Sut i wneud cais am eich cynllun ynni dŵr
Sut i wneud cais am gynlluniau ynni dŵr
Gwybodaeth gyffredinol
Os ydych yn ystyried datblygu cynllun ynni dŵr, ac mae gennych gynlluniau rhagarweiniol o’ch cynnig, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno ymholiad cyn-ymgeisio cyn i chi ymgeisio’n ffurfiol. Mae’n rhad ac am ddim, a bydd yn ein helpu i ddeall beth sydd gennych mewn golwg, a’ch cynorthwyo i baratoi eich cais ffurfiol.
Rhaid i chi lenwi ffurflenni cyn-ymgeisio WRA a WRB gan ddefnyddio canllawiau WRX a chyflwyno i ni.
Sylwch y bydd angen i chi gyflwyno Ffoto-arolwg Geomorffoleg Cam 1 â’ch ffurflen gynymgeisiol. Mae hon yn ddogfen annhechnegol a fydd yn caniatáu inni ddarparu cyngor ynghylch gofynion lleoli a dylunio eich cais yn gynnar yn y broses ymgeisio. Mae hefyd o gymorth inni ddarparu gwell cyngor, yn gynt, ynglŷn ag agweddau amgylcheddol eraill eich cynllun.
Ceir cyfarwyddiadau ar sut i gynnal Ffoto-arolwg Cam 1 yn Nodyn Canllaw Ategol 2: Ffoto-arolygon geomorffoleg ar gyfer datblygiadau ynni dŵr, i’w cael gyda gweddill ein canllawiau ynni dŵr yn adran ‘Cyn ichi ymgeisio’ ein gwe-dudalennau Ynni Dŵr.
Cais ffurfiol
I ymgeisio am drwydded adnoddau dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr, cwblhewch y ffurflenni a nodir yn nodyn canllaw WRX neu fel yr argymhellir yn dilyn eich ymholiad cyn-ymgeisio.
Yn y broses cyn ymgeisio, efallai i chi eich cynghori i gael trwyddedau ychwanegol ar gyfer eich cynllun ynni dŵr. Dilynwch y dolenni isod a llenwch y ffurflen briodol, a’i dychwelyd gyda’ch ffurflenni eraill lle bo modd.
Os ydych yn ymgeisio am newid trwydded bresennol er mwyn tynnu rhagor, bydd angen i chi gyflwyno’r ffoto-arolwg neu asesiad geomorffolegol a ddarparwyd â’ch cais gwreiddiol. Os nad oes gennych ffoto-arolwg neu asesiad eisoes, bydd angen i chi gwblhau ffoto-arolwg newydd i fynd gyda’ch cais am newid. Darllenwch ein nodyn canllaw HGN 10 Geomorffoleg am fanylion sut mae gwneud hyn.