Cyn 2018, roedd llawer o weithgarwch echdynnu dŵr wedi'i eithrio o’r angen am drwydded. Mae newidiadau rheoliadol bellach yn ei gwneud yn ofynnol i echdynwyr dŵr, oedd wedi'u heithrio o'r blaen, wneud cais.
Mae proses ymgeisio wedi'i symleiddio ar wahân ar gael i'r rhai a echdynnodd ddŵr yn ystod y cyfnod cymhwyso rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2017, ac sy’n bwriadu parhau i wneud hynny.
I fod yn gymwys i wneud cais am drwydded adnoddau dŵr trosiannol rhaid i chi allu dangos y canlynol:
- Faint o ddŵr sydd wedi'i echdynnu h.y. sut mae cyfeintiau wedi eu mesur neu eu hasesu
- Pan fydd echdynnu dŵr wedi digwydd h.y. yn ystod y cyfnod cymhwyso 7 mlynedd (01 Ionawr 2011 i 31 Rhagfyr 2017)
Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn debygol o amrywio yn ddibynnol ar y defnydd o ddŵr a pha mor hir rydych chi wedi bod yn echdynnu dŵr. Ni ddisgwylir i ymgeiswyr gyflwyno pob math o dystiolaeth sy’n cael ei rhestru, ond yn y rhan fwyaf o achosion, efallai y bydd gofyn am nifer o ddarnau o dystiolaeth er mwyn darparu tystiolaeth ddigonol o’r cyfeintiau gwirioneddol a echdynnwyd yn ystod y cyfnod cymhwyso.
Tystiolaeth i ddangos faint o ddŵr a echdynnwyd
- Manylion storfa neu gronfa ddŵr sy’n casglu neu lestr/llong
- Darlleniadau mesurydd neu ddata monitro llif
- Manylion pwmp - capasiti ynghyd â dyddiadau ac amseroedd (oriau) gweithredu
- Lluniadau peirianyddol a dimensiynau'r strwythur derbyn (e.e. cored / llifddor)
- Manylion am bibell / agorfa llifddor (e.e. diamedr, hyd, defnydd)
- Cyfrifiadau hydrolig a rhagdybiaethau (e.e. lefel y dŵr yn y gored, y gored yn gyd-effeithlon, p'un ai a yw'r bibell yn llawn / yn rhannol lawn neu'n cael ei chau ar adegau penodol) a ddefnyddir i ddangos cyfeintiau echdynnu
- Asesiad Effaith Hydroddaearegol (HIA), gan gynnwys cyfaint gwagio wrth gloddio a sut y cawsant eu cyfrifo
- Gwybodaeth am ddefnydd dŵr - faint o ddŵr sy'n gysylltiedig â phroses/cynnyrch e.e. faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio fesul cylch golchi mewn busnes golchdy neu ofynion dŵr cnwd/da byw
- Cytundebau/cyfrifon busnes yn dangos cyflenwi/prynu nwyddau sy'n gysylltiedig ag echdyniad
- Cofnodion amaethyddol
- Copi o'r cynllun dyfrhau - gan gynnwys defnyddio dyfrhau drwy ddiferion
Tystiolaeth i ddangos bod echdynnu dŵr wedi digwydd yn ystod y cyfnod cymhwyso
- Ffotograffau o’r strwythur derbyn neu offer yn y fan a'r lle
- Darlleniadau mesurydd neu ddata monitro llif
- Manylion pwmp / mesurydd / offer monitro llif (e.e. y math o bwmp / mesurydd / dyfais monitro llif, dyddiad gosod), ynghyd â manylion graddnodi neu ardystio
- Derbyniadau yn dangos prynu offer echdynnu dŵr (e.e. mesurydd neu bympiau) neu gontractau cynnal a chadw ar gyfer offer o'r fath
- Manylion pwmp - capasiti ynghyd â dyddiadau ac amseroedd (oriau) gweithredu
- Cytundebau/cyfrifon busnes yn dangos cyflenwi/prynu nwyddau sy'n gysylltiedig ag echdyniad
- Cofnodion amaethyddol
Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r gofynion tystiolaeth i gefnogi'ch cais neu os oes angen cyngor pellach arnoch ynghylch eich cais am drwydded adnoddau dŵr trosiannol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a nodwch ar y neges ‘at sylw'r tîm sy'n caniatáu adnoddau dŵr’.