Gwyddoniaeth, ymchwil, addysg, arolygon neu ffotograffiaeth

Gallwch wneud cais am drwydded at y dibenion canlynol:

  • gwyddoniaeth, addysg, ymchwil, arolygon, ffotograffiaeth
  • modrwyo neu nodi neu archwilio unrhyw fodrwy neu nod (adar nad ydynt yn Atodlen 1)

Lawrlwythwch y ffurflen gais at ddibenion gwyddonol, ymchwil, addysg, arolygon neu ffotograffiaeth (saesneg yn unig)

Rhaid i’ch cais gynnwys dau eirda gan arbenigwyr sy’n gyfarwydd â’ch gwaith. Lawrlwythwch y templed geirda.

Modrwyo, nodi neu gofnodi nyth adar Atodlen 1

Os oes angen trwydded arnoch i gofnodi nyth, modrwyo neu nodi adar gwyllt Atodlen 1, rhaid i chi wneud cais i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain

Rheoli adar

Gallwch wneud cais am drwydded i reoli adar er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwarchod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd
  • atal clefydau rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol i dda byw, porthiant ar gyfer da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau a choed sy’n tyfu
  • gwarchod adar gwyllt
  • gwarchod fflora a ffawna
  • gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar

Gwarchod diogelwch yr aer

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar er mwyn gwarchod diogelwch yr aer

Pysgodfeydd ac adar sy’n bwyta pysgod

I wneud cais am drwydded i reoli adar sy’n bwyta pysgod, i atal difrod difrifol i bysgodfeydd, mae angen i chi gwblhau ein ffurflen gais am drwydded ar gyfer adar sy’n bwyta pysgod.

Cyn gwneud eich cais, bydd angen i chi gasglu data ar amlder ysglyfaethu pysgod a nifer yr adar sydd ynghlwm.

Ar gyfer dyfroedd llonydd bach (o dan 20 hectar), casglwch y data ategol gan ddefnyddio’r cofnod arsylwi adar ar gyfer dyfroedd llonydd bach. Bydd angen casglu’r data rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror bob blwyddyn a rhaid cynnwys 10 neu ragor o ymweliadau safle wedi’u dyddio o leiaf dridiau ar wahân.

Ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr (dros 20 hectar), casglwch y data ategol gan ddefnyddio’r cofnod arsylwi adar ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr.

Heboga a magu adar

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i ladd adar gwyllt ar gyfer heboga.

Arddangos yn gyhoeddus neu gystadlu

Gwiriwch y trwyddedau cyffredinol.

Tacsidermi 

Mae mwy o wybodaeth yma am ba fath o drwydded tacsidermi y gallai fod ei hangen arnoch.

Taliadau

Mae mwy o wybodaeth yma am ein tâl am gais am drwydded adar.

Amserlenni

Mae mwy o wybodaeth yma am yr amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu ceisiadau am drwyddedau adar.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf