Mae'r ardal wedi’i nodweddu gan dirwedd fendigedig o ucheldir helaeth ac ardaloedd ar yr arfordir, ynghyd ag iseldir ac aneddiadau yn eu mysg. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu’r brif gadwyn o fynyddoedd, gyda gweunydd ucheldirol eraill yng Nghonwy, tua’r dwyrain.

Mae'r thema hon yn nodi sut y mae'r Datganiad Ardal hwn yn fan cychwyn ar broses iterus barhaus a fydd yn ein hysgogi i gydweithio mewn awyrgylch cyson o adborth a thrafodaeth.

Oherwydd ei ehangder a'i ddylanwad, gwnaeth rhanddeiliaid nodi’r argyfwng yn yr hinsawdd a'r amgylchedd fel y thema bwysicaf a mwyaf trosfwaol ar gyfer Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin.

Mae'r thema hon yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd fel bod modd datblygu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer yr economi a'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys nodi dulliau cynaliadwy o fanteisio ar gyfleoedd economaidd sy'n gwella'r adnoddau naturiol sy’n unigryw i ogledd-orllewin Cymru.

Creu cyfleoedd i gael mynediad at gefn gwlad a deall ei werth fel bod cymunedau yn gallu ailgysylltu, deall, ymgysylltu a dylanwadu ar y defnydd creadigol o’r amgylchedd naturiol lleol.

Mae'r thema hon yn cynnwys sicrhau ein bod yn cydweithio i wella gwydnwch ecosystemau yn yr ardal. Mae angen i ni wrthdroi'r dirywiad a gweithredu er mwyn cyfoethogi bioamrywiaeth. Mae'r thema hon yn ymwneud yn fawr â Natur Hanfodol, ein llyw strategol ar gyfer bioamrywiaeth.

Gweithio gyda rheolwyr aer, tir a dŵr ledled Gogledd-orllewin Cymru i hyrwyddo a datblygu ffyrdd cynaliadwy o reoli adnoddau, gan gyfrannu at iechyd pob math o fywyd yn yr ardal.