Cofrestru neu adnewyddu eich esemptiadau gwastraff

Cyn i chi gofrestru

Gwnewch gais i'r rheoleiddiwr cywir

Rhaid i chi gofrestru gyda rheoleiddiwr y wlad lle mae eich busnes wedi'i leoli.

Os yw eich busnes yng Nghymru, rhaid i chi gofrestru gyda ni a dilyn y canllawiau hyn.

Os yw eich busnes yn Lloegr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Os ydych yn yr Alban, cysylltwch ag Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA).

Beth ddylech chi ei wybod

Rhaid i chi fodloni amodion pob eithriad. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd eich cofrestriad yn annilys a byddwch yn gweithredu' n anghyfreithlon.

Chwilio'r holl eithriadau gwastraff. Nodwch bod y cysylltiadau Gov.uk yn datgan eu bod yn berthnasol i "Loegr yn unig" ond mae amodau yr eithriadau yn union yr un fath yng Nghymru: 

Enw a chyfeiriad yr unigolyn, busnes neu sefydliad a fydd yn cyflawni'r gweithrediadau gwastraff. Dylid cofrestru fferm sy'n ffurfio un lleoliad busnes, lle y caiff tir allanol neu fuarthau arwahanol eu rheoli fel uned fferm sengl, fel un safle, neu 'le'. Dylid cofrestru buarthau neu glytiau tir â gwahanol gyfeiriadau a chyfeiriadau gohebu fel lleoedd ar wahân.

Os oes gennych chi fwy na 30 o safleoedd sy'n cyflawni'r un gweithrediadau gwastraff wedi'u hesemptio, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 i gofrestru yr rhain.

Os bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn lleoliad lle na ellir nodi un lle ar gyfer y gweithgaredd, megis ar ffordd, afon neu gamlas, darllenwch am rwydweithiau llinellog.

Gwiriwch os nad oes angen i chi gofrestru

Nid oes angen i chi gofrestru'r eithriadau canlynol sy'n ymwneud â storio gwastraff dros dro. Rhaid i chi ddilyn yr amodau a'r cyfyngiadau a osodwyd.

Nid oes angen trwydded ar rai gweithgareddau risg isel ac nid oes angen eu cofrestru fel eithriadau. Darllenwch fwy am Sefyllfaoedd Gwastraff / Gweithrediadau Adfer Risg Isel (LRP/LRWRO) ar Gov.uk. Gallwch ddyfynnu'r rhif LRP/LRWRO mewn unrhyw gofnodion i fodloni gofynion eich dyletswydd gofal gwastraff.  I gael gwybod pa rai o'r rhain sy'n berthnasol yng Nghymru, cysylltwch â ni 0300 065 3000.  

Sut i gofrestru neu adnewyddu

Nid oes angen talu am gofrestru unrhyw eithriadau gwastraff, heblaw am esemptiad T11 ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Adnewyddu

Gallwch dim ond adnewyddu eich cofrestriad o fewn y mis cyn iddo ddod i ben.

  • Cliciwch y ddolen uchod ac yna dewiswch "Dechrau'r rhaglen"
  • Dewch o hyd i'ch cofrestriad presennol trwy ddewis y math busnes perthnasol (unigolyn neu sefydliad)
  • Chwiliwch gan defnyddio eich enw, manylion eich partneriaeth, enw'r busnes, neu'r fferm. Defnyddiwch ein cofrestr gyhoeddus i ddod o hyd i'ch manylion cofrestredig.

Os byddwch yn methu eich dyddiad adnewyddu, bydd angen i chi ailgofrestru ar-lein.


Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd manylion eich esemptiad yn ymddangos ar ein cofrestr gyhoeddus o esemptiadau gwastraff.

Newid eich cofrestriad

Os bydd angen newid eich manylion cyswllt yn ystod y cyfnod cofrestru o dair blynedd, ffoniwch 0300 065 3000.

Os ydych am ychwanegu esemptiadau at gofrestriad cyfredol, ffoniwch 0300 065 3000.

Er mwyn ein helpu i ymateb i'ch ymholiad, sicrhewch fod gennych chi rif cofrestru eich esemptiad wrth law.

Deall yr amodau

Er mwyn sicrhau nad ydych yn achosi niwed i bobl na'r amgylchedd, rhaid i chi gydymffurfio ag amodau'r esemptiad a gweithredu heb:

  • beryglu dŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • achosi niwsans trwy sŵn ac aroglau
  • effeithio'n andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Yn aml, caiff gweithgareddau amaethyddol eu cyflawni mewn lleoliadau sensitif fel safleoedd Ewropeaidd, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), safleoedd rhywogaethau gwarchodedig, ac ardaloedd â thiroedd a dyfroedd wyneb sensitif.

Efallai y bydd angen i chi weithredu rheolaethau ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn cael eu diogelu.

Eich rhwymedigaethau eraill

Nid yw gweithredu o dan esemptiad neu esemptiad storio dros dro yn lleihau eich rhwymedigaeth i gydymffurfio â deddfwriaethau eraill, fel y ddyletswydd gofal gwastraff, na'r gofyniad am ganiatâd cynllunio. Er enghraifft, gallai fod angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer eich gweithrediad gwastraff, neu drwydded gollwng dŵr.

Archwiliadau a datgofrestru

Mae'n bosibl y byddwn yn cynnal archwiliadau o weithrediadau gwastraff wedi'u hesemptio er mwyn gwirio eu bod yn cadw at y cyfyngiadau ac yn bodloni'r meini prawf.

Os byddwn yn dod yn ymwybodol o'r ffaith nad yw eich gweithgaredd yn cael ei ddefnyddio, nad yw ar waith mwyach, neu nad yw'r meini prawf yn cael eu bodloni, byddwn yn tynnu'r cofrestriad oddi ar y gofrestr gyhoeddus ("datgofrestru") ac yn eich hysbysu. Ni fyddwch yn gallu elwa ar yr esemptiad mwyach a gallai fod angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol er mwyn parhau â'ch gweithrediadau.

Os ydych wedi gweithredu'n anghyfreithiol (er enghraifft, y tu allan i gyfyngiadau'r esemptiad), gallech hefyd wynebu camau gorfodi.

Diweddarwyd ddiwethaf