Mae Miri Mes yn helpu i blannu coed a mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur

Cafodd degau o filoedd o goed derw eu plannu ledled Cymru diolch i bobl ifanc sy’n ymgysylltu â byd natur. 

Mae Miri Mes, ymgyrch flynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn annog ysgolion ledled y wlad i gasglu hadau i dyfu mwy o goed o fes a gasglwyd yn lleol.

Yn dilyn ymgyrch 2022, mae 49,000 o goed ifanc a dyfwyd mewn meithrinfa goed bellach wedi cael eu plannu. 

Mae’r mes a gasglwyd yn caniatáu i CNC dyfu coed brodorol o hadau stoc iach o goed lleol a thrwy wneud hynny gysylltu plant ag amgylchedd naturiol Cymru.

Mae cynyddu canopi coed ar draws Cymru yn rhan hanfodol o’r ymdrechion i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu i gyrraedd uchelgais carbon sero net y wlad.

Yn 2022, casglwyd dros 825kg o fes o 40 lleoliad ar hyd a lled Cymru gan gynhyrchu £3,442 ar gyfer y lleoliadau addysg oedd wedi torchi llewys a mynd allan i’r awyr iach i chwilota’n ddyfal am fes ar lawr.

Meddai Aled Hopkin, Cynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Mae’n ardderchog gweld canlyniadau’r ymgyrch wrth i goed derw ddechrau cael eu plannu ledled Cymru.

“Casglwyd mes o amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys caeau ysgolion, parciau, ffermydd, tiroedd neuaddau pentref a stadau tai.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn Miri Mes. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob grŵp wrth i ni geisio mynd ati i helpu ein hamgylchedd naturiol.

"Gyda’r hinsawdd yn newid yn barhaus, mae coed derw Cymreig yn ymdrechu i oroesi yn erbyn plâu a chlefydau. Bydd gan goed sy’n cael eu tyfu o stoc o hadau lleol gyfradd twf uwch na choed sy’n cael eu tyfu a’u mewnforio o ardaloedd sy’n bellach i ffwrdd, a hefyd byddant yn gallu gwrthsefyll clefydau yn well.

"Mae hyn yn rhan o'n gwaith ehangach i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i ddatblygu gwytnwch ecosystemau fel y gall natur addasu a pharhau i ddarparu elfennau sylfaenol bywyd – aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog."

“Rydym nawr yn edrych ymlaen at blannu coed ymgyrch 2023 a chasglu hyd yn oed mwy o fes pan fydd Miri Mes yn dychwelyd ym mis Medi.”

Ar ôl cael eu casglu bydd y mes yn cael eu danfon i feithrinfa goed er mwyn eu graddio, eu pwyso a’u plannu.

Pan fyddant wedi datblygu'n goed bach, byddant yn cael eu plannu o fewn yr ardal lle cawsant eu casglu fel mes.

Gallwch ddysgu mwy am Miri Mes trwy gofrestru i dderbyn y cylchlythyr