Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau ac esemptiadau i ddiwydiant, busnesau ac unigolion gynnal rhai gweithgareddau a allai lygru neu niweidio’r amgylchedd. Yn achos sawl gweithgaredd, dywed y ddeddfwriaeth yn bendant fod rhaid i’r Gofrestr Gyhoeddus fod ar gael.
Cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
Gweler manylion yr holl gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru.
Er mwyn cael manylion yr holl gofrestriadau, gan gynnwys y rhai a wnaed cyn 5 Mawrth 2015 – darllenwch ein taenlen cludwyr, broceriaid a delwyr (saesneg yn unig)
Awgrymiadau a chynghorion:
-
Mae rhifau cofrestru sy’n cychwyn â CBDL yn golygu fod y drwydded yn un Haen Isaf. Nid yw trwyddedau Haen Isaf yn dod i ben. Maent yn aros mewn grym nes byddant yn cael eu dadgofrestru
-
Mae rhifau cofrestru sy’n cychwyn â CBDU yn golygu fod y drwydded yn un Haen Uchaf. Mae trwyddedau Haen Uchaf yn para am dair blynedd o’r dyddiad cofrestru
-
Wrth agor y taenlen, efallai bydd angen i chi glicio ‘View, Edit document’ neu ‘Enable content’ i ddefnyddio'r swyddogaeth chwilio
-
Os byddwch yn defnyddio ein taenlen cludwyr, broceriaid a delwyr i weld cofrestriad, ewch i’r tab ‘About this spreadsheet’ i gael cymorth i ddefnyddio’r ddogfen
Esemptiadau gwastraff ac ansawdd dŵr
Gweler manylion yr holl esemptiadau gwastraff ac ansawdd dŵr a gofrestrwyd yng Nghymru ar y gofrestr gyhoeddus:
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer esemptiadau gwastraff ac ansawdd dŵr
Cofrestriadau cynhyrchydd gwastraff peryglus
Gweler manylion yr holl gofrestriadau Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus yng Nghymru ar y Gofrestr Gyhoeddus.
Gweld y gofrestr gyhoeddus Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus
Trwyddedau gwastraff, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a gweithfeydd
Gweld manylion pob Trwydded Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dŵr a Gweithfeydd cyfredol a roddwyd yng Nghymru.
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dwr a Gweithfeydd
I gael gwybodaeth am drwyddedau gwastraff yn unig , gallwch hefyd edrych ar ein map gwastraff trwyddedig.
Cyfleusterau triniaeth awdurdodedig ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes
Gweler y daenlen isod ar gyfer cofrestr gyhoeddus CNC o cyfleusterau triniaeth awdurdodedig cerbydau ar ddiwedd eu hoes.
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) cyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF) ac allforwyr cymeradwy (AE)
Gweler y daenlen isod ar gyfer cofrestr gyhoeddus CNC o WEEE, AATFs ac AEs.
Delwyr metel sgrap
Gweler y daenlen isod am gofrestr gyhoeddus CNC o ddelwyr metel sgrap yng Nghymru.
Coed, coetiroedd a choedwigaeth
Ceisiadau ar gyfer cwympo coed
Rydym yn cyhoeddi manylion trwyddedau cwympo arfaethedig am gyfnod minimwm o bedair wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn gallwch weld y cynigion a rhoi sylwadau arnynt.
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)
Dan Reoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) (Coedwigaeth) 1999 mae’n rhaid inni ddangos y penderfyniadau a wnawn ynghylch a fydd cynigion yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
Gweld yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer y gofrestr coedwigaeth
Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP)
Darganfyddwch fanylion ynglŷn â sut yr ydym yn cymeradwyo cwympo coed ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru drwy Gynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP). Mae hyn yn caniatáu inni ddangos lefel reoleiddio gyfwerth ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Gweld cofrestr Cynllun Adnoddau Coedwigoedd
Gwybodaeth bellach o’r gofrestr gyhoeddus a’r cynllun cyhoeddi trwyddedau
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch o’r dolenni uchod gallwch gysylltu â’r tîm ymholiadau a fydd yn gallu dweud wrthych a yw’r wybodaeth rydych ei hangen ar gael a sut mae cael mynediad ati.
Nod Cynllun Cyhoeddi Trwyddedau CNC yw rhoi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau. Mae’r ddogfen isod yn cynnwys manylion am yr hyn sydd ar gael ar gyfer yr holl gyfundrefnau trwyddedu y mae CNC yn gyfrifol amdanynt.
Gallwch weld a oes gan gwmni neu unigolyn ganiatâd, trwydded neu esemptiad i weithredu’n gyfreithlon ar gyfer unrhyw fath o weithgarwch arall rydym yn ei reoleiddio drwy gysylltu â’r tîm ymholiadau.
Ebost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000 (Llun - Gwener 9am - 5pm)