Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Trwyddedu Ceirw

Mae Deddf Ceirw 1991 (fel y’i diwygiwyd) yn gwarchod pob carw gwyllt rhag herwhela. Mae rhywogaethau Atodlen 1 yn cael eu gwarchod yn ystod y tymor caeedig. Mae cymryd neu ladd ceirw yn y nos, neu ddefnyddio rhai dulliau, yn erbyn y gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau at ddibenion penodol

Gwybodaeth am y coronafirws

 

Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.

 

  • Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
  • Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.
  • Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi.

 

Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth gweler ein prif dudalen ar y coronafirws.

Mae yna ddeddfwriaeth benodol i warchod ceirw, sef Deddf Ceirw 1991 (fel y’i diwygiwyd) a elwir ‘y Ddeddf’. Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg ceirw, ond mae’n gyflwyniad byr.

O dan y Ddeddf, mae’r camau canlynol yn anghyfreithlon:

  • Lladd / cymryd / anafu carw heb ganiatâd perchennog / deiliad y tir
  • Cymryd / anafu unrhyw rywogaeth Atodlen 1 yn ystod y tymor caeedig
  • Cymryd / anafu unrhyw garw yn y nos
  • Defnyddio trap, magl, abwyd gwenwynig neu gyffur syfrdanu, neu unrhyw rwyd i ladd / cymryd carw
  • Defnyddio unrhyw ddryll / bwledi a nodwyd yn Atodlen 2, neu saeth, gwaywffon ac ati
  • Defnyddio unrhyw daflegryn sy’n cynnwys gwenwyn, cyffur syfrdanu neu gyfrwng ymlacio cyhyrau
  • Defnyddio cerbyd mecanyddol i danio unrhyw ddryll neu yrru ceirw

Nid yw’n anghyfreithlon lladd neu gymryd carw er mwyn atal dioddefaint carw sydd wedi’i anafu neu sydd wedi dal clefyd.

Mae Atodlen 1 y Ddeddf Ceirw yn rhestru’r rhywogaethau canlynol: carw coch, danas, iwrch a charw sica. Cliciwch y ddolen ar y dudalen hon i gael fersiwn lawnach o’r Ddeddf.

Trwyddedu

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau at ddibenion gwyddonol o dan y ddeddfwriaeth. Mae’r trwyddedau yn caniatáu gweithgareddau a fyddai’n anghyfreithlon fel arall. O dan Adran 8(2) y Ddeddf, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau i gymryd ceirw er mwyn eu symud o un ardal i’r llall, neu gymryd ceirw byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol.

Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw geisiadau i symud ceirw o un ardal i’r llall oherwydd byddai hynny’n cynnwys goblygiadau posibl ar gyfer lledaenu clefydau.

Mae strategaeth ceirw Cymru, ‘Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru’ yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer rheoli ceirw yn gynaliadwy yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen ar y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am reoli ceirw.

Mae delwyr anifeiliaid hela wedi’u trwyddedu o dan Ddeddf Helwriaeth 1831 a Deddf Trwyddedau Helwriaeth 1860. Nid Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am roi’r trwyddedau hyn.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.