Anifeiliaid heb asgwrn cefn yw infertebratau. Maen nhw'n cynnwys pryfed (fel gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod), corynnod, cramenogion (yn cynnwys moch coed a chrancod), molysgiaid (fel malwod a chregyn gleision), mwydod ac anifeiliaid microsgopig.

Mae dros 25,000 o rywogaethau yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw'n ddeniadol ac yn rhyfeddol, ac maen nhw'n hynod bwysig wrth drosglwyddo paill, ailgylchu, rheoli plâu a bod yn rhan o'r gadwyn fwyd.

Deddfwriaeth y DU

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), yn rhestru tua 70 o rywogaethau o infertebratau ar Atodlen 5. Mae ganddyn nhw wahanol lefelau o warchodaeth. Mae troseddau’n cynnwys cyfuniadau o’r canlynol, yn dibynnu ar ba mor brin yw’r rhywogaeth:

  • Gwerthu, cynnig gwerthu / neu roi i’w gwerthu
  • Meddu
  • Cymryd, lladd neu anafu’n fwriadol
  • Difa neu ddinistrio ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Rhwystro mynediad i’w man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid

Mae rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod yn llawn dan y Ddeddf yn cynnwys britheg y gors, mursen Penfro, cricsyn y tes, berdysyn gwisgi, gelen feddyginiaethol a'r fisglen berlog, ymhlith eraill.

I gael crynodeb o sut mae’r gyfraith yn gwarchod infertebratau, gweler Infertebratau a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru‘n rhoi trwyddedau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gwneud rhai gweithgareddau heb dorri’r gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol:

  • gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
  • gwarchod unrhyw gasgliad swolegol neu fotanegol
  • ffotograffiaeth
  • iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • atal clefyd rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati

Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith datblygu o dan y ddeddfwriaeth hon.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf