Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cyflwyniad i Datganiad Ardal Canolbarth Cymru

Cae amaethyddol gyda defaid ar fachlud haul, gyda bryniau yn y cefndir

Llun gan Peter Lewis

Mae'r Datganiadau Ardal yn crynhoi trafodaethau o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn addasu ein cynlluniau ynglŷn â digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Sylwch fod yr holl feysydd parcio, mannau chwarae a blociau toiledau yng ngwarchodfeydd a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gau o 23 Mawrth 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein prif dudalen ynghylch y coronafeirws.

Ynglŷn â'r ardal hon


Mae Canolbarth Cymru yn ardal o dirluniau amrywiol a hanesyddol, sy’n creu ei hunaniaeth unigryw ei hun. Mae’n ymgorffori cyfran fawr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y de, ucheldir y Berwyn yn y gogledd gyda Mynyddoedd Cambria yn ffurfio’r asgwrn cefn canolog drwy’r canol. Mae bryniau’n disgyn tuag at arfordir garw 50 milltir o hyd Bae Ceredigion yn y gorllewin ac mae ei dir ffermio yn ymestyn hyd at drefi’r Gororau yn y dwyrain.

Mae’n gartref i rwydwaith o bobl sy’n cyfrannu at amrywiaeth ac economi Canolbarth Cymru, gan fyw a gweithio mewn trefi marchnad gwledig, prifysgolion bywiog, pentrefi clos a chyrchfannau glan y môr traddodiadol. Dyma un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ac mae Ceredigion yn un o’r ardaloedd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae afonydd Gwy, Wysg, Efyrnwy, Clywedog a Teifi a’u hisafonydd cysylltiedig, yn llifo drwy Ganolbarth Cymru, gan greu dyffrynnoedd a cheunentydd sydd wedi siapio’r tirlun dros filiynau o flynyddoedd. Mae eu dyfroedd yn cynnwys eog a brithyll ochr yn ochr â rhywogaethau afon amrywiol gan gynnwys glas y dorlan, misglen berlog yr afon, dyfrgwn a chimychiaid afon crafanc wen. Mae glawiad uchel naturiol yr ardal wedi arwain at greu cronfeydd dŵr mawr gan gynnwys Cwm Elan, Clywedog, Llyn Efyrnwy a nifer yn y Bannau Brycheiniog. Mae’r rhain wedi galluogi adnoddau dŵr Canolbarth Cymru i ddarparu cyflenwad hanfodol o ddŵr i Gymru, Canolbarth Lloegr a Gogledd-orllewin Lloegr.

Mae tirlun a thirwedd Canolbarth Cymru yn denu ymwelwyr a phobl leol sy’n dymuno profi mannau agored a gweithgareddau awyr agored. Mae yna filltiroedd lawer o lwybrau cerdded i’w mwynhau gan bawb, ac yn fwyaf nodedig, y darn trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru a dau Lwybr Cenedlaethol, Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr. Rydym yn ymfalchïo bod gennym rai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yn y byd, fel y rhai ym Mwlch Nant yr Arian a Choedwig Irfon. Maent yn denu nifer fawr o ymwelwyr o bell ac agos sy’n awyddus i brofi gwefr cyflymder uchel a thir heriol. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i bobl fwynhau heddwch a thawelwch cefn gwlad agored a golygfeydd syfrdanol ar draws yr ardal.

Mae Canolbarth Cymru yn gartref i safleoedd a ddynodwyd yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae’r lleoliadau pwysig hyn yn cael eu diogelu oherwydd eu planhigion, anifeiliaid, adar a’u daeareg brin. Er enghraifft, y gyforgors yng Nghors Fochno ger Aberystwyth, Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n bwysig er mwyn storio carbon - sy’n helpu ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae ACA Camlas Sir Drefaldwyn sy’n cefnogi’r boblogaeth fwyaf o’r Llyriad-y-dŵr Arnofiol prin a gwarchodedig ac sydd ond i’w canfod mewn llond llaw o safleoedd ar draws Cymru. Mae’r casgliad o blanhigion a bryoffytau prin (ffurfiad o fwsoglau neu lysiau’r afu) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Craig Stanner ar y ffin rhwng Powys a Sir Henffordd; yr unig safle yn y DU lle gellir canfod Lili Maesyfed, a’r boblogaeth o Fritheg Berlog ar SoDdGA ger y Trallwng, sydd o bwys cenedlaethol, i enwi dim ond rhai enghreifftiau o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau unigryw sydd gennym yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Canolbarth Cymru yn enwog am ddiogelu cadarnle olaf y barcudiaid brodorol. Roedd eu niferoedd wedi cyrraedd lefelau isel iawn yn y 1980au a’r 90au oherwydd erledigaeth dyn. Dim ond drwy ymdrechion diflino pobl leol, cyrff cadwraeth, gwirfoddolwyr a’r Fyddin y mae eu niferoedd wedi cynyddu’n raddol. Mae’r aderyn hwn yn cael ei anrhydeddu bellach fel aderyn sir Powys ac mae’n llenwi’r awyr yn awr, gan ddarparu atyniad prysur i dwristiaid yn ei safleoedd bwydo ger Rhaeadr a Bwlch Nant yr Arian. Stori cadwraeth natur lwyddiannus a chadarnhaol.

Britheg y gors ar ddeilenLlun gan Dafydd Parry

Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn rhan bwysig o economi Canolbarth Cymru. Mae ardaloedd mawr sydd wedi’u gorchuddio gan blanhigfeydd coed yn darparu cyfleoedd cyflogaeth drwy gynaeafu, rheoli coetir a’u cynnyrch pren cysylltiedig. Mae hyn yn darparu hwb economaidd hollbwysig i Ganolbarth Cymru, yn ogystal â darparu lle i bobl ymweld at ddibenion hamdden a llesiant i bawb ei fwynhau.

Mae’r agwedd amaethyddol yn cynnwys defaid yn bennaf, caeau ar gyfer tyfu cnydau, gwartheg godro, nifer fach o fuchesi cig eidion ac unedau dofednod. Mae’r da byw yn pori ar laswelltir lled-naturiol ac wedi’i wella, ond gall hefyd fanteisio ar ardaloedd o ucheldir, rhos llawr gwlad a chynefinoedd ffridd – yr ardaloedd hynny ar oleddf serth rhwng y caeau caeedig is a chyrion rhostir, sydd wedi’u creu o sgri creigiog (darnau cerrig), corsydd a thir pori heb ei wella.

Cynhyrchwyd Datganiad Ardal Canolbarth Cymru gyda’r uchod mewn golwg. Mae’n darparu man cychwyn ar gyfer edrych ar y prif ffactorau sy’n ffurfio amgylchedd Canolbarth Cymru a sut y gellir cydlynu’r rhain yn effeithiol er mwyn mynd i’r afael â’i brif faterion, ceisio cyfleoedd pellach a chydweithio gyda phartneriaid a’r cyhoedd.

""

Themâu Datganiad Ardal Canolbarth Cymru


Datblygwyd y Datganiad Ardal o amgylch pum thema allweddol:

Cafodd y themâu hyn eu datblygu o dystiolaeth leol a chenedlaethol amrywiol, gan gynnwys yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, gwybodaeth o Gynlluniau Llesiant Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna fe wnaethom ddefnyddio’r sesiynau ymgysylltu gyda’n rhanddeiliaid i fireinio’r manylion ar gyfer pob thema a sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r materion y mae angen i Ganolbarth Cymru fynd i’r afael â hwy. Fe ysgogodd y digwyddiadau ymgysylltu amrediad o feddyliau, syniadau, barn a thrafodaethau sydd wedi cyfrannu at y tudalennau thema manwl canlynol.

Dim ond dechrau ar y daith ydym ni wrth i ni weithio gyda phobl i wella’r dulliau o reoli adnoddau naturiol Canolbarth Cymru. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost yn uniongyrchol atom yn: mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – Canolbarth Cymru (PDF)

Mae’n dangos ardaloedd o’r hyn a ganlyn:

  • Ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – Canolbarth Cymru (PDF)

Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru:

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Canolbarth Cymru (PDF) 

  • mae’n dangos ardaloedd o goedwig ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Porwch ragor o ddata am amgylchedd naturiol Cymru – map rhyngweithiol sy’n dangos: 

  • dŵr (dyfrhaenau, bregusrwydd dŵr daear ac yn y blaen)
  • coedwigaeth (coetir hynafol, trwyddedau cwympo coed ac yn y blaen)
  • cynefinoedd a rhywogaethau
  • safleoedd gwarchodedig a dynodiadau mynediad tir.

Rhowch adborth

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.