Llun gan Paul Kay

Pam y thema hon?


Mae gan Gymru amgylchedd morol cyfoethog ac amrywiol sy'n cefnogi amrywiaeth enfawr o rywogaethau a chynefinoedd. Mae ein moroedd yn gartref i boblogaethau pwysig rhyngwladol o famaliaid ac adar morol, pysgod, dolydd morwellt a choedwigoedd gwymon, ac ystod liwgar o infertebratau fel cwrelau meddal, cimychiaid a sêr môr, i enwi ond rhai.

Mae'r dyfroedd o amgylch Bae Ceredigion yn gartref i'r unig gymuned breswyl adnabyddus o ddolffiniaid trwynbwl yng Nghymru a Lloegr, gyda phoblogaeth o rhwng 200 a 300. Ynghyd â'r Alban, mae gan Gymru dros 90% o boblogaeth adar drycin Manaw y DU a dros 8% o boblogaeth huganod y byd. Bae Caerfyrddin yw'r safle gaeafu pwysicaf ar gyfer y môr-hwyaden ddu ym Mhrydain ac Iwerddon. Adlewyrchir pwysigrwydd y bywyd gwyllt morol hwn yn y dynodiad sylweddol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn nyfroedd glannau Cymru.

Mae ecosystemau morol sy'n wydn ac yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth yn ein darparu gyda nifer o fanteision uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rydym yn dibynnu ar ein dyfroedd fel ffynhonnell bwyd iach. Mae nifer o'n rhywogaethau eiconig – fel morloi, adar y môr a dolffiniaid – yn bwysig ar gyfer twristiaeth ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'n harfordiroedd bob blwyddyn. Mae cynefinoedd fel dolydd morwellt a morfeydd heli yn storio carbon, yn yr un modd â choed a choetiroedd ar y tir. Gallant hefyd chwarae rôl mewn amsugno ynni’r tonnau a lleihau erydiad arfordirol. Mae cynefinoedd a rhywogaethau eraill, fel wystrys a misglod, yn hidlo cyfeintiau enfawr o ddŵr a gallant helpu i dynnu gwastraff a gwella ansawdd dŵr.

Gwely o gregyn gleision glas oddi ar arfordir De Orllewin Cymru.Llun gan Paul Kay

Fodd bynnag, mae'r amgylchedd morol o amgylch Cymru o dan bwysau gan ystod o effeithiau fel y newid yn yr hinsawdd, gweithgareddau dynol anghynaliadwy, a chyflwyno rhywogaethau estron. Os ydym am barhau i gael budd o'n hecosystemau morol, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau i'w cynnal a'u gwella.

Mae deall gwydnwch ein hecosystemau morol yn hynod o heriol. Mae monitro morol ac arolygon yn ddrud ac mae o hyd llawer nad ydym yn ei ddeall am ein moroedd. Fodd bynnag, rydym yn casglu tystiolaeth ynglŷn â chyflwr ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.Gyda bron 70% o ardal glannau Cymru wedi'i dynodi fel rhan o'r rhwydwaith hwn, mae cyflwr ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn rhoi arwydd da i ni o iechyd yr ecosystem forol ehangach. Ar hyn o bryd, mae hyn yn dweud wrthym fod nifer o gynefinoedd a rhywogaethau yn gwneud yn dda ond nid yw eraill yn gwneud cystal. Beth sydd angen digwydd i newid hyn?

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Trwy drafodaeth gyda'n partneriaid, rydym wedi canolbwyntio ar gyfres o nodau penodol rydym am weithio gyda'n gilydd i’w cyflawni:

Cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer gwella a chynnal ecosystemau mwy gwydn:

Er ein bod yn cydnabod bod gan awdurdodau rheoli a chyrff cyhoeddus rôl flaengar i’w chwarae mewn rheoli'r amgylchedd morol, mae cyfrifoldeb am wydnwch ecosystemau morol yn mynd ymhellach na'r sefydliadau hyn yn unig.

Rydym yn gwybod bod mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar ein hecosystemau morol yn mynd i ofyn am ymdrechion llawer ehangach. Mewn blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld parodrwydd enfawr gan gwmnïau a'r cyhoedd i fynd i'r afael â materion ynghylch sbwriel morol. Hoffem weld y cyfrifoldeb hwn yn ehangu i faterion hysbys eraill sy'n effeithio ar ecosystemau morol.

Byddai llwyddiant yn cynnwys y cyhoedd ehangach, diwydiannau, a'r holl randdeiliaid fydd ar eu hennill i gymryd camau gweithredol am y materion hynny rydym yn gwybod eu bod yn effeithio ar iechyd ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a'r moroedd ehangach.

Plentyn yn cronni creigiau gyda rhwydLlun gan Paul Gibson

Gwella a gweithredu ein dealltwriaeth o sut y gallwn ddatblygu gwydnwch yn yr amgylchedd morol:

Er mwyn adeiladu gwydnwch, mae angen, yn gyntaf, gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae gwydnwch yn golygu mewn gwirionedd mewn ecosystemau morol. Mae arnom angen hefyd gwell dealltwriaeth o sut mae gweithgareddau a phwysau morol yn effeithio ar yr ecosystem forol. Gallwn wedyn ddechrau sicrhau y caiff adnoddau morol eu defnyddio'n gynaliadwy.

Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig ystyried gwydnwch cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, yn ogystal â gwydnwch ecosystemau. Rydym yn bwriadu gweithio gyda'n cydweithwyr sy’n datblygu Datganiadau Ardal ar y tir i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a rennir a chymryd camau yn eu cylch. Yn arbennig, rydym am wella ein dealltwriaeth o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar ein moroedd a'r cyfraniad y gall ecosystemau morol iach ei wneud at addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Nudibranch clir a glas, delwedd wedi'i dynnu oddi ar arfordir canolbarth CymruLlun gan Paul Kay

Targedu adnoddau ac ymdrechion i fynd i'r afael â materion lle rydym eisoes yn ymwybodol iawn o effeithiau sylweddol ar ecosystemau morol:

Lle mae gennym dystiolaeth bresennol o effeithiau ar wydnwch ecosystemau, rydym am symud yn gyflym i gefnogi camau gweithredu wedi'u targedu. Gallai hyn gynnwys adeiladu ar brosiectau presennol ar lefel genedlaethol neu raddfa leol.

Y materion lle mae gennym dystiolaeth a chytundeb rhesymol ar effeithiau ar yr amgylchedd morol fel a ganlyn: y newid yn yr hinsawdd, ansawdd dŵr, rhywogaethau estron goresgynnol a sbwriel morol.

Mae effeithiau eraill y gwyddus eu bod yn broblem ond nad ydynt yn cael eu deall yn dda. Maent yn gofyn i ni gasglu mwy o wybodaeth cyn ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu rheolaeth effeithiol. Mae'r materion hyn yn cynnwys cynaeafu adnoddau morol masnachol ac anfasnachol yn ogystal â mynediad a hamdden. 

Ciwb morlo wedi'i amgylchynu â sbwriel morol wedi'i olchi i fyny ar Barth Cadwraeth Forol Skomer.Llun gan Skomer Marine Conservation Zone

Rheolaeth effeithiol a chyson o’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig i gefnogi gwydnwch ecosystemau yn yr amgylchedd morol ehangach:

Rydym yn gobeithio y gall y Datganiad Ardal Forol gefnogi’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. Gwnaeth y weledigaeth lywio Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Gweithredu a dyna yw'r dull ar gyfer gwella rheolaeth o'r holl Ardaloedd Morol Gwarchodedig, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Dyma’r weledigaeth:

"Bydd rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru’n cael ei reoli mewn ffordd effeithiol a chyson sy’n diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd morol y safleoedd ac yn sicrhau bod nodweddion y safleoedd yn ennill neu’n cynnal statws cyflwr ffafriol. Bydd y gwaith o reoli’r rhwydwaith yn cynnal ecosystemau morol cydnerth a fydd, yn eu tro, yn helpu i greu moroedd glân, diogel, iach, cynaliadwy, cydnerth, cynhyrchiol a biolegol-amrywiol yng Nghymru. Bydd yr ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd y buddion hirdymor y maent yn eu darparu i bobl Cymru drwy iddynt warchod eu treftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog.”

Er bod nifer o nodweddion y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol, mae gennym dystiolaeth dda i ddangos nid dyma yw'r achos ar gyfer ychydig o'n nodweddion gwarchodedig. Lle deallir y rheswm dros fethu, gellir gweithredu er mwyn gwella'u cyflwr. Fodd bynnag, am rai nodweddion, mae angen mwy o dystiolaeth er mwyn bod yn hyderus yn ein hasesiadau.

Mae nifer o feysydd gwaith â blaenoriaeth sydd wedi eu nodi o fewn y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel rhai sydd angen camau gweithredu wedi'u targedu. Dyma'r rhain:

  • llygredd dŵr a sbwriel morol

  • gwasgfa arfordirol a rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

  • nynediad a hamdden
  • rheoli tir

  • rhywogaethau estron goresgynnol morol

  • pysgodfeydd morol

Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n gydlynol yn ecolegol ac sy'n cefnogi gwydnwch ecosystemau:

Mae rhwydwaith sy’n gydlynol yn ecolegol yn cyfeirio at yr holl Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu cynllunio a'u rheoli yn eu cyfanrwydd i gyflenwi buddion yn fwy effeithiol nag y gall safle unigol ar ei ben ei hun. Rydym yn credu bod rhwydwaith sy'n gydlynol yn ecolegol a reolir yn dda yn offeryn allweddol o ran cefnogi gwydnwch yr amgylchedd morol ehangach. Nid yw'r rhwydwaith presennol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi’i gwblhau eto ond mae gwaith yn mynd rhagddo i'w gwblhau.  Byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd y Datganiad Ardal hwn yn ceisio gwella'n dealltwriaeth o sut mae'r rhwydwaith yn cyfrannu at adeiladu gwydnwch ar draws moroedd Cymru.

Mae anemonïau Dahlia, cornddrac a thwf sbwng ar greigwely yn y Fenai
Llun gan Paul Kay

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal gweithdy i gydweithio ar nodi nodau ar gyfer y thema hon, a'r camau gweithredu roedd eu hangen er mwyn i ni eu cyflawni. Gwnaethom wahodd amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid â buddiannau mewn bioamrywiaeth forol a gwydnwch ecosystemau.

Roedd y tîm o arbenigwyr morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cymryd rhan flaengar drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r thema hon. Mae nifer o'r cydweithwyr hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu a rheoli'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ac yn rhan o'r grwpiau cysylltiedig amrywiol hefyd.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn ymgysylltu ag Is-grŵp Gwydnwch Grŵp Cynghori a Gweithredu Morol Cymru, sydd newydd ei sefydlu. Sefydlwyd y grŵp hwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn ymateb i'r twf mewn polisïau a materion sy'n berthnasol i wydnwch ecosystemau morol. Mae aelodau o'r grŵp hwn yn dod o ystod o gefndiroedd a meysydd arbenigol, ac yn cynnwys y rheini a fynychodd ein gweithdy. Byddant yn hanfodol wrth helpu i ddatblygu a chyflenwi'r camau gweithredu rydym wedi eu nodi.

Wrth i ni barhau i ddatblygu'r gwaith hwn, rydym hefyd am ymgysylltu ag ystod ehangach o randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol. Rydym yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn rhannu ymdeimlad o gyfrifoldeb am wydnwch moroedd Cymru.

Beth yw'r camau nesaf?


Trwy'n hymgysylltiad mewnol ac allanol, gwnaethom nodi'r camau isod fel rhai sy’n angenrheidiol i'n helpu i gyflawni'n nodau. Gallai'r camau hyn gael eu harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau rheoli’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig neu eraill. Wrth nodi'r camau hyn, rydym wedi cymryd y bydd adnoddau ar gael, ond rydym yn cydnabod y gallai hyn barhau i fod yn heriol. 

Creu cyfrifoldeb a rennir ar gyfer gwella a chynnal  ecosystemau morol sy'n fwy gwydn:

  • Ymgysylltu a digwyddiadau wedi eu targedu i hyrwyddo cyfrifoldeb a rennir ymysg sectorau morol (y rheini sy'n rheoli ac yn defnyddio'r amgylchedd morol) i gefnogi gwydnwch ecosystemau morol

Gwella a defnyddio'n dealltwriaeth o sut rydym yn gallu adeiladu gwydnwch yn yr amgylchedd morol:

  • Mae angen ymgymryd ag archwiliad o raglenni gwaith a gwaith ymchwil presennol ar wydnwch ecosystemau morol i wneud gwybodaeth bresennol yn fwy hygyrch a thanategu ymchwil ychwanegol ar wydnwch morol

  • Comisiynu ymchwil i ddeall gwydnwch ecosystemau morol yn well

  • Ymgymryd ag ymchwil i ddeall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar wydnwch ecosystemau morol a'r cyfraniad y gall ecosystem forol wydn ei wneud at addasu i’r newid yn yr hinsawdd

  • Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflenwi elfen asesu prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru i ddeall y rhyngweithiadau rhwng nodweddion a mathau o offer

Targedu adnoddau ac ymdrechion lle rydym eisoes yn ymwybodol iawn o effeithiau sylweddol ar ecosystemau morol (a’u gwydnwch) a'r cyfleoedd i fynd i'r afael â nhw:

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni allbynnau rheoli Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru

  • Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ailffocysu prosesau a meini prawf ariannu i annog yn uniongyrchol brosiectau sydd â chyfraniad clir, y gellir ei ddangos, at wydnwch

  • Mae angen astudiaethau achos llwyddiannus o weithgareddau rheoli er mwyn eu rhannu ag awdurdodau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

  • Cefnogi gwaith o fewn dalgylchoedd cyfle sydd wedi eu nodi fel rhai a fydd yn gwella ansawdd dyfroedd aberol ac arfordirol

Sicrhau'r rheolaeth effeithiol a chyson o'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel ei fod yn gallu cefnogi gwydnwch ecosystemau'r amgylchedd morol ehangach:

  • Nodi a blaenoriaethau camau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn seiliedig ar sensitifrwydd nodweddion i effeithiau hysbys ar gyflwr
  • Gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli'r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a newid yr asesiad o gamau arfaethedig i gynnwys cyfraniad at wydnwch

  • Gweithio gydag awdurdodau rheoli’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig i fireinio'r broses o nodi camau lleol â blaenoriaeth sy'n cyflawni gwydnwch i ecosystemau morol, gan ystyried rhwystrau rhag cyflawni’r gwaith hwn a chyfleoedd i'w wneud

  • Dylunio a gweithredu proses newydd ar gyfer asesu cyflwr safleoedd sy’n Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n cynnwys ymchwiliad a flaenoriaethir i gyflwr anffafriol

Cyflawni rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n gydlynol yn ecolegol ac sy'n cefnogi gwydnwch ecosystemau:

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru gyda'r gwaith prosiect i gwblhau’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig i sicrhau bod rhwydwaith Cymru o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gydlynol yn ecolegol

  • Ystyried yr angen am newidiadau neu ddulliau addasol i’r rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng ngoleuni newid hinsawdd a phwysau hir dymor eraill ar raddfa fawr

Cranc nofio melfed gyda physgodyn yn y FenaiLlun gan Paul Kay

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae gwaith o dan y thema hon wedi ei ganolbwyntio ar adeiladu gwydnwch ecosystemau morol, ond yng ngoleuni'r ddealltwriaeth gyfyngedig o wydnwch morol, nod ein camau cychwynnol yw gwella'r sylfaen dystiolaeth drwy gomisiynu gwaith ymchwil.

Rydym wedi gweithio'n fewnol ac yn allanol drwy ymgysylltu cydweithredol i nodi'r nodau a chamau a fydd yn ein symud tuag at well dealltwriaeth o wydnwch morol a’r mesurau sydd eu hangen i’w gyflawni.

Trwy ddefnyddio'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel yr arwydd gorau sydd ar gael o wydnwch yr ecosystem forol, rydym yn mynd i'r afael â materion ar y raddfa briodol. Gallai gweithio gydag awdurdodau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig i nodi, gweithredu ac annog camau gweithredu newydd arwain at reolaeth addasol a all gyflenwi buddion lluosog dros y tymor hir.

Trwy archwilio'r cysylltiadau rhwng y thema hon a gwydnwch morol yng nghyd-destun Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, gallwn gyfrannu at y broses cynllunio morol fel ffordd o gymryd camau gweithredu strategol ac ataliol i reoli adnoddau naturiol morol yn gynaliadwy.

Rydym am annog cyfrifoldeb a rennir a gyrru cyfranogiad cyhoeddus i gyflawni ecosystemau morol gwydn.

Sglefrod môr yn arnofio o dan y dŵr oddi ar arfordir Gogledd Ddwyrain CymruLlun gan Paul kay

Sut all pobl gymryd rhan?


Mae'r thema hon ond yn ddechrau'r daith wrth i ni weithio gyda phobl yng Nghymru i wella’r rheolaeth o’n harfordiroedd a'n moroedd. Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol ar: marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Eich adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf