd panel tirwedd ddefnyddio arbenigedd technegol a gofodol partneriaethau presennol yn y De-ddwyrain, gan gynnwys; Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Partneriaeth Gwent Fwyaf Gwydn (drwy'r Cynllun Gweithredu'r Sefyllfa Byd Natur ac Adfer Natur dros Gwent), y Bartneriaeth Lefelau Byw, Partneriaeth Uwchdiroedd Gwydn De-ddwyrain Cymru a Phartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. 

Gwnaeth pob un o'r paneli weithio gyda'i gilydd i lunio set o broffiliau tirwedd, yr oedd eu diben i ystyried gwydnwch y cynefinoedd eang yn y De-ddwyrain a sut maent yn rhyngweithio ar raddfa dirwedd. Mae proffiliau o'r dirwedd yn "disgrifio'r adnoddau naturiol yn yr ardal" a dylid cyfeirio atynt a'u darllen ar y cyd a'r Datganiad Ardal hwn.

Roedd y proffiliau o'r dirwedd yn werthfawr wrth ffurfio'r sail am fwy o drafodaethau dan y thema Cysylltu ein Tirweddau, Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd ac Iach, Actif, Cysylltiedig, lle daethpwyd at gonsensws gweithredu ar y cyd.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd y canlyniadau dan bob un o'r pedair thema strategol yn cyflawni gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer y De-ddwyrain.  Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer y De-ddwyrain, mae pob rhan o'r un ymagwedd drosfwaol at gyflawni Rheoli Adnoddau Naturiol yn  Gynaliadwy ar waith.

Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd mwy cydweithredol, integredig a chynhwysol o weithio; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym wedi'i wneud yn ardal Gwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol; yn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.

Yn y De-ddwyrain, aethom ati i lunio Datganiad Ardal sy'n llywio cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o weithio gyda'i gilydd wrth wneud hynny. Mae'r broses Datganiad Ardal yn addasol a bydd yn helpu i archwilio a llunio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.

Bydd rhwydweithiau a thema'n parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd yn wahanol i feithrin gwydnwch ecosystem.  Bydd pob rhwydwaith yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros dymor hwy.

Sut all pobl gymryd rhan?


Cysylltwch gyda ni os hoffech gymryd rhan mewn cyflwyno'r camau gweithredu a restrwyd yma, os hoffech gyfrannu at ddatblygu rhwydwaith a thema, neu rannu eich delweddau a'ch straeon eich hunain o sut rydych wedi gallu creu lleoedd gwell ar gyfer natur.

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – De Ddwyrain Cymru (PDF)

  • Ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – Gogledd Cymru (PDF)

Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru:

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol

Rowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion
Diweddarwyd ddiwethaf