Yr Argyfwng yn yr hinsawdd a'r amgylchedd – ymaddasu a lliniaru

Oherwydd ei ehangder a'i ddylanwad, gwnaeth rhanddeiliaid nodi’r argyfwng yn yr hinsawdd a'r amgylchedd fel y thema bwysicaf a mwyaf trosfwaol ar gyfer Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin

Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.


Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.


Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Yr Argyfwng yn yr hinsawdd a'r amgylchedd


Mae dau linyn allweddol wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd:

  • Lleihau allyriadau a chadw storfeydd carbon (a elwir yn ‘lliniaru’)

  • Ymateb i effeithiau presennol a'r dyfodol newidiadau yn yr hinsawdd nad oes modd eu hosgoi o ganlyniad i allyriadau blaenorol (a elwir yn ‘ymaddasu’)

Dros y ganrif ddiwethaf, mae'r tymheredd wedi codi, mae lefelau'r môr wedi codi, ac mae patrymau tywydd wedi newid yn sylweddol. Gyda disgwyl i'r newidiadau hyn barhau a dwysáu dros y degawdau nesaf, mae'n rhaid i ni gydweithio i fynd i'r afael â'r effeithiau a pharatoi i liniaru ar gyfer yr holl bosibiliadau yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Ni waeth beth a wnawn i reoli adnoddau naturiol Cymru, mae pethau'n mynd i newid ac mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid a pharatoi am y newidiadau a fydd yn effeithio ar eu gwydnwch. 

Yn lleol, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod themâu eraill yn y Datganiad Ardal yn helpu i liniaru yn erbyn effeithiau'r argyfyngau yn yr hinsawdd ac ym myd natur, yn enwedig:

  • Ystyried sut y gall amgylchedd gwydn gefnogi'r cymunedau, y bobl, y rhywogaethau, y cynefinoedd a'r busnesau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf

  • Sut y gallwn ni rymuso a chynyddu’r cydnerthedd hwn

  • Sut y gallwn newid ein hymddygiad i leihau'r defnydd o garbon a gwastraff

Yn rhanbarthol, ac yn genedlaethol, mae angen i ni anwybyddu ffiniau a gweithio ar y cyd i gynllunio ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol a mynd i'r afael â nhw. Rydym eisoes wedi dechrau gyda'n cymdogion Datganiad Ardal yng Ngogledd-ddwyrain Cymru drwy weithio ar y cyd i gefnogi'r gwaith mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru yn ei wneud trwy fabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Drwy feithrin dull ar y cyd, gallwn wella’r rhanbarth, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn hefyd yn golygu sicrhau bod y themâu eraill yn Natganiad Ardal y Gogledd-orllewin hefyd yn cynnwys mesurau i baratoi, gwella seilwaith a meithrin cymunedau addasol a chydnerth sy'n gweithio ac yn byw mewn cytgord â’n hamgylchedd naturiol, gan sicrhau bod ein cymdeithas yn addas i'r dyfodol. 

Bydd ein gwaith ar y cyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, mae llawer o'r difrod eisoes wedi’i wneud. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd fod rhanbarth Gogledd-orllewin Cymru'n cynnwys 45.5 y cant o gyfanswm hyd arfordir Cymru.  Mae cymunedau arfordirol fel y Friog yn ne Gwynedd yn wynebu effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.

Ar ben hynny, mae'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar y rhanbarth drwy sychder difrifol a thanau gwyllt amlach a thrwy roi straen ar ein bywyd gwyllt cynhenid a'n cynefinoedd naturiol. Felly, mae'n bwysig i ni adolygu'r tystiolaeth bresennol ar effaith y newid yn yr hinsawd a rhannu’r cynnydd yn ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa gyda'n cymunedau.

Digwyddiad llifogydd yn nyffryn Conwy

Pam y thema hon?


Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019, yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir fod cefnogaeth ymhlith rhanddeiliaid ar gyfer trin y Newid yn yr Hinsawdd fel y brif thema. Dychwelwyd y themâu a ddatblygwyd i'r rhanddeiliaid ar gyfer eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn y Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal ac o fewn y thema Ffyrdd o Weithio.

Er mwyn llywio'r thema hon, rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a gafodd eu hwyluso yn annibynnol ar draws Gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y dogfennau polisi, gan gynnwys y Polisi Adnoddau Naturiol, sef cyflenwi atebion sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, a defnyddio dull sy'n seiliedig ar le

  • Gwybodaeth gan yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol am ecosystemau a'u cydnerthedd, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, a Chonwy a Sir Ddinbych

Materion allweddol a nodwyd gan randdeiliaid:

Mae'r adrannau materion a chyfleoedd yn adlewyrchu sylwadau a wnaed yn ystod digwyddiadau ymgysylltu. Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru nodi bod rhanddeiliaid wedi cwestiynu a oedd proses Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, a'r holl wasanaethau cyhoeddus, yn cymryd yr argyfyngau hinsawdd ac ym myd natur o ddifrif. Mae'r sylwadau isod yn adlewyrchu'r diddordeb a ddangoswyd yn ystod y gwaith ymgysylltu i drafod a phenderfynu ar gyfleoedd i fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar y rhanbarth.

  • O ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, bydd lefelau môr sy'n codi'n effeithio ar gymunedau agored i niwed ar hyd yr arfordir yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n bwysig sicrhau bod cymunedau'n fwy cydnerth er mwyn gallu addasu i hinsawdd sy’n newid yn barhaus, gan gynnwys ystyried atebion sy'n seiliedig ar natur

  • Mae gan hinsawdd sy'n cynhesu'r potensial i wella amodau tyfu i’n ffermwyr ond gall gael effaith sylweddol ar rywogaethau prin
  • Yn aml, ceir tir amaethyddol cynhyrchiol iawn ar yr arfordir neu ar lannau afonydd, y gellid cael ei golli neu ei effeithio o ganlyniad i lifogydd neu lefel y môr yn codi, yn eu tro o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.
  • Yr effaith ar safleoedd bywyd gwyllt a hamdden fel Niwbwrch, lle mae stormydd diweddar wedi dechrau dinistrio meysydd parcio
  • Nid mater amgylcheddol yn unig yw'r newid yn yr hinsawdd, ond yn fater cymdeithasol a fydd yn effeithio ar bobl a chymunedau
  • Mae disgwyliadau a gofynion pobl ar yr hyn mae angen ei gyflawni'n cynyddu, ond mae adnoddau i'w gyflawni'n dirywio o bosib

  • Efallai y bydd galw am ddŵr o ganlyniad i gyfnodau sych a sychder

  • Bygythiad tanau gwyllt oherwydd cyfnodau sych a sychder

  • Gyda phwysau ar adnoddau dŵr, efallai y bydd rhagor o gystadleuaeth am ddŵr rhwng cartrefi, amaethyddiaeth, diwydiant ac anghenion yr amgylchedd naturiol

  • Effeithiau niweidiol ar goetiroedd oherwydd plâu a chlefydau o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, fel clefyd coed ynn

  • Bydd y cynnydd mewn allyriadau carbon yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd

  • Bydd cynnydd mewn dwysedd glawiad yn cyflwyno heriau i systemau draenio

  • Os na all planhigion a bywyd gwyllt arfordirol symud i'r tir, gallai lefelau môr sy'n codi a'r cynnydd mewn erydu tir arwain at rai rhywogaethau'n diflannu

Cyfleoedd sy'n ymwneud â'r thema hon

Byddwn yn ehangu ar y cyfleoedd hyn, gan gynnwys lleoliadau a manylion, wrth inni ddatblygu grwpiau thema er mwyn cymryd y camau nesaf gyda'n Datganiad Ardal. Dim ond mewn lleoliadau sy'n briodol i'r amgylchedd y bydd yr holl gyfleoedd a nodir isod yn cael eu cefnogi.

·        Datblygu partneriaeth a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio sut y gallwn wneud seilwaith mawr fel ffyrdd a rheilffyrdd, a datblygiadau fel safleoedd carafanau, ger yr arfordir yn fwy gwydn a chynaliadwy.

  • Y defnydd o atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, fel gwella rheolaeth coedwigoedd a mawndiroedd i gynyddu’r maint o garbon a dŵr sy’n cael eu storio

  • Gweithio ar y cyd gyda phartneriaid gan ddefnyddio un neges, e.e. mae Dŵr Cymru'n mynd i mewn i ysgolion i siarad am y defnydd cyfrifol o ddŵr. Byddai modd i ni ymuno â'r sawl sy'n hyrwyddo bioamrywiaeth a'r sawl sydd am leihau'r newid yn yr hinsawdd

  • Defnyddio rheoli perygl llifogydd yn naturiol i leihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol i ardaloedd ar draws y Gogledd-orllewin

  • Bod yn fwy effeithlon o ran ynni trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy lle y bo'n bosib, fel gwynt a llanwol, gan gefnogi grwpiau ynni cymunedol

  • Cynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd, gan annog camau gweithredu unigol

  • Llunio cynllun gweithredu yng Ngogledd Cymru i liniaru'r argyfwng yn yr hinsawdd a gyhoeddwyd

  • Creu seilwaith clyfar ar gyfer cerbydau trydan a hydrogen sy'n trawsnewid i system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, un sy'n hygyrch i bawb ac sy'n cyfrannu at gymunedau cynaliadwy y mae modd byw ynddynt ac a allent gael effaith sylweddol ar iechyd cyhoeddus yn ogystal â'r amgylchedd

  • Annog mwy o bobl i rannu ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i helpu i leihau allyriadau carbon

  • Cefnogi ffermydd a chynhyrchwyr bwyd lleol i leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon, gan roi manteision i'r gweithlu lleol a rheoli tir

  • Datblygu un pwynt gwybodaeth y gall cymunedau gael mynediad iddo, gan greu ffordd syml o gyfathrebu â hwy. Rydym am i'n cymunedau sydd fwyaf agored i niwed deimlo eu bod yn cael eu grymuso a'u bod yn gydnerth wrth weithio i leihau risgiau'r newid yn yr hinsawdd
  • Lleihau gwastraff, annog ailddefnyddio deunyddiau a chefnogi ailgylchu a chompostio ar draws busnesau a chartrefi, a lleihau allyriadau methan o safleoedd tirlenwi o ganlyniad

  • Ceir cyfleoedd i'r sectorau amaethyddiaeth ddod yn fwy cydnerth a chynaliadwy drwy blannu lleiniau gleision â gwreiddiau dwfn, gan greu gwell gallu i wrthsefyll sychder a mannau storio carbon

  • I gefnogi amddiffynfeydd rhag llifogydd, mae cyfle i feithrin dulliau meddalach sy'n annog technegau rheoli llifogydd yn naturiol, gan gynnwys: adfer mawndiroedd diraddedig, plannu coed yn yr ucheldiroedd, ac ailosod gwrychoedd. Nid yn unig y bydd y technegau hyn yn lleihau'r perygl llifogydd, ond byddant yn cefnogi cadwraeth bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd

  • Bydd rheoleiddio'r hinsawdd drwy adfer morffoleg afonydd fwy naturiol yn helpu i wneud cynefinoedd pysgod ac infertebratau’n fwy cydnerth i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd

  • Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gadael lle i fioamrywiaeth ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, oherwydd fod nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau estron goresgynnol yn debygol o gynyddu

  • Mwy o gyfle i blannu coed i leihau allyriadau carbon a chreu mwy o fannau gwyrdd

  • Bod yn fwy effeithlon o ran ynni trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy ac asedau naturiol lle y bo'n bosib, fel gwynt a llanwol, gan gefnogi grwpiau ynni cymunedol

  • Mwy o dryloywder gan fusnesau ar y defnydd o ynni
  • Datblygu partneriaeth a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio sut y gallwn wneud seilwaith mawr fel ffyrdd a rheilffyrdd, a datblygiadau fel safleoedd carafanau, ger yr arfordir yn fwy gwydn a chynaliadwy.

  • Mae angen cyfle ar gymunedau i drafod a lleisio materion yn lleol a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau

  • Archwilio'r potensial i feithrin cydlyniant cymunedol a chamau gweithredu a mentrau polisi ar lawr gwlad, a chynnal rhaglenni hyfforddiant ac addysg i gefnogi cydnerthedd cymunedau i'r newid yn yr hinsawdd

  • Dylem oll arwain y ffordd yng Ngogledd Cymru wrth ddangos sut y gallwn liniaru ac ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd

Conwy, Gogledd Cymru, y DU. 5 Mehefin 2016. Tywydd y DU - Mae tymereddau uchel a gofnodwyd dros Ogledd Cymru wedi arwain at danau grug ar fynydd Alltwen, ger Dwygyfylchi

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

  • Poblogaeth wybodus yng Ngogledd-orllewin Cymru sy'n byw'n gynaliadwy yn yr ardal, sy'n prynu cynnyrch a bwyd lleol, ac sy'n defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. Bydd pawb yn cael eu haddysgu ar y cysylltiad rhwng defnydd a'r newid yn yr hinsawdd

  • Cydweithio gweithredol gyda gwasanaethau cyhoeddus wrth ddatblygu opsiynau a nodir dan Brosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i fodloni ei tharged o allyriadau carbon sero-net erbyn 2050

  • Y rhanbarth i ddod yn fwy cydnerth i'r hinsawdd ac yn adnabyddus am amgylchedd glân a llawn bioamrywiaeth o ansawdd, gan gynnwys y môr a dŵr

  • Gweithio ar y cyd ar draws Gogledd Cymru i rannu agenda drawsbynciol, gan roi pobl Gogledd Cymru wrth wraidd ac ar flaen y gad o ran gwneud penderfyniadau

  • Bod economi gynhwysol a chynaliadwy Cymru yn hyblyg, yn addasadwy ac yn ymatebol i hinsawdd sy’n newid

  • Bod amgylchedd naturiol Cymru yn cael ei werthfawrogi, ei fwynhau, ei ddiogelu a'i wella, a’i fod yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well

  • Bod y newid yn yr hinsawdd yn cael ei ystyried ym mhob cais cynllunio. Er enghraifft, awdurdodau cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac awdurdodau lleol yn defnyddio dulliau wrth ddelio â'r newid yn yr hinsawdd

  • I’r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gydweithio i liniaru'r newid yn yr hinsawdd

  • Bod partneriaid eraill fel Extinction Rebellion yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau er mwyn helpu

Pwy fyddai'n elwa o hyn?

Mae gennym rwymedigaeth i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn etifeddu byd wedi'i lunio gan ein gweithredodd heddiw. 

Mae angen i ni sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan i blant siarad am eu pryderon.  

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd gwahoddiadau at dros 450 o bobl a daeth 100 o bobl i’r tri gweithdy a gynhaliwyd, gan gyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac wedi bod yn rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 i adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid ac wedi gwrando ar eu syniadau a'u hadborth, gan gynnwys: cyfarfodydd â’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, cyfarfodydd ag undebau’r ffermwyr a gweithdai â'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd mwy na 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rown o weithdai ym mis Tachwedd / mis Rhagfyr 2019 a daeth mwy na 100 o bobl i’r rhain

Pwyntiau allweddol o asesu data a thystiolaeth:

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ar lefelau na welwyd eu bath ers o leiaf yr 800,000 o flynyddoedd diwethaf. Gwnaeth y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd rybuddio bod yn rhaid i'r byd gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net yn fyd-eang erbyn 2050 i osgoi canlyniadau cynhesu sy'n uwch nag 1.5 gradd. Bydd cadw o fewn y terfynau hyn – sy'n parhau i fod yn bosibl – yn lleihau peryglon i fioamrywiaeth, ecosystemau, systemau bwyd, dŵr a llesiant dynol. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, newidiodd safbwynt y cyhoedd am y newid yn yr hinsawdd. Mae taer angen nawr i ymateb ar draws llywodraethau a chymdeithasau.

Mae arfordir cyfan Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei asesu gan y Cynllun Rheoli Traethlin.  Mae’r cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu gan grwpiau arfordirol i hwyluso’r gwaith o ddatblygu polisïau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol cynaliadwy dros y 100 mlynedd nesaf, gan leihau'r risgiau i bobl a'r amgylcheddau datblygedig, hanesyddol a naturiol. Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o bolisïau ar gyfer yr arfordir, sef 'Cynnal y Llinell', 'Dim Ymyrraeth Weithredol' neu 'Alinio a Reolir', fesul cyfnod y polisi. Y cyfnodau polisi yw hyd at 2025, 2026 i 2055 a 2056 i 2105.

Beth yw'r camau nesaf?


Ar 14 Mai 2020, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cyfarfod rhanddeiliaid arall i ddod â phawb ynghyd sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yn hyn i adolygu cyfleoedd a chytuno ar y camau nesaf ar y cyd ar gyfer proses Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin.

Byddwn yn sefydlu is-grwpiau thema i ddatblygu gweledigaeth ardal gyfan ar gyfer y thema hon – gyda chylch gorchwyl a chynrychiolaeth eang.    Byddwch yn nodi partneriaid posib ac unigolion/grwpiau â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Parc Cenedlaethol) i lywio gweithgareddau'r is-grwpiau thematig hyn.

Bydd angen i bob is-grŵp thematig adolygu'r wybodaeth a'r data sydd gennym hyd yn hyn, penderfynu ar y bobl y byddwn yn siarad â nhw nesaf, chwilio am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd am gamau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac yn datblygu dros amser.  Bydd yr is-grwpiau’n gyfrifol am benderfynu pryd bydd angen newid cynlluniau a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno (llywodraethu'r Datganiad Ardal).

Bydd yr awgrymiadau sy'n cael eu datblygu fel prosiectau 'deilen lili' wedi'u dylunio i feithrin ymddiriedaeth a chydlyniant rhanddeiliaid drwy weithio ar ymyriadau diffiniedig. Maent yn defnyddio'r profiad hwn i 'neidio' i'r cam nesaf, efallai'n llai sicr, yn y broses Datganiad Ardal sydd wedi'i mapio gan yr is-grwpiau thematig, a 'dysgu drwy wneud' ar hyd y ffordd.  Yn y ffordd hon, efallai y gall materion ynghylch ymgysylltu â rhanddeiliaid a dylunio ar y cyd a chyflawni gael eu deall yn well, ac y bydd pryderon yn derbyn sylw.

O hyn, byddwn yn gallu ennyn diddordeb ac ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn ffordd wedi’i thargedu a chyda ffocws cryfach ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol.  Gallai hyn arwain at amrywiaeth o ddulliau gweithredu, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd gweithio gyda'r gymuned amaethyddol i hyrwyddo ffensys ar hyd coridorau afonydd a phlannu coed er mwyn sefydlogi glannau afonydd yn helpu i leihau erydu glannau a bydd yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd yn naturiol. Yn yr un modd, bydd gweithio gyda'r sector amaethyddol ar arferion ffermio cydnerth, fel lleiniau glaswellt â gwreiddiau dyfnach a datrysiadau eraill sy’n gallu gwrthsefyll sychder, yn helpu'r diwydiant i addasu i amrywiadau tymhorol yr hinsawdd.

Bydd rheoli pwysau ar adnoddau dŵr oherwydd y newid yn yr hinsawdd drwy brosesau naturiol – er enghraifft, cynyddu gorchudd coed a ffensio glannau afonydd – yn arwain at gysylltedd gwell i rywogaethau, gan gefnogi cydnerthedd cynefinoedd a bywyd gwyllt. Gall defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, fel gwella gorchudd coetir ac adfer mawndiroedd (rhwystro ffosydd i ail-ddyfrhau cynefinoedd mawndir cors), arwain at fwy o storfeydd carbon a dŵr, gan gyfrannu at reoli perygl llifogydd yn naturiol drwy reoleiddio llif dŵr.

Fel y cyfryw, bydd annog cadwyni cyflenwi lleol o gynhyrchu bwyd ar dir ffermio i'r plât yn cyfrannu at leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon o'r herwydd. Hefyd, bydd rhwydweithiau a seilwaith trafnidiaeth wyrddach yn helpu i leihau llygredd, gan gynnwys llygredd sŵn, ac yn helpu i gyfrannu'n gadarnhaol at ansawdd aer gwell.

Mae cynnig y cyfle i weithio gyda'n gilydd i ystyried y defnydd mwy o asedau naturiol yn gynaliadwy i gynhyrchu ynni gwyrddach hefyd yn cyfrannu at leihau'r defnydd o danwyddau ffosil.

Bydd gweithio ar draws sectorau i ddiffinio atebion ymaddasu a lliniaru i'r newid yn yr hinsawdd sy'n addas i Ogledd-orllewin Cymru yn helpu i feithrin cynaliadwyedd a chydnerthedd. Bydd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ymchwilio i reoli dull rhanbarthol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn sicrhau dull gweithredu cyson a mwy effeithiol.

Llyn Celyn ger cronfa ddŵr y Bala dan amodau sychder, gyda bonyn coed agored.

Sut all pobl gymryd rhan?


Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam ym mhroses y Datganiad Ardal. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio a gweithdai yn ystod 2020 i'n helpu i ddatblygu ymchwil, i archwilio cyfleoedd, ac er mwyn i chi siarad â ni am eich syniadau cymunedol a sut y gallant gael eu hariannu.

I helpu fel hwyluswyr yn y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu hyfforddiant ar y cyd ac yn seiliedig ar asedau i randdeiliaid.  Bydd hyn yn defnyddio asedau unigol a chymunedol yn yr ardal i sicrhau bod y gallu’n bodoli i weithio ar y cyd ar Ddatganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru

  • Cefnogi’r rhanddeiliaid gyda rhaglen dysgu gan gymheiriaid i feithrin gwydnwch prosesau ac etifeddiaeth leol ym mhroses y Datganiad Ardal o'r cychwyn cyntaf

  • Sicrhau bod adnoddau ar gael i greu hunaniaeth ar gyfer Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, fel bod y rhanddeiliaid a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau'n deall ei ddiben, ei effaith a sut i gymryd rhan wrth fynd ymlaen

Mae ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost hefyd: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau.  

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Hoffech chi gael ateb?