Ffurflen gwastraff peryglus: lawrlwythwch y templed, ei gwblhau, ei wirio a'i gyflwyno

Dilynwch y camau hyn i gwblhau, gwirio a chyflwyno eich ffurflen gwastraff peryglus.

Lawrlwythwch y templed

Lawrlwythwch y templed taenlen ffurflen gwastraff peryglus.

Cwblhewch eich ffurflen

Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich ffurflenni yn gywir.

Mae'r cyfarwyddiadau hyn hefyd ar ddalen 4 y templed taenlen.

Gwirio a chyflwyno

Rhaid i chi wirio nad oes unrhyw wallau yn eich ffurflen wedi'i chwblhau.

Rhaid i chi wneud hyn drwy lanlwytho eich ffurflen wedi'i chwblhau.

Cywirwch unrhyw wallau

Os yw eich ffurflen yn cynnwys gwallau, byddwch yn cael gwybod am y canlynol:

  • y llinell yn y ffurflen y mae'r gwall yn ymddangos arni
  • beth sydd angen i chi ei wneud i'w chywiro, e.e. ‘rhowch y dyddiad yn y fformat hwn dd/mm/bbbb’

Rhaid i chi fynd yn ôl at eich ffurflen a gadwyd i gywiro'r gwallau.

Mae angen i chi ei gwirio hyd nes nad oes unrhyw wallau.

Cyflwyno

Pan nad oes unrhyw wallau, gofynnir i chi ei chyflwyno.

Diweddarwyd ddiwethaf