© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Ynglŷn â'r ardal hon


Mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n cynnwys tair sir ar wahân, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n cynnwys cymunedau dinesig mawr, diwydiant, sawl un o brif wythiennau trafnidiaeth y wlad a rhai golygfeydd godidog.

Fodd bynnag, cyfran fechan iawn o'r stori yn unig yw hynny. Mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n glytwaith o bentrefi bychain, adeiladau fferm traddodiadol, cofebau hynafol, ffiniau caeau, coedwigoedd a pharcdiroedd. Mae ymdeimlad cryf o hanes wedi'i ymgorffori yn y dirwedd, yn enwedig yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (sydd wedi’i dynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) gyda'i systemau maes canoloesol, rhostir agored, caerau cynhanesyddol a ffermydd. Nid yw'n syndod, felly, yr amcangyfrifwyd y gwnaeth 1.1 miliwn o bobl ymweld â chwe safle allweddol ar draws AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ystod 2018, gan greu oddeutu £24.1 miliwn i economi Cymru yn y broses.

Mae gan Ogledd-ddwyrain Cymru sawl ystâd hanesyddol fel Castell y Waun ac Erddig yn Wrecsam, heb sôn am yr 'afon yn yr awyr' enwog sy'n bongamu ffin Sir Ddinbych/Wrecsam, a elwir fel arall yn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Mae Moel Famau yn rhan o Barc Gwledig Moel Famau, sy'n bongamu ffiniau Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae'r mynyddoedd yma wedi'u gorchuddio â rhostir grug, sef cynefin o bwys rhyngwladol y mae modd ei weld o filltiroedd o gwmpas. Mae arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir / 40 km o Gaer i Gronant ac mae'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Gerllaw aber afon Dyfrdwy, byddwch mewn byd a nodweddir gan ddiwydiant yn ogystal â natur. Mae Talacre yn ymfalchïo mewn traeth euraidd a thwyni tywod ynghyd â'i oleudy eiconaidd. Fodd bynnag, mae Sir y Fflint yn sir sy'n cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r A55, yn adnabyddus fel Gwibffordd Gogledd Cymru, hefyd yn gwneud Sir y Fflint yn borth i ogledd y wlad.

Dan ddylanwad amaethyddiaeth ac wedi'i lleoli yn erbyn cefndir gorllewinol Mynydd Rhiwabon a Mynydd Esclusham, mae sir Wrecsam, er hynny, yn gartref i ardal adeiledig fwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru, sef Wrecsam ei hun. Mae ganddi hefyd rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y wlad. Ar ben bod yn ganolfan weinyddol a manwerthu brysur, mae'r dref yn cynnwys un o'r parciau busnes mwyaf yn Ewrop ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Cyferbynnwch hynny â'r hyn sydd yn ne-orllewin y sir. Yma, lle mae’r Berwyn yn amgylchynu Dyffryn Ceiriog, mae’r hunaniaeth Gymreig yn gref, mae ffermio mynydd yn ffordd o fyw, ac mae'r awyrgylch yn heddychlon. I'r de-ddwyrain, ar hyd y ffin â Swydd Amwythig, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn's, Whixall a Bettisfield yn cynrychioli hafan bwysig i fywyd gwyllt – fel y mae, er syndod, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.

Er bod gan Sir Ddinbych asgwrn cefn amaethyddol, mae'n sir sy'n dibynnu'n drwm ar dwristiaeth, a hithau’n ymestyn o drefi arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd i drefi golygfaol Corwen a Llangollen yn y de. Yma, ymysg amrywiaeth o atyniadau eraill, byddwch yn gweld afon Dyfrdwy, sy'n enwog yn rhyngwladol am ei chyfleusterau pysgota a hamdden dŵr yn ogystal â bod yn un o'r dalgylchoedd afonydd sy’n cyflenwi dŵr cyhoeddus a reoleiddir fwyaf yn y byd. Tuag at orllewin y sir ac yn cwmpasu dros 4,000 o hectarau saif Coedwig Clocaenog, sef coedwig odidog sy'n cael ei chanmol nid yn unig am ei bywyd gwyllt, ond fel encilfa hamdden boblogaidd a ffynhonnell ynni, diolch i'w thyrbinau gwynt. Caiff rhwng £1.5 a £2 filiwn ei greu drwy gynaeafu pren mewn modd cynaliadwy o'r goedwig bob blwyddyn. Fodd bynnag, unwaith eto, byddwch yn gweld cymunedau ym maestrefi gorllewinol y Rhyl sy’n cael eu cydnabod fel y rhai mwyaf difreintiedig yn Sir Dinbych.

Ymddangosodd Datganiad Ardal y Gogledd-ddwyrain – sy'n cynnwys pum thema allweddol – o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a oedd yn ymwneud â'r hyn y dylai ein Datganiad Ardal ei gynnwys. Yn ganolog i bob un o’r pum thema y mae'r dymuniad i ymateb i'r newid yn yr hinsawdd ac, ar yr un pryd, sicrhau bod y byd naturiol ac adeiledig yn fwy gwydn ac addasadwy yn wyneb yr argyfwng hinsawdd presennol. Mae am archwilio ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd yn lleol i ddiogelu, gwerthfawrogi a chofleidio'r amgylchedd naturiol wrth ar yr un pryd ei roi wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau, yn unol â Pholisi Adnoddau Naturiol 2017 Llywodraeth Cymru.

Themâu yn Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru

 

Mae'n werth nodi bod y thema gyntaf – Yr argyfwng yn yr hinsawdd: Gwydnwch ac addasu – yn cynrychioli conglfaen y Datganiad Ardal, yn sail i'n hymagwedd gyfan at fynd i'r afael â'r heriau rydyn ni, a'n hamgylchedd naturiol, bellach yn eu hwynebu, fel a ddengys yn y ffeithlun hwn:

 

 

 O'r digwyddiadau ymgysylltu, roedd hi'n glir fod rhoi cymunedau wrth wraidd proses y Datganiad Ardal yn cael llawer o gefnogaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Rydym yn credu y bydd cynnwys rhagor o bobl ar lefel leol yn allweddol er mwyn cyflawni ein gwaith drwy gydol 2020 a'r tu hwnt.

Yn ogystal, roedd cefnogaeth ar gyfer datrysiadau seiliedig ar natur, ynni adnewyddadwy, llesiant, iaith a diwylliant, ynghyd â datblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth awyr agored. Bydd yr 'is-themâu' hyn yn cael eu plethu ar draws ein pum thema. Mynegwyd diddordeb hefyd yn y ffordd gyffredinol y bydd y Datganiadau Ardal yn gweithio, sut bydd mecanweithiau cyflawni'n cael eu nodi, a dyrannu adnoddau.

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – Gogledd Ddwyrain Cymru (PDF)

Mae’n dangos ardaloedd o’r hyn a ganlyn:

  • Ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – Gogledd Ddwyrain Cymru (PDF)

Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru:

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Gogledd Ddwyrain Cymru (PDF) 

  • mae’n dangos ardaloedd o goedwig ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr – cydymffurfiaeth o ran afonydd, cyrff dŵr a dyfroedd ymdrochi (y data diweddaraf sydd ar gael - Mawrth 2020) (PDF)

  • ardaloedd o ansawdd dŵr da, cymedrol, a gwael mewn afonydd, llynnoedd a moroedd yn y Gogledd Ddwyrain

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn y Gogledd Ddwyrain 2019

  • mae’n dangos yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yn y Gogledd Ddwyrain

Gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon 2016 -2019 – yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

  • Llosgi gwastraff
  • Tipio anghyfreithlon
  • Safle gwastraff anghyfreithlon

Porwch ragor o ddata am amgylchedd naturiol Cymru – map rhyngweithiol sy’n dangos: 

  • dŵr (dyfrhaenau, bregusrwydd dŵr daear ac yn y blaen)
  • coedwigaeth (coetir hynafol, trwyddedau cwympo coed ac yn y blaen)
  • cynefinoedd a rhywogaethau
  • safleoedd gwarchodedig a dynodiadau mynediad tir.

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?



Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?


Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf