Datganiad rheoleiddio 099.2: Awdurdodau casglu gwastraff: pryd y gallwch weithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2027, a bydd yn cael ei adolygu ar yr adeg honno. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.
Gall CNC dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Datganiad rheoleiddiol
Efallai y bydd awdurdodau casglu gwastraff neu eu darparwyr dan gontract eisiau sefydlu canolfannau casglu gwastraff dros dro ar gyfer trigolion, yn ogystal â'u Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref sefydlog, trwyddedig.
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn caniatáu i awdurdodau casglu gwastraff weithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol. Bydd gwastraff yn cael ei gadw yn y safleoedd hyn mewn cynwysyddion cyn cael ei ddanfon i'r system rheoli gwastraff arferol.
Os na allwch gydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn i gydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn.
Mae'n rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:
- Bod yn awdurdod lleol neu'n gweithio ar ran yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau rheoli gwastraff i drigolion yr awdurdod lleol
- Cytuno ar y rhestr o safleoedd ychwanegol i'w defnyddio, a'r dyddiadau cychwyn a gorffen, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru cyn derbyn unrhyw wastraff
- Sicrhau bod staff ar y safle yn ystod yr holl oriau gweithredu
- Rhoi gwastraff yn uniongyrchol mewn cynwysyddion neu gerbydau diogel sydd wedi'u bwriadu i gario gwastraff, a pheidio â'i storio ar y ddaear
- Gwneud yn siŵr bod y safle'n ddiogel. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau na all gwastraff ddianc ac na all unigolion heb awdurdod gael mynediad ato.
- Ni chewch storio mwy na
- 30 metr ciwbig o offer trydanol ac electronig gwastraff (WEEE)
- 100 metr ciwbig o wastraff nad yw'n beryglus nad yw'n WEEE a fydd yn cael ei adfer yn rhywle arall
- 5 metr ciwbig o unrhyw wastraff arall
Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- storio gwastraff am fwy na 7 diwrnod ar y safle dros dro
- cymysgu gwahanol fathau o wastraff
- trin y gwastraff mewn unrhyw ffordd ac eithrio didoli gwahanol fathau o wastraff i wahanol gynwysyddion
- storio unrhyw wastraff peryglus (er enghraifft asbestos neu olew) - rhaid mynd â'r mathau hyn o wastraff i safle â thrwydded addas
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i fod â thrwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff wrth weithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â'r angen am drwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni'r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
- achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig